Canllawiau
Ar gyfer pob un o'r dulliau hysbysebu a ddangosir, cwblhewch y tabl drwy egluro manteision ac anfanteision y dull hwnnw.
Bydd angen i chi ystyried y canlynol:
- Cost
- Y Farchnad Darged
- Cyrhaeddiad
- Effeithiolrwydd
Gallwch deipio yn y blychau a wedyn argraffu eich ymateb drwy glicio ar y botwm argraffu.
Teledu
Manteision
Gall gyrraedd miliynau o bobl ledled y wlad. Gall defnyddio sain, fideo, hiwmor pobl enwog ac ati wneud iddo apelio fwy.
Anfanteision
Bydd yn ddrud iawn creu'r hysbyseb a phrynu amser ar yr awyr. Ni fydd yn effeithiol o ran targedu darpar gwsmeriaid oni fydd y cynnyrch yn gynnyrch torfol. Ni fydd yn fforddiadwy i fusnesau llai.