Ydych chi'n siŵr eich bod am ddileu eich anodiad? Ni ellir dadwneud hyn.
Astudiaeth achos – The Big Bang Theory
Cynrychioliad – Tudalen 16
Gwybodaeth
Genre/Cyd-destun: Comedi sefyllfa Americanaidd. Mae'n defnyddio stereoteipiau o fwy nag un grŵp ethnig i greu sefyllfaoedd doniol. Bydd cynulleidfa yn adnabod y stereoteipiau, gan eu bod nhw wedi'u hailadrodd mewn testunau tebyg sy'n perthyn i'r genre.
Croestoriadoldeb: Yn y rhaglen hon, mae mwy nag un maes cynrychioliad yn dod at ei gilydd, e.e. ethnigrwydd, rhyw a dosbarth. Mae'r cymeriadau hefyd yn dangos priodweddau mwy nag un grŵp, er enghraifft mae Rajesh yn Asiaidd ond mae hefyd yn 'geek'. Mae'n hunanfyfyriol ynglŷn â'i nodweddion stereoteipaidd ei hun, sy'n cynhyrchu rhywfaint o'r gomedi.
The Big Bang Theory
Cliciwch y botwm 'i' am wybodaeth gefndir cyn i chi ddecharu.
Beth mae'r dyfyniad hwn gan Rajesh yn ei ddweud wrthym ni am gynrychioliad ethnig?
'Mae Monopoly Indiaidd fel yr un arferol, ond mae'r arian mewn Rwpîs, rydych chi'n adeiladu canolfannau galwadau yn lle gwestai, a phan rydych chi'n codi cerdyn siawns, gallech chi farw o ddysentri.'
Nawr gwyliwch y darn o'r rhaglen deledu ac ystyriwch y cwestiynau.