Genre

Genre fel dyfais farchnata

Gan ei bod hi'n amlwg bod cynulleidfaoedd yn rhannu dealltwriaeth o godau a chonfensiynau genres, mae hi’n glir, felly pam mae hyrwyddwyr ffilmiau’n defnyddio genre fel ffordd o gyfathrebu â chynulleidfaoedd posibl. Mae genre'n cael ei ddefnyddio mewn rhaghysbysebion ffilm a phosteri ffilmiau fel math o law-fer. Mae rhaghysbysebion yn cael eu hamgodio â nodweddion genre y mae cynulleidfaoedd yn gallu eu hadnabod a’u datgodio. Mae dadansoddi testunau clyweledol yn cyflwyno mwy o her o ran genre a marchnata oherwydd nawr mae cyflymder, golygu, cerddoriaeth, defnyddio troslais ac agweddau ar ddeialog hefyd yn gallu cyfrannu at synnwyr o genre'r ffilm. Rhaid iddyn nhw hefyd ystyried nawr yn fwy penodol a yw hi’n bosibl categoreiddio’r ffilm fel is-genre a/neu fel hybrid o wahanol genres.

Gwyliwch y rhaghysbysebion eto. Allwch chi adnabod y genre? Rhowch resymau am eich ateb.

Rhaghysbyseb Genre Eiconograffeg / codau sain/gweledol
Mission Impossible:Rogue Nation
Fantastic Four
Trainwreck
Pixels
The Gift

Pa nodweddion ychwanegol sy'n cael eu hychwanegu gan y rhaghysbysebion o ran genre? e.e. cerddoriaeth, golygu, troslais ayb.