Nod y gweithgaredd hwn yw i ddechrau trafodaeth. Gofynnwch i’r myfyrwyr drafod mewn parau pa un fyddai orau ganddynt ei ddathlu - gŵyl Holi neu Diwali?
Pam y byddai pobl yn dewis un ŵyl yn hytrach na’r llall? Ai oherwydd y gweithgareddau sy’n rhan o’r ŵyl? Ai oherwydd hyd yr ŵyl? Ai oherwydd y bobl sy’n rhan o’r ŵyl?
Wedyn, gofynnwch iddyn nhw ystyried yr ateb o safbwynt yr eiconau drwy glicio ar yr eicon i ddangos awgrymiadau ar gyfer trafod.