Seicoleg Chwaraeon - Straen, sbarduno a phryder

Cyflwyniad

Astudiaeth o bobl a'u hymddygiad ym maes chwaraeon yw seicoleg chwaraeon. I'r chwaraewr a'r hyfforddwr, mae'r maes hwn yn llawn mor bwysig â hyfforddiant corfforol a dadansoddi perfformiad. Mae llwyddiant yn cael ei briodoli i gymhelliant, ffocws a bod â'r meddylfryd cywir, yn ogystal â chydlyniad y tîm.

Cynnwys

  • Straen
  • Sbarduno
  • Pryder

Straen

Symbyliad yw hwn sy'n arwain at ymateb cadarnhaol neu negyddol mewn sefyllfa benodol. Mae'n cynhyrchu symptomau ffisiolegol a seicolegol.

"mae patrwm cyflyrau ffisiolegol negyddol yn digwydd mewn sefyllfaoedd ble mae pobl yn canfod bygythiadau i'w lles, lle y gallan nhw fethu â'i gyflawni".
Lazarus (1984)

Felly gellir egluro straen fel dwy ffurf:

  • Eustress - mae hwn yn gadarnhaol ac yn rhoi teimlad o foddhad ac yn sbarduno. Mae'n gallu cynyddu ffocws, sylw a lefel sgil. Mae rhai athletwyr yn mynd ati i chwilio am sefyllfaoedd llawn straen ac maent angen sefyllfaoedd llawn straen.
  • Trallod - ffurf negyddol o straen yw hwn ac mewn achosion eithafol mae'n achosi pryder ac ofn. Mae'n tueddu i gael effaith andwyol ar berfformiad yn y byd chwaraeon.

Effeithiau straen ar berfformiad

Yn dibynnu ar lefel gallu, lefel cystadlu neu bersonoliaeth yr athletwr, mae straen yn gallu cael effaith fawr ar berfformiad. Os yw'r athletwr yn gweld y gofyniad fel her (eustress) neu fel bygythiad (trallod), y canlyniad fydd cynnydd mewn cymhelliant a pherfformiad yn achos y cyntaf o gymharu â chynnydd mewn gofid a lleihad mewn perfformiad yn achos yr ail.

Achosion straen

Bydd athletwyr yn ymateb yn wahanol yn yr un sefyllfa, dyma rai o brif achosion straen:

  • Mewnol - salwch, cwsg, personoliaeth Math A.
  • Allanol - amgylchedd, pobl eraill, galwedigaethol.

Pryder

Dyma gyflwr emosiynol negyddol sy'n gysylltiedig â straen, gofid, nerfusrwydd ac ofn. Mae achosion pryder yr un fath â'r rhai sy'n gysylltiedig â straen i raddau helaeth. Mae dau brif fath o bryder:

  • Pryder nodweddion - dyma'r craidd personoliaeth, a gofid/ymddygiad cyson waeth beth fo'r sefyllfa.
  • Pryder cyflwr - mae hwn yn newidiol ac yn amrywio yn dibynnu ar y sefyllfa. Cyflwr hwyl dros dro yw hwn ac mae dau fath ohono:
    • Pryder cyflwr gwybyddol - faint o bryder;
    • Pryder cyflwr somatig - y newidiadau ffisiolegol oherwydd dirnadaeth.

Effeithiau pryder ar berfformiad yn y byd chwaraeon

Pan fydd athletwr yn profi gofid a meddyliau negyddol (pryder cyflwr gwybyddol), mae'n gwneud penderfyniadau gwael ac mae ei lefelau canolbwyntio'n disgyn, gan gynyddu nifer y camgymeriadau. Gellir monitro hyn yn ôl y cynnydd mewn ymatebion pryder cyflwr somatig, sy'n cynnwys cynnydd yng nghyfradd curiad y galon, chwysu a phwysedd gwaed. Mae rhai o'r symptomau pryder hyn yn fuddiol i berfformiad yn y maes chwaraeon, ond os yw athletwr o'r farn eu bod yn digwydd am nad yw'n gallu bodloni gofynion y gweithgaredd, mae pryder cyflwr gwybyddol yn cynyddu eto.

Sbarduno

Cyfeirir at sbarduno fel cyflwr seicolegol o fod yn effro a disgwylgar sy'n paratoi'r corff i weithredu. Mae gan athletwyr unigol wahanol lefelau sbarduno ac mae naill ai'n negyddol neu'n gadarnhaol ond byth yn niwtral.

Damcaniaethau sbarduno

Mae modd dangos perfformiad yn y byd chwaraeon a'i berthynas â sbarduno drwy sawl damcaniaeth:

  • Damcaniaeth cymhelliad
  • Damcaniaeth U wrthdro
  • Damcaniaeth trychineb
  • Damcaniaeth Cylchfa Gweithrediad Optimaidd (ZOF)

Damcaniaeth cymhelliad

Dyma berthynas linellol rhwng sbarduno a pherfformiad, wrth i sbarduno gynyddu, mae perfformiad yn cynyddu hefyd.

% of maximum rate of energy production

Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn awgrymu mai dim ond hyd ryw fan mae'r ddamcaniaeth hon yn berthnasol, ac wedi hynny gall yr athletwr fod wedi gorsbarduno ac mae perfformiad yn gwaethygu.

Damcaniaeth U wrthdro

Yn ôl y ddamcaniaeth hon, mae lefel optimaidd o sbarduno (a fydd yn gwahaniaethu o un gamp i'r llall ac o un athletwr i'r llall). Bydd lefelau perfformiad ar eu gorau ar y pwynt sbarduno optimaidd. Os yw'r sbarduno yn rhy isel neu'n rhy uchel, bydd y perfformiad yn is.

% of maximum rate of energy production

Damcaniaeth trychineb

Mae'r ddamcaniaeth hon yn wahanol i'r ddamcaniaeth U wrthdro am ei bod yn cysylltu sbarduno a phryder. Os oes gan athletwr lefelau uchel o bryder cyflwr gwybyddol, wrth i sbarduno gynyddu tuag at drothwy’r athletwr, mae perfformiad yr athletwr yn disgyn yn ddramatig. Mae'r ddamcaniaeth hon hefyd yn dibynnu ar yr angen am sbarduno a phryder gwybyddol i gyflawni perfformiad optimaidd.

% of maximum rate of energy production

Cylchfa Gweithrediad Optimaidd (ZOF) (Hanin)

Mae perthynas straen, pryder a sbarduno i gyd yn effeithio ar gymhelliant a gwelliant mewn perfformiad hyd at ryw fan. Fodd bynnag, mae gan berfformiad optimaidd lawer o newidynnau eraill sy'n effeithio ar sbarduno a'r unigolyn:

Personoliaeth
Mae pobl allblyg yn perfformio'n dda pan maent wedi sbarduno.
Mae pobl fewnblyg yn perfformio

Tasg
Fe wnaeth syml/bras berfformio'n well ar lefelau uchel o sbarduno.
Fe wnaeth cymhleth/manwl

Cyfnod dysgu
Mae'r cyfnod ymreolaethol yn perfformio'n well ar lefelau uchel o sbarduno.
Mae'r cyfnodau gwybyddol a chysylltiadol yn perfformio'n well ar lefelau isel o sbarduno.

Yn wahanol i'r ddamcaniaeth U wrthdro, mae ZOF yn datgan bod unigolion yn perfformio orau ar wahanol lefelau o sbarduno, yn dibynnu ar y ffactorau uchod. Felly nid yw perfformiad optimaidd pob athletwr ar frig yr U

% of maximum rate of energy production
Personality Task type Stages of Learning
Athlete A
Low Zone of Functioning
(low arousal)
Introvert Simple/Gross skills, e.g. Shotput cognative/associative phase
Athlete C
High Zone of Functioning
(high arousal)
extrovert Complex/Fine skills, e.g. Spin bowling Autonomous

Effeithiau sbarduno ar berfformiad yn y byd chwaraeon

Os yw'r perfformiwr yn credu bod lefelau sbarduno yn gadarnhaol, bydd yn cael effaith gadarnhaol ar berfformiad (bod yn y gylchfa). Fodd bynnag, os yw'r newidiadau'n cael eu gweld fel rhywbeth negyddol, bydd yn cynyddu pryder cyflwr somatig a gwybyddol. Mae mygu yn digwydd mewn sefyllfaoedd pwysedd uchel ac mae'r cyflwr dwysach hwn yn achosi nerfusrwydd eithafol a pherfformiad trychinebus.

Rheoli, straen, sbarduno a phryder

Mae ymlacio cyhyrol cynyddol yn dechneg sy'n cael ei defnyddio i gael gwared ar densiwn yn y cyhyrau. Mae'r dechneg hon yn galluogi'r athletwr i gyfangu ymlacio a thensiwn yn y cyhyrau. Mae hefyd yn cyfuno rheoli anadlu, sy'n helpu gyda symptomau pryder cyflwr somatig. Mae sawl gwahanol fath o'r rheolaeth bioadborth hon.

Mae delweddaeth yn galluogi athletwyr i gynyddu/lleihau lefelau sbarduno/pryder drwy ddelweddu agweddau ar berfformiadau cadarnhaol blaenorol. Os oes angen magu plwc, mae'r athletwr yn canolbwyntio ar berfformiadau a oedd yn gofyn am lefelau uchel o egni a rhagor o sbarduno. Os oes angen lleihau pryder a straen, mae'r athletwr yn canolbwyntio ar deimladau o les a theimladau cadarnhaol.

Ffocws siarad â'i hun yw bod y perfformiwr yn argyhoeddi ei hun ei fod yn ddigon da i berfformio a chwarae'n dda. Bydd y rhan fwyaf o bobl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon wedi ei ddefnyddio, e.e. ‘Dere!/Tyrd! Ti'n gallu neud hyn!’

Hunanhyder

Mae seicolegwyr chwaraeon, hyfforddwyr ac athletwyr yn gweithio'n galed i fagu hyder yn y sbortsmon. Mae'r technegau sydd eisoes wedi'u trafod yn helpu gydag ac yn cefnogi hunanhyder yr athletwr. Mae'n bwysig datblygu teimladau o werth a llwyddiant a chanolbwyntio ar berfformiadau llwyddiannus.

Adolygu cyflym

  • Symbyliad yw straen sy'n arwain at ymateb cadarnhaol neu negyddol i sefyllfa benodol. Mae'n cynhyrchu symptomau ffisiolegol a seicolegol.
  • Mae dwy ffurf o straen: eustress - mae hwn yn gadarnhaol ac yn rhoi teimlad o foddhad ac yn sbarduno. Trallod - ffurf negyddol o straen yw hwn ac mewn achosion eithafol mae'n achosi pryder ac ofn.
  • Yn dibynnu ar lefel gallu, lefel cystadlu neu bersonoliaeth yr athletwr, mae straen yn gallu cael effaith fawr ar berfformiad.
  • Mae pryder yn gyflwr emosiynol negyddol sy'n gysylltiedig â straen, gofid, nerfusrwydd ac ofn.
  • Mae dau brif fath o bryder: pryder nodwedd - dyma'r craidd personoliaeth, pryder cyflwr - mae hwn yn newidiol ac yn amrywio yn dibynnu ar y sefyllfa.
  • Mae dau fath o bryder cyflwr: pryder cyflwr gwybyddol - faint o bryder, a phryder cyflwr somatig - y newidiadau ffisiolegol oherwydd dirnadaeth.
  • Cyfeirir at sbarduno fel cyflwr seicolegol o fod yn effro a disgwylgar sy'n paratoi'r corff i weithredu.
  • Mae modd dangos perfformiad yn y byd chwaraeon a'i berthynas â sbarduno drwy sawl damcaniaeth: Damcaniaeth cymhelliad, Damcaniaeth U wrthdro, Damcaniaeth trychineb, Damcaniaeth Cylchfa Gweithrediad Optimaidd (ZOF).