► Llusgwch pob Term allweddol at y diffiniad cywir.
► Cliciwch ar 'Gwirio ateb' i weld sawl ymgais sy'n gywir.
► Cliciwch ar 'Ailosod' i glirio eich dewisiadau.
► Efallai bydd y gweithgaredd yma i'w weld orau gyda sgrin lawn – 'Full screen' drwy bwyso F11.
Termau allweddol
- Ecosystem
- Biom
- Gwe fwyd
- Cynhyrchydd
- Ysyddion
- Llysysydd
- Cigysydd
- Dadelfennydd
- Seroffyt
- Cylchred faetholion
Diffiniad
- Cymuned o blanhigion ac anifeiliaid a'r amgylchedd y maent yn byw ynddo
- Rhanbarthau'r byd lle mae gan blanhigion ac anifeiliaid nodweddion tebyg oherwydd hinsoddau tebyg
- Rhwydwaith o berthnasoedd bwydo sy'n trosglwyddo egni a maetholion o un organeb byw i un arall
- Organebau mewn ecosystem sy'n creu deunydd planhigion gan ddefnyddio egni'r haul trwy ffotosynthesis
- Anifeiliaid sy'n sicrhau egni wrth fwyta organebau eraill
- Anifail sy'n sicrhau egni wrth fwyta planhigion yn unig
- Anifail sy'n sicrhau egni wrth fwyta anifeiliaid eraill
- Organebau sy'n torri planhigion ac anifeiliaid sy'n dadelfennu, a gwastraff o anifeiliaid, i lawr
- Planhigyn sydd wedi addasu i fyw mewn ardaloedd sydd ag ond ychydig o ddŵr
- Symudiad maetholion rhwng yr amgylchedd ffisegol ag organebau byw
0 allan o 10 yn gywir.