Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn deall mai genre yw math o ffilm y gallwn ni ei adnabod yn ôl nodweddion a rennir.
Gofynnwch i’r dysgwyr: Beth yw eich hoff fath o ffilm? Beth oedd y ffilm ddiwethaf i chi ei gweld… Pa fath o ffilm oedd hi? Sut rydych chi’n gwybod? Gallwch chi adeiladu ar ddealltwriaeth syml. Mae hi’n debygol y bydd trafodaethau pellach yn gysylltiedig â rhai o’r pwyntiau uchod. Mae hi’n bwysig yma, datblygu dealltwriaeth y dysgwyr o sut mae’r diwydiant yn defnyddio genre i ddenu cynulleidfaoedd. Mae genre yn cael ei ddefnyddio fel strategaeth farchnata gan fod cynulleidfaoedd yn gwybod beth maen nhw’n eu hoffi, mae ganddyn nhw hoff genre fel arfer, ac mae ymgyrchoedd marchnata’n defnyddio hyn i ddenu cynulleidfaoedd. Mae gan ffilmiau o genre arbennig set o nodweddion penodol neu gonfensiynau penodol a rennir, bron fel rhestr o gynhwysion neu repertoire o elfennau. Os yw ffilm yn llwyddiannus gyda chynulleidfaoedd, yna bydd cynhyrchwyr testunau cyfryngol yn awyddus i greu ffilm sy’n gallu dyblygu’r llwyddiant hwnnw, felly gallwn ni ddeall genre fel strategaeth greadigol sy’n lleihau risg. Mae angen i hyrwyddwyr ffilmiau ddenu cynulleidfaoedd i wneud y mwyaf o apêl ffilm, felly mae genre’n gallu bod yn ddyfais farchnata ddefnyddiol, yn ffordd ddefnyddiol o gategoreiddio ffilmiau. Er bod rhai ffilmiau’n gallu bod yn boblogaidd gyda chynulleidfaoedd, dydy pobl ddim eisiau gweld yr un ffilm drosodd a throsodd, ac felly mae genre hefyd yn ymwneud â thebygrwydd a gwahaniaeth. Mewn ffilm genre felly, efallai y gallwn ni adnabod rhai mathau o gymeriadau, bydd yna stori nodweddiadol a set o sefyllfaoedd, ond bydd yna ddigon o wahaniaeth i greu apêl ffres. Mae hi’n bwysig i ffilm gael ei USP ei hun [unique selling point: pwynt gwerthu unigryw].