Creu apêl

Gwaith dosbarth – modelu’r dulliau. Gallai’r atebion gynnwys:

  • apêl seren – mae adnabod y seren yn gweithredu fel marc ansawdd;
  • adnabod actorion eraill – bydd y ffaith bod Simon Pegg yn ymddangos yn y ffilm hon yn apelio at rai cynulleidfaoedd ac at ddilynwyr Simon Pegg;
  • yn gyfarwydd â’r fasnachfraint;
  • codau gweledol yn addo golygfeydd cyffro – codau genre;
  • mae’r llinell glo’n creu enigma a disgwyliadau o olygfeydd dwys;
  • mae’r ffilm mewn IMAX – addewid o wledd i’r llygaid – profiad sinematig;
  • tybiaeth o gyllideb uchel – eto’n ffordd o dawelu meddyliau;
  • mae cynllun y poster yn wahanol/anarferol sy’n creu effaith ddynamig ac yn atseinio’r dwyster sy’n cael ei addo yn y ffilm.

Sut mae poster Mission Impossible yn creu apêl i gynulleidfaoedd?

  • Mae’r cynllun yn anarferol – gwahanol.
  • Mae’r llinell glo’n creu pwyslais drwy ailadrodd, gan awgrymu golygfeydd dwys.
  • Enw’r seren wedi’i leoli uwchben y teitl – cysylltu Tom Cruise â’r fasnachfraint hon.
  • Y teitl a’r fasnachfraint yn gyfarwydd.
  • Codau lliw yn cyd-fynd â’r genre. Priflythrennu’n feiddgar ac yn wrywaidd.
mission impossible
  • Hierarchaeth elfennau – Tom Cruise wedi’i leoli’n amlwg yn ffrâm y poster.
  • Adnabod actorion gan gynnwys Simon Pegg.
  • Mae ffrwydradau'n godau cyffro ac yn awgrymu cyllideb fawr.
  • Mae’r nodweddion gweledol allweddol yn godau genre sy’n addo golygfeydd cyffro.
  • IMAX yn addo gwledd i’r llygaid a phrofiad sinematig.