Adnabod posteri ffilmiau

Gallwch chi ddefnyddio’r posteri a ddewiswyd i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth fel testun trafodaeth ynglŷn â nodweddion hanfodol posteri ffilmiau a’u pwrpas. Gallai’r pwyntiau trafod gynnwys:

  • Mae Raiders of the Lost Ark yn defnyddio eiconograffeg ffilmiau cyffro ac antur ynghyd â het eiconig y prif gymeriad a rolau stereoteipaidd y cymeriadau.
  • Mae Alien yn defnyddio lliwiau i gyfleu’r genre a dydy’r poster ddim yn datgelu llawer o naratif y ffilm, ond y llinell glo – In space no one can here you scream sydd wedi ennyn dychymyg cynulleidfaoedd.
  • Mae Titanic [y ffilm wnaeth yr elw gros mwyaf erioed ar ôl cael ei rhyddhau mewn sinemâu yn 1997, hyd nes i’r cyfarwyddwr James Cameron dorri ei record ei hun gydag Avatar] yn amlwg wedi’i phecynnu a’i gwerthu yma fel rhamant/trasiedi – ar y pryd, doedd ei photensial am lwyddiant masnachol ddim yn glir gan nad oedd y sêr yn arbennig o enwog, ac roedd hi wedi’i thargedu’n benodol at oedolion.

Allwch chi adnabod y ffilmiau o'u posteri? Trafodwch â’ch dosbarth ac yna cliciwch y mân-lun i weld y poster llawn. Oeddech chi’n gywir?

  • Mae posteri ffilmiau’n aml yn eiconig – maen nhw’n cyflawni hyn drwy ddefnyddio delwedd allweddol, llinell glo gofiadwy neu deipograffeg eiconig
  • Mae posteri ffilmiau’n crynhoi hanfod ffilm
  • Mae posteri’n sefydlu genre ffilm
  • Mae posteri’n sbarduno diddordeb yn y naratif
  • Dylai poster ddweud y stori mewn 30 eiliad
  • Mae posteri’n creu cysylltiad â’r gynulleidfa
  • Mae posteri llwyddiannus yn ennyn dychymyg y gynulleidfa ac yn annog gwylwyr i weld y ffilm