Beth ydych chi’n meddwl oedd y ffilmiau wnaeth yr elw gros mwyaf yn 2015 ? [Ion-Awst]
1 | Jurrasic World (Uni) |
---|---|
2 | Avengers: Age of Ultron (BV) |
3 | Furious 7 (Uni) |
4 | Inside out (BV) |
5 | Minions (Uni) |
Oeddech chi’n gywir? Pa ffactorau wnaethoch chi eu hystyried wrth benderfynu ar eich ateb?
Ymchwil dosbarth [grŵp ffocws]. Pa rai o’r ffilmiau mawr hyn mae’r disgyblion yn eich grŵp cyfryngau wedi’u gweld?
Faint sydd wedi gweld Jurassic World/Avengers/Furious 7 ayb? Cofnodwch eich canfyddiadau.
Oes gwahaniaethau rhwng y ffilmiau mae’r merched a’r bechgyn yn y dosbarth wedi’u gweld? Beth allai egluro unrhyw wahaniaethau? Gwnewch fwy o ymchwil yn y dosbarth.
Mae’r ffilmiau hyn i gyd wedi cael tystysgrif 12A neu U gan y BBFC. Ydy hyn yn arwyddocaol?