Cynulleidfaoedd

Gofynnwch i’r dysgwyr luniadu grid ac yna astudio naill ai’r posteri neu’r rhaghysbysebion ac awgrymu at bwy roedd y ffilmiau wedi’u hanelu. Dylai’r dysgwyr ddefnyddio nodweddion sydd wedi'u cynnwys yn y poster a/neu'r rhaghysbysebion i gyfiawnhau eu hatebion. [Mae’r gweithgaredd hwn yn dechrau paratoi dysgwyr i ddeall bod ymgyrchoedd marchnata wedi’u llunio i apelio at gynulleidfaoedd penodol cyn astudiaeth fanylach o sut mae rhaghysbysebion a phosteri, y meysydd testun, yn gwneud hyn.] Gallai’r rhesymau am yr apêl gynnwys:

TFIOS = sêr adnabyddus Divergent, troslais y cymeriad benywaidd [adnabod], apêl emosiynol y ddrama, rhamant a pherthnasoedd, yn seiliedig ar lyfr cyfarwydd/poblogaidd, cwmni’n gweithredu fel marc ansawdd, presenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol.

Tammy = dilynwyr Melissa McCarthy – yn amlwg yn y ffilm, yn adnabyddus am ffilmiau blaenorol [Heat, Identity Thief], golygfeydd comedïaidd drwy gydol y ffilm – genre yn glir, dilynwyr Susan Sarandon – yn ymddangos yn y rhaghysbyseb.

Boyhood = cysyniad anarferol, ffilm annibynnol [IFC yn gwmni annibynnol sy’n eiddo i AMC] – yn cynnig rhywbeth gwahanol i’r fformiwlâu genre arferol, sêr yn ymddangos yn y ffilm – Patricia Arquette/Ethan Hawke, sylwadau cadarnhaol gan feirniaid, efallai bod y cyfarwyddwr yn adnabyddus am waith blaenorol.
Efallai y caiff mwy nag un gynulleidfa ei hawgrymu ar gyfer pob ffilm ond anogir dysgwyr i wneud y cysylltiadau rhwng diwydiant>ffilm>cynulleidfa ac i ategu eu hawgrymiadau, a ddylai, ar y cam hwn, ddechrau bod yn seiliedig ar wybodaeth a dealltwriaeth o’r diwydiant.

Astudiwch gopïau o’r posteri a/neu gwyliwch raghysbysebion y ffilmiau canlynol ac awgrymwch gynulleidfaoedd posibl ar gyfer pob un.

Ffilm Tystysgrif Cynulleidfaoedd Rhesymau/Nodweddion
1 The Fault in Our Stars 12A
2 Tammy 15
3 Boyhood 15
  • merched yn eu harddegau
  • oedolion 35+
  • cynulleidfa brif ffrwd
  • cynulleidfa niche
  • merched a bechgyn yn eu harddegau
  • menywod 25-35
  • cyplau hŷn
  • teuluoedd
  • dilynwyr…
  • Cynulleidfaoedd Prydeinig
  • Cynulleidfaoedd Americanaidd
  • Cynulleidfaoedd Rhyngwladol
  • arall…
  • cynulleidfa barod…