Crynodeb o gynulleidfa: mae hi’n bwysig bod y dysgwyr yn deall rhai pwyntiau allweddol. Mae gan bob testun cyfryngol gynulleidfa darged – gallai’r cynulleidfaoedd hyn fod yn rhai prif ffrwd neu’n rhai niche [sefydlu termau allweddol]. Bydd y testun cyfryngol yn defnyddio gwahanol ddulliau i ddenu cynulleidfa ac i greu apêl [mae hyn yn arwain at astudiaeth fwy penodol o’r technegau a ddefnyddir fel arfer i greu apêl].
Mae gan bob testun cyfryngol gynulleidfa darged.
Mae’r cynulleidfaoedd hyn yn gallu bod yn fawr (prif ffrwd) neu’n llai (niche).
Bydd y testun cyfryngol yn defnyddio gwahanol ddulliau i ddenu cynulleidfa a chreu apêl.
Beth ydych chi’n meddwl yw’r dulliau hyn?
- Codau technegol/cynllun a dyluniad
- Iaith a modd cyfarch
- Cyfarwydd-deb a newydd-deb
- Defnyddio sêr/enwogion