Canllawiau
Edrychwch ar bob gosodiad, penderfynwch pa arddull arwain mae’n gysylltiedig ag ef a llusgwch ef i’r golofn briodol yn y tabl. Ar ôl i’r holl osodiadau gael eu gosod, cliciwch y botwm gwirio i weld faint gawsoch chi’n gywir. Os nad ydych wedi gosod pob un yn gywir gallwch symud y gosodiadau i golofnau gwahanol cyn gwirio eich ateb eto neu gwasgwch y botwm ailosod i ddechrau eto .
Unbenaethol
Tadol
Democrataidd
Laissez-faire
Biwrocrataidd
- Dim trafodaeth wrth wneud penderfyniadau
- Yn dda ar adegau o newid/argyfwng
- Dim rhan gan y gweithwyr
- Gweithwyr yn ddibynnol ar yr arweinydd
- Gweithwyr yn aml yn anfodlon ar yr arweinydd
- Lefelau uchel o oruchwyliaeth
- Yr arweinydd yn gwneud yr holl benderfyniadau
- Yn perswadio’r gweithwyr i ddilyn y penderfyniadau
- Mae’r arweinydd yn poeni am les y gweithwyr
- Mae ymgynghori â’r gweithwyr wrth wneud penderfyniadau
- Mae’r arweinwyr yn cynnwys y gweithwyr ym mhob agwedd ar y gwaith
- Yn annog cyfranogiad
- Mae angen sgiliau cyfathrebu da ar yr arweinwyr
- Mae’r gweithwyr â chymhelliant
- Yn hyrwyddo creadigrwydd
- Y maint isaf o fewnbwn gan yr arweinydd
- Mae gweithwyr yn cael llonydd i fynd ymlaen â’u gwaith
- Cyfle i weithwyr ddangos eu galluoedd
- Yn gallu arwain at gynhyrchedd isel
- Mae’r arweinwyr yn canolbwyntio ar arbenigedd swyddi
- Fel arfer yn gweithredu mewn strwythurau hierarchaidd
- Gweithwyr yn cael rhyddid cyfyngedig i wneud penderfyniadau o fewn terfynau
- Rolau swyddi wedi’u diffinio’n glir
- Nid yw’n rhoi cyfle i arloesi
Canlyniadau: