Cynnwys
- Cymalau ac ymgymalu
- Planau ac echelinau cylchdro
- Patrymau symud
- Liferi
Er mwyn deall sut i wella'n dechnegol, rhaid i'r athletwr neu'r hyfforddwr ddeall cydrannau'r model technegol a'r symudiadau sy'n cyfrannu at berfformiad llwyddiannus.
Mae gwybodaeth am y system sgerbydol a sut mae'n gweithio yn ein helpu i ni i ddeall symudiadau ac yn egluro sut mae sgiliau'n cael eu perfformio. Mae'r symudiadau posibl ym mhob cymal neu bwynt ymgymalu (lle mae dau asgwrn neu fwy yn cyfarfod) yn gallu helpu hyfforddwyr i ddeall y broses o ddatblygu sgiliau a gwella perfformiad.
Caiff cymalau sgerbydol eu dosbarthu yn ôl eu nodweddion strwythurol a swyddogaethol (faint o symud sydd ganddyn nhw a'r math o symud).
Cymalau (dosbarthiadau strwythurol)
Dyma'r cymalau mwyaf cyffredin yn y system sgerbydol ddynol. Mae yna geudod yn y cymal ac mae ligamentau'n dal yr esgyrn sy'n ymgymalu gyda'i gilydd. Mae'r cymalau hyn yn symud yn rhydd.
Synovial Joint Structure
Mathau o Gymalau Synofaidd
Cymal Synofaidd | Adeiledd | Symudiad | Enghraifft |
---|---|---|---|
Pelen a chrau | Triechelog, mwyaf symudol | Plygu/estyn, alldynnu/atynnu, cylchdroi, cylchddwytho | clun ysgwydd |
Colfach | Unechelog, un plân | Plygu/estyn | Penelin pen-glin |
Colyn | Unechelog, un plân | Cylchdroi | gwddf - atlanto-echelog |
Llithro | Esgyrn yn llithro heibio'i gilydd | carpalau, tarsolau | |
Cambylaidd/elipsoid | Dwyechelinol - dau blân | Plygu/estyn, alldynnu/atynnu | arddwrn - radio-carpalau |
Er mwyn deall perfformiad chwaraeon, mae angen i ni allu disgrifio symudiad y corff dynol. Gan ddefnyddio planau ac echelinau symud a gweithredoedd cymalau, gallwn ddisgrifio perfformiad a deall y ffordd mae pobl yn symud.
Planau symud: Mae yna 3 phlân anatomegol dychmygol sy'n cyfarfod yng nghraidd disgyrchiant y corff, gan rannu'r corff yn rhannau cyfartal.
Mae'r rhan fwyaf o symudiadau mewn chwaraeon yn digwydd mewn sawl plân. Fodd bynnag, mae rhai symudiadau yn fwy planar (mewn un plân) nag eraill.
Pan mae symudiad mewn un plân, mae'n golygu nad oes yr un rhan o'r corff yn croesi o un ochr o'r plân i'r llall yn ystod y symudiad.
Mae yna 3 echelin anatomegol dychmygol sy'n cyfarfod yng nghraidd disgyrchiant y corff. Yn y rhan fwyaf o weithredoedd chwaraeon, mae symud yn ymwneud â mwy nag un echelin.
Gan ddefnyddio'r planau ac echelinau symud a gweithredoedd cymalau, gallwn ddisgrifio perfformiad a deall y ffordd mae pobl yn symud.
Cymal | Symudiad | Plân | Echelin | Enghraifft |
---|---|---|---|---|
Colfach – penelin | Plygu/estyn | Saethol | Traws | Cyrlio'r cyhyryn deuben |
Pelen a chrau – ysgwydd | Plygu/estyn Plygu - breichiau i fyny | Saethol | Traws | Neidio yn y lein |
Pelen a chrau ysgwydd | Alldynnu - i ffwrdd Atynnu - tuag at | Talcennol | Talcennol | Olwyn dro |
Pelen a chrau – ysgwydd | Cylchddwytho - cyfuniad o symudiadau | Talcennol/Traws | Talcennol/Traws | Bowlio |
Pelen a chrau – ysgwydd | Cylchdroi - troi | Traws | Hydredol | Gyrru pêl golff |
Pelen a chrau – ysgwydd | Alldynnu/atynnu llorweddol | Traws | Traws | Disgen |
Elipsoid - pigwrn | Cefnblygu-bodiau i fyny Plygu gwadnol - wedi'u pwyntio | Saethol | Traws | Naid hir neu gymnasteg |
Elipsoid - arddwrn | Pronadu - cledr i lawr Dyleddfu - cledr i fyny | Saethol | Talcennol | Disgen Rhowlio pêl |
Mae liferi yn ein galluogi i greu symudiad sy'n fwy na'r grym a ddefnyddir. Mae'r sgerbwd yn ffurfio system o liferi sy'n caniatáu i ni symud.
Swyddogaethau liferi:
Mae liferi'n cynnwys tair cydran:
Mae tri dosbarth o liferi:
Lifer dosbarth 1, e.e. gwddf - penio'r bêl
Lifer dosbarth 2, e.e. pigwrn - plygu gwadnol
Lifer dosbarth 3, e.e. pen-glin yn cicio pêl
Dyma'r lifer mwyaf cyffredin yn y corff dynol ac mae'n cynyddu gallu'r corff i symud yn gyflym; serch hynny, nid yw'n gallu cymhwyso grym yn effeithlon.
Mae'r rhan fwyaf o'r liferi yn y corff yn liferi dosbarth 3; mae hyn yn golygu: