Astudiwch yr 20 datganiad ar y sgrin ac ystyriwch a ydynt yn awgrymu fod Sydney yn ddinas global ai peidio.
Cliciwch ar bob datganiad a phenderfynwch drwy glicio ar 'IE' neu 'NA' yn y ffenestr sy'n ymddangos.
Cliciwch ar ddatganiad eto os ydych am newid eich meddwl.
Cliciwch ar 'Ailosod' i glirio eich dewisiadau.
Efallai bydd y gweithgaredd yma i'w weld orau gyda sgrin lawn – 'Full screen' drwy bwyso F11.
Poblogaeth Sydney yw 4.5 miliwn. Nid yw eto yn 'fega ddinas'.
Mae 45 o'r 47 banc rhyngwladol sy'n gweithredu yn Awstralia yn Sydney.
Mae Sydney yn aml yn cael ei ystyried yn le i fynd ar wyliau nid lle i wneud busnes.
Mae cyfradd twf economaidd Sydney yn isel iawn gyda dros 150 o ddinasoedd eraill yn y byd yn tyfu ar raddfa gyflymach.
Nid oes gan Sydney drefn cludiant dinas gyfan. Mae 70% o'r boblogaeth yn dibynnu ar eu ceir.
Nid yw'r isadeiledd sy'n cynnal busnes wedi ei ddatblygu digon i ganiatáu tyfiant economaidd cyflym.
O'r holl gwmnïau rhyngwladol sydd yn Awstralia, mae 65% ohonynt yn Sydney.
Mae maes awyr Sydney yn hedfan i 46 o gyrchfannau rhyngwladol. Mae Heathrow yn hedfan i 170.
Mae un rhan o dair o boblogaeth Sydney yn siarad iaith ar wahân i Saesneg yn eu cartrefi.
Mae llawer o'r cwmnïau amlwladol sydd wedi eu lleoli yn Sydney yn tueddu i weithredu yn lleol yn hytrach na gwneud penderfyniadau o bwysigrwydd byd eang.
Mae Sydney yn bell o'r mannau mae'n masnachu gyda nhw.
Sydney yw un o'r dinasoedd mwyaf amlddiwylliannol yn y byd.
Mae cylchfa amser Sydney yn golygu bod modd gwneud busnes gydag Asia a’r UDA yn ystod yr un diwrnod.
Ystyrir Sydney yn un o ddinasoedd gorau'r byd o ran ansawdd bywyd.
Mae'r isadeiledd sy'n cefnogi busnes o safon uchel.
Mae holl ddarlledwyr teledu Awstralia wedi eu lleoli yn Sydney ac mae yno ddiwydiannau marchnata ac animeiddio o'r safon uchaf.
Mae canolfannau rhanbarthol 60% o'r cwmnïau sy'n gweithredu yn rhanbarth Asia-Cefnfor Iwerydd wedi eu lleoli yn Sydney.
Mae'r nifer a gyflogir mewn diwydiannau arloesol yn llai na llawer o ddinasoedd eraill.
Mae Sydney yn denu bron 3 miliwn o ymwelwyr yn flynyddol. O ran nifer o ymwelwyr mae'n rhif 42 ar restr dinasoedd y byd.
Sydney yw'r ddinas fwyaf poblogaidd o ran myfyrwyr rhyngwladol. Mae ei phrifysgolion yn cynnwys dros 50,000 o fyfyrwyr rhyngwladol.