Cynnwys
- Cymhelliant - cyhenid/allanol, cymhelliant cyflawni, hunanhyder
Astudiaeth o bobl a'u hymddygiad ym maes chwaraeon yw seicoleg chwaraeon. I'r chwaraewr a'r hyfforddwr, mae'r maes hwn yn llawn mor bwysig â hyfforddiant corfforol a dadansoddi perfformiad. Mae llwyddiant yn cael ei briodoli i gymhelliant, ffocws a bod â'r meddylfryd cywir, yn ogystal â chydlyniant y tîm.
Gellir diffinio cymhelliant fel yr ysfa i gymryd rhan a dyfalbarhau mewn gweithgaredd, mae'n ffactor arwyddocaol yn gysylltiedig ag ymlyniad at chwaraeon. Mae dau brif fath o gymhelliant:
Cymryd rhan mewn gweithgaredd er mwynhad personol, heb wobr allanol. Mae cymryd rhan mewn chwaraeon er mwyn teimlo'n dda yn gymhelliant cynhenid, synnwyr o gyflawni. Hefyd gall cymhelliant cynhenid fod yn ddatblygiad gwybodaeth a'r dyhead i wella yn ogystal â llif adrenalin (symbyliad).
Cymryd rhan mewn gweithgaredd oherwydd dylanwad allanol, gall hyn fod ar ffurf gwobr go iawn (ffisegol - arian, tlws) neu anghyffwrdd (nad ydynt yn ffisegol - clod neu foddhad hyfforddwr). Er mwyn i'r athletwr barhau'n frwdfrydig, mae angen defnyddio gwobrwyon yn effeithiol.
Mae'n bwysig bod cymhelliant allanol yn cael ei ddefnyddio i gynyddu cymhelliant cynhenid drwy gynnig gwybodaeth er mwyn gwella. Os defnyddir ysgogwr allanol fel mecanwaith rheoli (symiau mawr o arian), mae'n cael effaith andwyol ar gymhelliant cynhenid.
Cymhelliant cyflawni yw'r cysyniad bod personoliaeth yn gysylltiedig â chystadleuolrwydd; mae'n canolbwyntio ar i ba raddau mae unigolyn wedi'i gymell i lwyddo. Mae'n ymddangos bod sawl math o nodau y gellir barnu llwyddiant yn eu herbyn:
Gellir mynegi cymhelliant cyflawni fel y nodwedd personoliaeth sy'n cael ei hysgogi gan unrhyw sefyllfa benodol. Mae'r sefyllfa yn cynnwys y tebygolrwydd o lwyddiant a gwerth cynhenid llwyddiant. Nododd Atkinson a McClelland (1976) y byddai gan bawb yr 'angen i lwyddo' (NACh) a'r 'angen i osgoi methiant' (NAF) mewn unrhyw sefyllfa heriol. P'un bynnag o'r teimladau hyn sydd gryfaf fydd yn penderfynu a yw'r dasg yn cael ei derbyn neu ei gwrthod.
Mae nodweddion personoliaeth cymhelliant cyflawni i'w gweld isod:
Mae ymchwil wedi dangos os yw'r siawns o lwyddo yn 50/50 a bod gwerth y cymhelliant yn NACH uchel, mae nodweddion personoliaeth yn cael eu harddangos. I'r gwrthwyneb, bydd perfformwyr â NCH isel yn profi mwy o bryder ac yn profi diymadferthedd wedi'i ddysgu.
Ystyr cystadleuolrwydd yw'r cymhelliant i gyflawni yn y byd chwaraeon. Mae ymchwil yn awgrymu bod athletwyr yn ffafrio nodau perfformiad a bod pobl nad ydynt yn athletwyr yn ffafrio nodau canlyniad (Holiadur Tueddfryd Chwaraeon SOQ). Mae'n bwysig nodi'r cysylltiad rhwng cystadleuolrwydd, hyder a gosod nodau.
Caiff hunanhyder ei ddiffinio fel cred person bod ganddo'r gallu i gwrdd â gofynion y gamp/gweithgaredd. Mae nodweddion personoliaeth NACH uchel yn cynnig hunangred a gall hyfforddwyr gael dylanwad cadarnhaol ar ddirnadaeth athletwyr. Dengys ymchwil mai gwahaniaeth mwyaf cyson rhwng athletwyr elît a rhai llai llwyddiannus yw mwy o hunanhyder.
Term Bandura ar gyfer hunanhyder mewn sefyllfa benodol yw hunaneffeithlonrwydd.
Bydd hunaneffeithlonrwydd yn penderfynu ar y dewis o weithgaredd, lefel yr ymdrech a graddau'r dygnwch. Mae athletwyr hunaneffeithlonrwydd uchel yn fwy tebygol o geisio cyrraedd nodau heriol, ymdopi â phoen, a dyfalbarhau drwy anffawd.
Mae modd datblygu a newid hunaneffeithlonrwydd drwy bedwar prif fath o wybodaeth:
Cyflawniadau perfformio Strategaethau i wella hunaneffeithlonrwydd |
Llwyddiant mewn profiad blaenorol - mewn tasgau anodd a llwyddiant cynnar. Dependable information – facts and achievement independently is better Effaith orau ar wella hunaneffeithlonrwydd. Dylai tasgau fod yn briodol gyda thebygolrwydd uchel o lwyddiant. |
Profiadau dirprwyol Strategaethau i wella hunaneffeithlonrwyddy |
Neu fodelu - dysgu drwy wylio tasg anodd yn cael ei pherfformio'n llwyddiannus. Gall hyn leihau pryder oherwydd mae'n dangos bod modd cwblhau'r dasg. Mae arddangos mor bwysig. Modelu gyda chymheiriaid, nid arbenigwyr. |
Perswadio llafar Strategaethau i wella hunaneffeithlonrwydd |
Annog hunaneffeithlonrwydd perfformwyr. Mae'r effeithiau'n llai na chyflawni perfformiad a phrofiad dirprwyol. Mathau o adborth, sgyrsiau tîm, anogaeth. Adborth - cyson, cywir, penodol, realistig, cynyddol. |
Cynnwrf emosiynol Strategaethau i wella hunaneffeithlonrwydd |
Sut rydych chi'n dehongli cynnwrf Os ydych chi'n teimlo newidiadau somatig, gall hyn leihau hunaneffeithlonrwydd a hyder. Bydd perfformwyr llai hyderus yn cael eu llesteirio gan gynnwrf Felly dylai technegau lleihau pryder gynyddu hunaneffeithlonrwydd. Anoddaf i newid lefelau cynnwrf. Gwybodaeth (knowledge) a gwybodaeth (information) am weithgaredd a theimladau. |
Gall gosod nodau yn effeithiol wella hunaneffeithlonrwydd cyn belled â bod y nodau'n rhai CAMPUS a rhaid iddynt fod yn unigol. Hefyd mae rheolweithiau yn sicrhau bod unigolion yn gallu rheoli cynnwrf; weithiau mae'r rheolweithiau hyn yn gysylltiedig ag ymarfer meddyliol, gan ddwyn i gof cyflawniadau perfformio.