Un o'r prif ddadleuon crefyddol yn erbyn ewthanasia yw mai dim ond Duw ddylai gymryd bywyd. Dim ond Duw a all ddewis pryd fydd unigolyn yn marw. Mae ewthanasia'n golygu bod bodau dynol yn chwarae bod yn Dduw ac mae'n her i awdurdod Duw. |
Nid yw dyneiddwyr yn credu yn Nuw, ac mae llawer yn credu y dylai fod gan unigolyn hawl i ddewis sut a phryd y bydd yn marw, os yw'n dioddef. Os yw pobl sydd â chred grefyddol yn dewis peidio â chyfranogi mewn ewthanasia, dyna eu dewis nhw, ond mae Dyneiddwyr yn ystyried nad yw’n iawn fod pobl grefyddol yn rhwystro pobl eraill, nad ydyn nhw'n rhannu eu cred, a allai ddymuno marw â chymorth.
Hefyd, gallai rhai ddadlau nad yw meddygaeth fodern, sy'n atal pobl rhag marw ac sy’n ymestyn eu bywydau, yn parchu dewis Duw ynghylch pryd fydd unigolyn yn marw. Pam dewis defnyddio'r rheol hon ar gyfer diweddu bywyd yn unig, ac nid ar gyfer ymestyn bywyd y tu hwnt i'w derfyn naturiol?
|
Mae sancteiddrwydd bywyd yn ddadl grefyddol bwysig arall yn erbyn ewthanasia. Mae bywyd dynol yn gysegredig, wedi'i greu gan Dduw at ddiben arbennig; dylid gofalu amdano a'i gadw - ni ddylid byth ei ddinistrio. |
Nid yw dyneiddwyr yn credu bod bywyd yn gysegredig, gan nad ydyn nhw'n credu mai Duw sy'n rhoi bywyd. Mae pobl yn llunio pwrpas i'w bywydau eu hunain, ac os nad ydyn nhw'n credu bod eu bywydau bellach yn gallu bod yn bwrpasol nac yn foddhaus, dylai fod ganddyn nhw'r rhyddid i ddewis dod â’u dioddefaint i ben.
|
Gall pobl sydd â chred grefyddol hefyd ystyried bod cymryd bywyd unigolyn diniwed yn bechod. |
Nid yw dyneiddwyr yn credu mewn pechod. Pennir bod gweithredoedd yn gyfiawn neu'n anghyfiawn drwy gydwybod a chyfeirio at gyfraith gwlad. Byddai dyneiddwyr yn dadlau bod gwneud i unigolyn ddioddef yn ddiangen yn waeth na diweddu bywyd yn ddi-boen, ar gais yr unigolyn ei hun.
|
Mae llawer o bobl grefyddol a digrefydd yn poeni y gallai caniatáu ewthanasia arwain at lwybr llithrig - ymhle ydych chi'n tynnu'r llinell? Er enghraifft, os caiff ewthanasia ei ganiatáu ar gyfer pobl sydd ag afiechyd terfynol, yna gellid dadlau y dylid ei ganiatáu hefyd i'r rheini sy'n gorfod dioddef gydag afiechydon parhaol nad ydyn nhw'n derfynol. |
Mae Urddas wrth Farw yn ymgyrchu dros sefydlu rhagofalon llym i sicrhau bod modd cynnwys y proffesiwn meddygol. Mae dyneiddwyr yn credu y dylai ewthanasia fod yn ddewis i'r unigolyn bob tro; ni ddylai gael ei hybu na'i wneud yn ofynnol gan wasanaeth iechyd na gwladwriaeth, ac ni ddylid byth ei argymell i glaf.
|
Pa un a ydyn nhw'n grefyddol ai peidio, mae llawer o bobl yn poeni y gallai caniatáu i gleifion ddewis ewthanasia arwain at gam-fanteisio ar bobl fregus - gallen nhw deimlo pwysau i ddewis ewthanasia os ydyn nhw'n teimlo eu bod yn faich ar eu teuluoedd, neu'n straen ar y gwasanaethau iechyd. |
|
Gallai pobl grefyddol a digrefydd bryderu, pe bai meddygon yn cael perfformio ewthanasia, y gallai hyn arwain at chwalu'r ymddiriedaeth rhwng meddygon a chleifion. |
Nid yw hyn wedi digwydd yn y mannau lle caniateir i feddygon ymgymryd â marwolaeth â chymorth ar gais y claf. Mae llawer o Ddyneiddwyr yn dadlau bod meddygon bellach yn gallu estyn bywydau cleifion y tu hwnt i derfynau naturiol a bod hyn yn arwain at ddioddefaint diangen, estynedig. Gellid dadlau y gallai hyn arwain at bobl yn peidio ag ymddiried mewn meddygon.
|
Mae meddygon yn tyngu'r Llw Hipocratig, sy'n golygu eu bod yn addo cadw bywyd ac na fyddan nhw fyth yn helpu cleifion i ddiweddu eu bywyd, drwy roi cyngor iddyn nhw ar sut i wneud hynny neu eu helpu'n gorfforol i farw. |
Er bod iddo fwriad aruchel, mae llawer o bobl yn dadlau nad yw'r Llw Hipocratig hynafol bellach yn cyd-fynd a meddygaeth fodern. Pan luniwyd y Llw, nid oedd yr ymyriadau meddygol niferus a ddefnyddir heddiw i gadw claf yn fyw yn bodoli. Byddai llawer o bobl yn dadlau bod rhai o'r ymyriadau hyn sy'n estyn bywydau yn greulon ac yn ymestyn dioddefaint y cleifion.
|
Gall gofal lliniarol i'r rheini sydd â salwch terfynol leddfu poen a dioddefaint a chynnig marwolaeth gymharol gyfforddus i'r claf. Gall hosbis ofalu am yr unigolyn sy'n marw mewn modd mwy holistig nag ysbyty. |
Mae'n beth da bod opsiynau ar gael i gleifion ac mae gofal mewn hosbis yn gyffredinol yn rhagorol. Fodd bynnag, mae llefydd mewn hosbis yn gyfyngedig yn y DU, ac yn aml maen nhw'n arbenigo mewn gofal canser - beth os oes gan yr unigolyn sy'n marw fath arall o glefyd? Yn y pen draw, dylai gofal lliniarol fod yn opsiwn a dylai'r claf fod yn gwybod amdano, ond yn y diwedd dylai cleifion allu ymarfer yr hawl i ddewis amser a lleoliad eu marwolaeth, yn ogystal â phwy fydd yno gyda nhw.
|