Rhaghysbysebion ffilm

Yn draddodiadol, roedd rhaghysbysebion dim ond yn cael eu gwylio mewn sinemâu ac roedden nhw’n rhan o uchafbwynt yr ymweliad â’r sinema - cael gweld beth oedd ar y gweill a phrofi’r disgwyliad a’r cyffro a oedd yn cael ei greu. Mae hyn dal i fod yn rhannol wir ac mae gwylio rhaghysbyseb dal i fod yn rhan bwysig o’r ymweliad â’r sinema - gweld golygfeydd rhagflas ar y sgrin fawr, datgelu edrychiad ffilm neu ddod â chymeriadau’n fyw. Oherwydd bod gwneud ffilmiau’n broses hir, yn aml, caiff raghysbysebion ffilm (nifer o fersiynau ohonynt) eu rhyddhau flwyddyn cyn y ffilm ei hun, eto er mwyn creu, ac yna i gynnal diddordeb.

Fodd bynnag, yn aml, caiff rhaghysbysebion eu gwylio ar gyfryngau eraill, gan fod cynulleidfaoedd yn cael eu targedu’n eithaf penodol, felly mae’r cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan fwy a mwy amlwg.

Er enghraifft, un duedd newydd yw ‘datgloi’ lle bydd rhywun yn trydar am ffilm ac yn annog digon o bobl eraill i wneud yr un peth, nes bod rhaghysbyseb ffilm yn cael ei datgloi i bobl ei gwylio. Gan fod ffilmiau wrthi'n cael eu cynhyrchu am flynyddoedd, mae yna duedd cynyddol i gwmnïau [porthiant swyddogol] drydar ffotograffau o setiau, gwisgoedd a hyd yn oed pytiau o ddeunydd fideo o ffilm i ennyn sgwrs ar gyfryngau cymdeithasol. I rai pobl, mae hyn yn datgelu gormod ac yn difetha’r profiad o weld ffilm am y tro cyntaf ar y sgrin fawr, ond i eraill, mae hyn yn cynyddu'r disgwyliadau.
Gweler:
[http://www.independent.co.uk/arts-entertainment/films/news/from-teaser-clips-to-tweets-how-social-media-killed-the-art-of-the-movie-trailer-10378630.html]
a
[http://www.theguardian.com/film/filmblog/2014/jun/16/twitter-movie-website-hashtag-film-social-media].

Mae rhaghysbysebion ffilmiau’n cael eu creu gan dîm marchnata cwmni ac maen nhw’n rhan bwysig o ymgyrch farchnata. Ble ydych chi’n gweld rhaghysbyseb ffilm fel arfer? Ble yw’r lle gorau i leoli rhaghysbyseb ffilm? Llenwch y grid isod.

Lle Mantais Anfantais
Sinema
Teledu
Gwefan Swyddogol
YouTube
Tudalennau Facebook swyddogol

Cafodd rhaghysbyseb Star Wars Episode VII ei gwylio 88 miliwn o weithiau mewn 24 awr ar ei thudalen Facebook swyddogol…

Torrodd yr ail raghysbyseb holl recordiau YouTube – cafodd ei gwylio 30.65 miliwn o weithiau mewn 24 awr.