Seicoleg Chwaraeon - Personoliaeth

Cyflwyniad

Astudiaeth o bobl a'u hymddygiad ym maes chwaraeon yw seicoleg chwaraeon. I'r chwaraewr a'r hyfforddwr, mae'r maes hwn yn llawn mor bwysig â hyfforddiant corfforol a dadansoddi perfformiad. Mae llwyddiant yn cael ei briodoli i gymhelliant, ffocws a bod â'r meddylfryd cywir, yn ogystal â chydlyniad y tîm.

Cynnwys

  • Personoliaeth - damcaniaethau, mathau, proffilio

Personoliaeth

Dyma'r patrwm unigryw o ymddygiad a nodweddion mae person/athletwr yn ei arddangos. Mae rhai seicolegwyr yn credu mai personoliaeth sydd wraidd llwyddiant neu fethiant ar y maes chwarae.

" Personoliaeth yw'r agwedd barhaus a sefydlog o gymeriad, natur, deallusrwydd ac agwedd gorfforol mwy neu lai, sy'n pennu'r addasu unigryw i'r amgylchedd".
Eysenck.

Mae yna nifer o ddamcaniaethau ac ymagweddau sy'n ceisio egluro personoliaeth a sut mae'n gallu dylanwadu ar gyfranogiad a pherfformiad. Y prif ddamcaniaethau yw:

  • Damcaniaeth nodweddion - Eysenck
  • Damcaniaeth dysgu cymdeithasol - Bandura
  • Damcaniaeth fiolegol - Sheldon
  • Ymagwedd ryngweithiol

Damcaniaeth nodweddion - Eysenck

Mae personoliaeth yn gynhenid ac mae yng ngenynnau'r athletwr, wedi'i hetifeddu gan ei rieni. Mae'r ddamcaniaeth hon yn honni bod pob ymddygiad yn gynhenid a bod gan berson duedd naturiol i ymddwyn mewn unrhyw sefyllfa benodol. Mae'r ymddygiadau hyn yn gyson a gellir eu mesur drwy holiaduron (CASTELLS 16 PF). Y broblem gyda'r ddamcaniaeth hon yw nad yw'n ystyried addasu ymddygiad i'r amgylchedd neu nad oes modd darogan ymddygiad ym mhob achos.

Mae'r ddamcaniaeth nodweddion yn cynnwys dau ddimensiwn ar gyfer personoliaeth:

% of maximum rate of energy production
  • Dimensiwn mewnblyg-allblyg
  • Dimensiwn sefydlog-niwrotig

Cynigiodd Eysenck fod yna 4 math o bersonoliaeth:

  • Allblyg a sefydlog, e.e. mewnwr, bachwr
  • Allblyg a niwrotig
  • Mewnblyg a sefydlog, e.e. asgellwr
  • Mewnblyg a niwrotig

Mae damcaniaethwyr Nodweddion eraill yn cynnig bod dau fath o bersonoliaeth:

Math A Math B
Hynod gystadleuol
Dyhead i lwyddo
Yr angen i fod mewn rheolaeth
Tueddu i deimlo straen
Anghystadleuol
Diffyg dyhead i lwyddo
Ddim yn mwynhau rheolaeth
Llai tueddol o deimlo straen

Damcaniaeth dysgu cymdeithasol - Bandura

Caiff personoliaeth ei dysgu drwy brofiadau amgylcheddol a dylanwad pobl eraill. Felly nid yw'n sefydlog, ond yn hytrach mae'n newid drwy'r amser o ganlyniad i sefyllfaoedd cymdeithasol. Mae personoliaeth yn esblygu drwy fodelu ac atgyfnerthu; modelu eu hunain ar athletwyr y gallant uniaethu â nhw ac ymddygiad yn cael ei atgyfnerthu'n gadarnhaol ac felly ei ailadrodd.

Nododd Bandura bedwar prif gam dysgu arsylwadol:

Sylw
Dysgu drwy arsylwi.
Lefel benodol o barch tuag at y model.

Cadw
Rhaid gallu cofio sgil neu ymddygiad a'i alw i gof.

Atgynhyrchu motor
Rhaid bod â'r gallu corfforol i gyflawni'r dasg sy'n cael ei harsylwi.
Amser i ymarfer.

Ymateb cymhelliant
Mae angen cymell athletwr neu ni fydd yn pasio drwy'r 3 cham cyntaf.
Mae cymhelliant yn dibynnu ar atgyfnerthu.

Fodd bynnag, nid yw'r ddamcaniaeth hon yn ystyried ffactorau cynhenid yn enetig ac felly nid yw ond yn cynnig un farn ynghylch pa mae cyfranogiad a pherfformiad yn amrywio rhwng unigolion.

Damcaniaeth fiolegol - Sheldon

Nododd Sheldon fod personoliaeth wedi'i chategoreiddio'n dair personoliaeth, yn seiliedig ar gyfansoddiad corfforol. Arddangoswyd personoliaeth ar sail nodweddion corfforol a'r berthynas rhwng corff ac ymddygiad. Mae'r tri chategori'n cynnwys:

  • Endomorffh
  • Ectomorff
  • Mesomorff

Endomorff

Mae'r endomorff yn eithaf 'crwn' yn gorfforol, ac fe'i nodweddir fel y person 'barrel of fun'. Mae'n tueddu i fod â:

  • chluniau llydan ac ysgwyddau cul (siâp gellygen),
  • eithaf tipyn o fraster wedi'i wasgaru ar hyd y corff.

Yn seicolegol, mae'r endomorff yn:

  • gymdeithasol, llawn hwyl, goddefgar, sad, hamddenol.

Ectomorff

Yr ectomorff yw'r rhyw fath o wrthwyneb i'r endomorff. Yn gorfforol, mae'n tueddu i fod ag:

  • ysgwyddau a chluniau cul,
  • brest ac abdomen tenau a chul
  • ychydig iawn o fraster ar y corff.

Er efallai ei fod yn bwyta'r un faint â'r endomorff, nid ydyn nhw byth i weld yn magu pwysau (er mawr siom i'r endomorff).

Yn seicolegol, mae'n:

  • hunanymwybodol, mewnblyg, ataliedig, pryderus yn gymdeithasol, dwys, meddylgar.

Mesomorff

Mae'r mesomorff rhywle yn y canol rhwng yr endomorff crwn a'r ectomorff tenau. Yn gorfforol, dyma'r corff mwyaf 'dymunol', ac mae ganddo:

  • ysgwyddo llydan a gwasg cul (siâl lletem),
  • corff cyhyrog.
  • ychydig iawn o fraster ar y corff.

Mae'n cael ei ystyried yn gorff 'lluniaidd'.

Yn seicolegol, mae'n:

  • anturus, dewr, pendant, cystadleuol, barod i fentro, allblyg.

Ymagwedd ryngweithiol

Mae personoliaeth yn deillio o nodweddion cynhenid a phrofiadau wedi'u dysgu. Y farn gyffredinol yw mai cyfuniad o'r ddwy ddamcaniaeth sy'n egluro ymddygiad. Defnyddiodd Hollander (1967) y ddamcaniaeth cylchoedd consentrig i egluro'r ymagwedd ryngweithiol.

% of maximum rate of energy production

Mae llinell ffin pob haen yn mynd yn lletach wrth i chi nesáu at ganol y model, sy'n dangos bod pob haen yn anoddach i fynd i mewn iddi. Wrth i chi symud yn agosach at y canol, mae'ch personoliaeth 'go iawn' yn dechrau dod i'r wyneb.

Proffilio personoliaeth

Mae cryn dipyn o waith ymchwil wedi'i wneud i geisio arddangos perthynas rhwng personoliaeth ac ymddygiad, llwyddiant a chyfranogiad mewn chwaraeon.

Fel hyfforddiant corfforol a dadansoddiad biofecanyddol, mae'n bwysig llunio proffil personoliaeth hefyd, er mwyn nodi cryfderau a gwella cyfyngiadau. Gellir asesu drwy:

  • gyfweliadau
  • holiaduron
  • arsylwadau hyfforddwr

Bydd cyfuniad o'r dulliau uchod yn helpu i nodi ymddygiad a phersonoliaethau. Gallai dadansoddi canlyniadau'n ofalus gynorthwyo gyda chymhelliant ac ymlyniad.

Holiaduron

Holiadur 16PF Cattell (Damcaniaeth nodweddion)

Prawf yw hwn sy'n mesur (nodwedd) personoliaeth arferol.)

Prawf Pryder Cystadleuaeth Chwaraeon (Martens 1977)

Mae'r prawf hwn yn ceisio darogan ymddygiad mewn sefyllfa gystadleuol (nodwedd).

Adolygu cyflym

  • Astudiaeth o bobl a'u hymddygiad ym maes chwaraeon yw seicoleg chwaraeon.
  • Personoliaeth yw'r patrwm unigryw o ymddygiad a nodweddion mae person/athletwr yn ei arddangos. Mae rhai seicolegwyr yn credu mai personoliaeth sydd wraidd llwyddiant neu fethiant ar y maes chwarae.
  • Mae yna nifer o ddamcaniaethau ac ymagweddau sy'n ceisio egluro personoliaeth a sut mae'n gallu dylanwadu ar gyfranogiad a pherfformiad:
  • Damcaniaeth nodweddion (Eysenck) - Mae personoliaeth yn gynhenid ac mae yng ngenynnau'r athletwr, wedi'i hetifeddu gan ei rieni.
  • Damcaniaeth dysgu cymdeithasol (Bandura) - Caiff personoliaeth ei dysgu drwy brofiadau amgylcheddol a dylanwad pobl eraill.
  • Damcaniaeth fiolegol (Sheldon) - Cafodd personoliaeth ei chategoreiddio'n dair personoliaeth yn seiliedig ar gyfansoddiad corfforol.
  • Ymagwedd ryngweithiol - Mae personoliaeth yn deillio o nodweddion cynhenid a phrofiadau wedi'u dysgu.
  • Proffilio personoliaeth - Mae cryn dipyn o waith ymchwil wedi'i wneud i geisio arddangos perthynas rhwng personoliaeth ac ymddygiad, llwyddiant a chyfranogiad mewn chwaraeon.