Astudiwch y graff a'r datganiadau A-F sy'n cyfeirio at safle ar y graff.
Cliciwch ar y saethau (< >) bob ochr i'r blwch datganiadau i weld pob datganiad.
Wrth edrych ar bob datganiad cliciwch ar y blwch cywir ar y graff a bydd llythyren y datganiad yn ymddangos.
Os am ail feddwl a newid eich dewis cliciwch ar flwch arall ar y graff.
Gorffennwch y dasg trwy osod llythyren ym mhob blwch ar y graff a chliciwch ar 'Gwirio' er mwyn gweld sawl ymgais sy'n gywir.
Cliciwch ar 'Ailosod' i glirio'r blychau ar y graff.
Efallai bydd y gweithgaredd yma i'w weld orau gyda sgrin lawn – 'Full screen' drwy bwyso F11.
A Wedi'r Ail Ryfel Byd, mae rhannu'r India a ffurfiant Pacistan yn achosi'r mudo mwyaf o bobl erioed. Mae llawer o ffoaduriaid Hindŵ yn cyrraedd Mumbai lle mae Llywodraeth India yn
cynnig lloches (asylum) iddynt.
B
Mae Mumbai yn tyfu i fod yn ddinas mega wrth i'r boblogaeth gyrraedd 10 miliwn.
C Mae'r Chwyldro Gwyrdd (rhaglen y llywodraeth i wella amaethyddiaeth a gychwynnodd yn y 1960au) yn lleihau'r angen am weithwyr fferm mewn ardaloedd gwledig a dim ond ffermydd mawr sy'n gallu fforddio cemegau a pheiriannau. Mae gweithwyr fferm yn symud i'r
dinasoedd i chwilio am ansawdd bywyd gwell.
Ch Cynnydd naturiol (cyfradd geni uwch na chyfradd marw) yn achosi twf cyflymach na'r
mudo ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf.
D
Mae'r boblogaeth yn cymryd dros 40 mlynedd i gynyddu 1 miliwn.
Dd
Mae'r boblogaeth yn cymryd 2 flynedd i gynyddu 1 miliwn.
E Pobl yn parhau i fudo i'r ddinas o rannau eraill o India i chwilio am waith ac
ansawdd bywyd gwell gan gyfrannu at dwf mewn poblogaeth o 4 miliwn mewn 10 mlynedd.
F
Wedi llawer o flynyddoedd y gyfradd twf yn arafu wrth i deuluoedd gael llai o blant.