Dangoswch raghysbyseb un o’r ffilmiau ar y rhestr cyllideb: Jurassic World / Furious 7 / Avengers: Age of Ultron. Tra'n gwylio, gofynnwch i'r dysgwyr wneud nodiadau o bopeth maen nhw'n meddwl sy'n costio arian.
Gallai’r nodweddion hyn gynnwys: sêr, CGI, lleoliadau, cast, propiau, styntiau, ffrwydradau, amrywiaeth o saethiadau camera [o’r awyr, cledru (tracking), craen ayb.], sgript/deialog, cerddoriaeth. Gallwch chi ystyried mai’r tair ffilm yw’r ffilmiau blocbyster, stiwdio â chyllideb fawr a gyfeiriwyd atynt ynghynt a bod y rhaghysbysebion yn arddangos y wledd weledol maen nhw’n gallu fforddio ei chynnig i gynulleidfaoedd prif ffrwd.
Mae’r pleserau sy'n cael eu cynnig yn tueddu i fod yn ddihangol ac yn addo profiad sinematig, gyda’r nod o ddenu pobl i sinemâu. Yn eu nodiadau gallai dysgwyr awgrymu nodweddion sy’n perthyn i’r cam cyn-gynhyrchu/y cam cynhyrchu a’r cam ôl-gynhyrchu o wneud ffilmiau, y gellir eu harchwilio’n benodol.