Trefnwch y cardiau hyn drwy eu llusgo i fyny ac i lawr y rhestr nes eu bod yn y drefn gywir.

  • Cerddoriaeth ragarweiniol
  • Gair o groeso
  • Meddyliau am fywyd a marwolaeth o safbwynt anghrefyddol.
  • Y deyrnged - amlinelliad o fywyd a phersonoliaeth yr unigolyn sydd wedi marw.
  • Darlleniadau barddoniaeth a rhyddiaith.
  • Myfyrio - amser i bawb feddwl am yr unigolyn sydd wedi marw, un ai mewn tawelwch neu i gyfeiliant cerddoriaeth.
  • Y cymundod - pan gaiff y llenni eu cau ar gyfer yr amlosgiad neu caiff yr arch ei gostwng ar gyfer y gladdedigaeth.
  • Geiriau clo - gan gynnwys diolch ar eich rhan
  • Cerddoriaeth i gloi
  • Cerddoriaeth anghrefyddol a ddewisir gan yr ymadawedig neu ei deulu, i groesawu galarwyr.
  • Geiriau agoriadol, sydd weithiau'n esbonio beth yw angladd Dyneiddiol.
  • Esboniad o gredoau Dyneiddiol ynglŷn â bywyd ar ôl marwolaeth a pham y dewisodd yr ymadawedig gael seremoni o'r fath.
  • Trosolwg personol o fywyd yr ymadawedig. Gall aelod o'r teulu neu ffrind gyflwyno'r deyrnged neu gall fod ar ffurf 'mic agored' gan roi cyfle i unrhyw un sy'n dymuno dweud rhywbeth.
  • Gellir darllen barddoniaeth anghrefyddol neu ddyfyniadau a oedd yn golygu rhywbeth arbennig i'r ymadawedig.
  • Dim gweddïau - Dim ond cyfle i anwyliaid yr ymadawedig feddwl am eu colled a chofio'r ymadawedig yn eu ffordd eu hunain.
  • Ni fyddwch yn clywed 'lludw i'r lludw, pridd i'r pridd' nac unrhyw gyfeiriad at fywyd tragwyddol mewn byd arall yma, fel y byddech mewn angladd Cristnogol traddodiadol.
  • Crynhoi a diolch i'r galarwyr am ddod.
  • Caiff cerddoriaeth a oedd yn golygu rhywbeth arbennig i'r ymadawedig ei chwarae i ddod â'r seremoni i ben.