Dyn cyffredin oedd yr Iesu – Graddio

Cliciwch ar y cyfeiriadau ysgrythurol i’w darllen yn llawn ac yna graddiwch nhw yn ôl pa un sy’n dangos yr Iesu fwyaf fel dyn anghyffredin. Cyfiawnhewch eich dewisiadau drwy ystyried pam mae'r cyfeiriad yn awgrymu nad oedd yr Iesu yn ddyn cyffredin. Fyddai pawb yn cytuno bod y cyfeiriad yn awgrymu nad oedd yr Iesu yn ddyn cyffredin? Pa mor anghyffredin y mae’r cyfeiriad yn awgrymu oedd yr Iesu?

Ioan 1 a14

A daeth y Gair yn gnawd a phreswylio yn ein plith, yn llawn gras a gwirionedd; gwelsom ei ogoniant ef, ei ogoniant fel unig Fab yn dod oddi wrth y Tad.

Luc 1 a30-33

…Meddai’r angel wrthi,

“Paid ag ofni, Mair, oherwydd cefaist ffafr gyda Duw; ac wele, byddi’n beichiogi yn dy groth ac yn esgor ar fab, a gelwi ef Iesu. Bydd hwn yn fawr, a Mab y Goruchaf y gelwir ef; rhydd yr Arglwydd Dduw iddo orsedd Dafydd ei dad, ac fe deyrnasa ar dŷ Jacob am byth, ac ar ei deyrnas ni bydd diwedd.”

Marc 10 a18

Pam yr wyt yn fy ngalw i yn dda? Nid oes neb da ond un, sef Duw.

Matthew 26 a26-28

Ac wrth iddynt fwyta, cymerodd Iesu fara, ac wedi bendithio fe’i torrodd a’i roi i’r disgyblion, a dywedodd,

“Cymerwch, bwytewch; hwn yw fy nghorff.”

A chymerodd gwpan, ac wedi diolch fe’i rhoddodd iddynt gan ddweud,

“Yfwch ohono, bawb, oherwydd hwn yw fy ngwaed i, gwaed y cyfamod, a dywelltir dros lawer er maddeuant pechodau.”

Eseia 53 a5

Ond archollwyd ef am ein troseddau ni, a'i ddryllio am ein camweddau ni; roedd pris ein heddwch ni arno ef, a thrwy ei gleisiau ef y cawsom ni iachâd.

Luc 24 a1-8

Ar y dydd cyntaf o’r wythnos, ar doriad gwawr, daethant at y bedd gan ddwyn y peraroglau yr oeddent wedi eu paratoi. Cawsant y maen wedi ei dreiglo i ffwrdd oddi wrth y bedd, ond pan aethant i mewn ni chawsant gorff yr Arglwydd Iesu.

Yna, a hwythau mewn penbleth ynglŷn â hyn, dyma ddau ddyn yn ymddangos iddynt mewn gwisgoedd llachar. Daeth ofn arnynt a phlygasant eu hwynebau tua’r ddaear. Meddai’r dynion wrthynt,

“Pam yr ydych yn ceisio ymhlith y meirw yr hwn sy’n fyw? Nid yw ef yma; y mae wedi ei gyfodi. Cofiwch fel y llefarodd wrthych tra oedd eto yng Ngalilea, gan ddweud ei bod yn rhaid i Fab y Dyn gael ei draddodi i ddwylo dynion pechadurus, a’i groeshoelio, a’r trydydd dydd atgyfodi.”

A daeth ei eiriau ef i’w cof.

1 Corinthiaid 15 a3-8

Oherwydd, yn y lle cyntaf, traddodais i chwi yr hyn a dderbyniais: i Grist farw dros ein pechodau ni, yn ôl yr Ysgrythurau; iddo gael ei gladdu, a’i gyfodi y trydydd dydd, yn ôl yr Ysgrythurau; ac iddo ymddangos i Ceffas, ac yna i’r Deuddeg.

Yna, ymddangosodd i fwy na phum cant o’r brodyr ar unwaith - ac y mae’r mwyafrif ohonynt hyn fyw hyd heddiw, er bod rhai wedi huno. Yna, ymddangosodd i Iago, yna i’r holl apostolion. Yn ddiwethaf oll, fe ymddangosodd i minnau hefyd, fel i ryw erthyl o apostol.

Ioan 14 a28

Y mae’r Tad yn fwy na mi.

Ioan 10 a30

“Myfi a’r Tad, un ydym.”

Ioan 8 a12

Myfi yw goleuni’r byd.