Gwefannau ffilmiau

Marchnata trawsblatfform a chydgyfeiriant

Mae’n fanteisiol bod dysgwyr yn gallu defnyddio ac archwilio gwefan ffilm sydd wedi’i rhyddhau ar hyn o bryd. Gellid defnyddio’r enghreifftiau yma i ddangos y nodweddion y mae angen iddyn nhw eu nodi.

Ydy’r brandio’n glir? Sut mae hyn yn cael ei greu?
Pa nodweddion rhyngweithiol sydd yna?
Sut mae defnyddwyr yn gallu cael mwy o wybodaeth am y ffilm?
Oes yna nodweddion adloniant/difyrrwch?
Sut mae’r wefan yn annog cymuned ar-lein?
Chwiliwch am enghreifftiau o gydgyfeiriant.
Rhowch enghreifftiau o’r gwahanol nwyddau sydd ar gael i’w prynu.
Beth mae’r wefan yn ei hychwanegu at brofiad y gynulleidfa/defnyddwyr o'r ffilm?

Archwiliwch y wefan swyddogol ac ystyriwch sut mae hi’n annog cynulleidfaoedd/defnyddwyr i ymgysylltu. Cliciwch ar y gair 'Godzilla '.

Nodweddion allweddol:
  • safleoedd rhwydweithio cymdeithasol
  • bar dewislen
  • cynnwys fideo mewn llinell (in-line video content)
  • mân-luniau (thumbnails)
  • cynllun lliwiau
  • logos
  • brandio
  • cynnwys rhyngweithiol
  • gemau
  • synergedd
  • eiconograffeg y genre
  • hypergysylltiadau
  • fforymau nwyddau
  • cymunedau ar-lein