Swyddogaethau busnes

Hysbysebu

Canllawiau

Ar gyfer pob un o'r dulliau hysbysebu a ddangosir, cwblhewch y tabl drwy egluro manteision ac anfanteision y dull hwnnw.

Bydd angen i chi ystyried y canlynol:

  • Cost
  • Y Farchnad Darged
  • Cyrhaeddiad
  • Effeithiolrwydd

Gallwch deipio yn y blychau a wedyn argraffu eich ymateb drwy glicio ar y botwm argraffu.

Radio

Manteision

Gellir defnyddio sain a cherddoriaeth yn effeithiol. Gall gyrraedd cynulleidfaoedd mawr. Dewis o orsafoedd cenedlaethol neu leol er mwyn helpu i dargedu'r gynulleidfa. Yn rhatach na hysbysebu ar y teledu.

Anfanteision

Yn ddrud o hyd i fusnesau llai a chynulleidfa lai na'r teledu. Dim delwedd weledol i ddangos sut olwg sydd ar y cynnyrch.