Dadansoddi posteri

Mae cwestiynau annog yn gallu rhoi cymorth i ddysgwyr eraill. Ar ôl astudio’r poster, gwyliwch y rhaghysbyseb ac ystyriwch pa wybodaeth/ddealltwriaeth bellach mae’r rhaghysbyseb yn ei rhoi i gynulleidfaoedd posibl. Mae hyn yn atgyfnerthu’r cysylltiad rhwng y poster ffilm ac elfennau eraill ymgyrch.

Atebwch y cwestiynau hyn sy’n seiliedig ar y poster.

guardians of the galaxy

Beth mae teitl y ffilm yn ei awgrymu?

Allwch chi adnabod eiconograffeg y genre?

Pwy yw’r sêr? Ydyn nhw’n adnabyddus am rolau blaenorol?

Sut mae’r prif gymeriadau wedi’u lleoli? Beth mae eu hystum, eu dillad, eu mynegiant wyneb yn ei ddweud wrthym amdanynt?

Beth mae eu lleoliad yn ei ddweud wrthym am eu rôl yn y naratif?

Oes yna hierarchaeth?

Beth mae’r ddelwedd allweddol yn ei awgrymu am naratif y ffilm?

Beth yw’r llinell glo? Ydy hi’n ychwanegu at y naratif? Beth mae clodrestr y poster yn ei ddweud wrthym?

Pa fath o bleserau mae’r ffilm yn eu cynnig?

Beth ydych chi’n meddwl yw USP (unique selling point: pwynt gwerthu unigryw) y ffilm?

i

Sylwch fod y poster ffilm yma ar gyfer y farchnad ryngwladol. Pan fydd ffilmiau'n cael eu rhyddhau ar gyfer y marchnadoedd hyn mae enw brand adnabyddus yn gymorth i'w hyrwyddo.