Y system gyhyrol-ysgerbydol

Cyflwyniad

Mae'r ffordd y mae symudiadau yn digwydd yn cyfrannu at berfformiad llwyddiannus. Mae'r system ysgerbydol a chyhyrol yn cydweithio'n agos a chyfeirir atynt fel y system gyhyrysgerbydol. Bydd y system hon yn helpu i ddadansoddi symudiadau a gwella techneg.

Cynnwys

  • Y system ysgerbydol – adeiledd a swyddogaeth
  • Y system gyhyrol – adeiledd a swyddogaeth
  • Gweithrediad cyhyrau gwrthweithiol – prif symudwyr, sefydlogydd, synergydd
  • Ffibrau cyhyrol - nodweddion Math I, Math IIa, Math IIb
  • Mathau o gyfangiad cyhyrol

Y system ysgerbydol

Mae gwybodaeth am y system ysgerbydol a'r ffordd y mae'n gweithio yn ein helpu i ddeall symud ac esbonio sut y caiff sgiliau eu cyflawni. Mae'r ysgerbwd yn darparu cydfannau ar gyfer y system gyhyrol ar gyfer symud ac yn amddiffyn yr organau hanfodol megis y system cardio-anadlol a fasgwlar.

Mae gan yr oedolyn dynol cyffredin 206 o esgyrn sydd wedi'u rhannu rhwng yr ysgerbwd echelinol a'r ysgerbwd atodol. Mae prif swyddogaethau'r systemau ysgerbydol fel a ganlyn:

Ysgerbwd Swyddogaeth Esgyrn Enghraifft ym myd chwaraeon
Echelinol Amddiffyn
Siâp
Cynhyrchu celloedd coch y gwaed
Y greuan
Y gawell thorasig
Y greuan, y gawell thorasig, asgwrn cefn, y pelfis
Penio'n bêl wrth chwarae pêl-droed.
Glanio ar y llawr ar ôl tacl wrth chwarae rygbi.
Mae'n cynnig arwynebedd mawr i'r cyhyrau gydio ynddo.
Atodol Symud
Cyhyrau yn cydio ynddo
Breichiau: Hwmerws, wlna, radiws
Coesau: Asgwrn y forddwyd, tibia, ffibwla
Bowlio mewn gêm griced.
Rhedeg mewn gêm rygbi.
Pasio mewn gêm bêl-rwyd.

Adeiledd y system ysgerbydol:

Mae'n bwysig eich bod yn gwybod am y prif esgyrn sy'n cyfarfod (ymgysylltu) wrth yr ysgwydd, y penelin, y glun a'r pen-glin.

Sut y caiff esgyrn eu ffurfio

Caiff esgyrn eu ffurfio drwy asgwrneiddio cartilag. Mae hyn yn golygu bod pob asgwrn yn dechrau fel cartilag ac yn troi'n asgwrn caled (asgwrneiddio) yn raddol. Mae angen calsiwm er mwyn i esgyrn dyfu'n gryf.

Mathau o esgyrn

Mae'r corff dynol yn cynnwys 5 math o asgwrn, sef: esgyrn hir, byr, gwastad, afreolaidd a sesamoid.

Math o asgwrn Swyddogaeth Enghraifft
Hir
Platiau twf ar y naill ben a'r llall o'r asgwrn
Mae wedi'i ffurfio o esgyrn cryno ar gyfer cryfder.
Mae'r pennau wedi'u gorchuddio â chartilag cymalol (hyalin) mae'n helpu i amsugno sioc.
Mae'n creu system drosoli ar gyfer symud.
Femur
Byr
Mae lled yr asgwrn yn cyfateb i'w hyd, gyda llawer iawn o fêr asgwrn
Mae'n cynnal ac yn sefydlogi. Yr arddwrn, y pigwrn
Gwastad Mae'n amddiffyn yr organau hanfodol.
Man i'r cyhyrau gydio ynddo.
Caiff y nifer fwyaf o gelloedd coch y gwaed eu ffurfio.
Creuan, sgapwla, sternwm
Afreolaidd
Nid yw'n perthyn i unrhyw gategori
Cryfder Mandibl, fertebrâu
Sesamoid
Ynghlwm wrth dendon (y tendon sy'n cydio'r cyhyr wrth yr asgwrn)
Amddiffyn y tendon. Padell y pen-glin

Y system gyhyrol

Cyhyrau ysgerbydol yw'r rhai sy'n cydio mewn esgyrn a'u prif swyddogaeth yw cyfangu er mwyn achosi symudiad. Weithiau maent hefyd yn cael eu galw'n gyhyrau:

  • rhesog oherwydd eu golwg, neu
  • gwirfoddol am nad oes gennym reolaeth uniongyrchol dros pryd y byddant yn cyfangu.

Mae mwy na 600 o gyhyrau yn y corff dynol, pob un ohonynt yn gweithio mewn parau (gweithrediad cyhyrau gwrthweithiol). Mae gwybodaeth drylwyr am y prif gyhyrau sy'n achosi symudiad o amgylch yr ysgwydd, y penelin, y glun a'r pen-glin yn ein galluogi i ddadansoddi symudiad, y ffordd y cynhyrchir ffocws a sut i wella perfformiad ym myd chwaraeon.

Gall cyfangiadau grymus amrywio, gan ddarparu ar gyfer symudiadau cyflym neu symudiadau manwl gywir bach. Ni all cyhyr ysgerbydol ond tynnu, pan fydd yn cyfangu mae'r cyhyr yn tynnu un o'r esgyrn tuag at asgwrn arall ar draws cymal synofaidd.

Gweithrediad cyhyr gwrthweithiol

Wrth i un cyhyr gyfangu i achosi'r symudiad, mae cyhyr arall yn ymlacio er mwyn i'r symudiad allu digwydd. Y cyhyr sy'n uniongyrchol gyfrifol am y symudiad yw'r gweithydd a'r cyhyr sy'n ymlacio yw'r gwrthweithydd.

Math o ffibr cyhyrau ysgerbydol

Nid yw pob ffibr cyhyr ysgerbydol yn union yr un peth. Mae'r mathau gwahanol o ffibrau yn cyfangu ar gyflymderau gwahanol ac maent yn gweddu i fathau gwahanol o weithgarwch corfforol. Mae'r corff yn cynnwys cyfuniad o ffibrau cyhyrau 'plycio araf' a ffibrau cyhyrau 'plycio cyflym'. Mae dau brif fath:

Math I plycio araf ocsidiol aerobig
Math II plycio cyflym glycolytig anaerobig

Mae dau fath o Fath II:

Math IIa cyflym ocsidiol glycolytig llai o rym, yn gallu gwrthsefyll lludded yn well
Math IIb cyflym glycolytig y grym mwyaf

Yn dibynnu ar hyd a dwysedd yr ymarfer, gall ffibrau Math IIa fabwysiadu naill ai nodweddion ffibrau cyhyrau Math I neu ffibrau cyhyrau Math IIb.

Nodweddion y ffibrau cyhyrau:

gwibio
Gwahaniaethau adeileddol
Nodwedd Math I (ocsidiol) Math IIa (ocsidiol glycolytig) Math IIb(cyflym glycolytig)
Maint y ffibrau bach mawr mawr
Nifer y capilarïau mawr canolig bach
Nifer y mitocondria mawr canolig bach
Stôr myoglobin uchel canolig isel
Storau CP isel uchel uchel
Storau glycogen isel uchel uchel
Gwahaniaethau swyddogaethol
Cynhwysedd aerobig uchel isel/canolig isel
Gwrthsefyll lludded uchel isel/canolig isel
Cynhwysedd anaerobig isel uchel/canolig uchel
Cyflymder cyfangu araf cyflym cyflymaf
Grym cyfangu isel uchel uchaf
Gweithgaredd rhedeg pellter mawr 1500m

Effeithiau uniongyrchol ymarfer ar gyhyrau ysgerbydol

Wrth i gyhyrau gyfangu dros ei gilydd ac wrth ochr esgyrn, maent yn achosi ffrithiant a gaiff ei drawsnewid yn wres, sydd yn ei dro yn codi tymheredd mewnol y corff.

Effaith codi tymheredd cyhyrau ysgerbydol:

  • Gostyngiad yng ngludedd cyhyrau, sy'n gwneud cyfangiadau cyhyrol yn fwy effeithlon.
  • Mae'r cyhyrau yn cyfangu'n gyflymach, gyda mwy o rym oherwydd cyflymder uwch y broses drosglwyddo niwral.
  • Mae cyhyrau, tendonau a gewynnau yn fwy hyblyg ac elastig.

Mathau o gyfangiad cyhyrol

Mae cyhyrau ysgerbydol yn cyfangu o ganlyniad i ysgogiad a anfonir i'r cyhyrau i greu tyndra. Gellir dosbarthu cyfangiadau cyhyrau yn rhai isotonig neu isometrig. Gellir isrannu cyfangiadau isotonig yn gyfangiadau cydganol ac allganol.

Mae'r tabl isod yn dangos y tir math o gyfangiad mewn perthynas â chyrlio'r cyhyryn deuben.

Cyfangu isotonig
Consentrig Ecsentrig
  • mae'r cyhyr yn byrhau ac yn tynnu
  • symudiad tuag i fyny
  • mae'n defnyddio'r gweithydd
  • y cyfangiad mwyaf cyffredin
  • ymarfer codi pwysau
  • mae'r cyhyr yn ymestyn
  • symudiad tuag i lawr
  • mae'n defnyddio'r gwrthweithydd
  • rheoli neu arafu
  • y gwrthwyneb i gonsentrig
  • plyometreg
Cyfangiad isometrig
  • mae'n digwydd heb i hyd y cyhyr newid
  • mae’r tyndra yn parhau â'r un hyd
  • mae'n atal y cyhyr rhag ystwytho ac ymestyn
  • mae maint y grym yn gysylltiedig â hyd y cyhyr
  • sgrym mewn gêm rygbi

Adolygu cyflym

  • Mae'r ysgerbwd yn darparu cydfannau ar gyfer y system gyhyrol ar gyfer symud ac yn amddiffyn yr organau hanfodol megis y system cardio-anadlol a fasgwlar.
  • Mae gan yr oedolyn dynol cyffredin 206 o esgyrn sydd wedi'u rhannu rhwng yr ysgerbwd echelinol a'r ysgerbwd atodol.
  • Mae'r corff dynol yn cynnwys 5 math o asgwrn: esgyrn hir, byr, gwastad, afreolaidd a sesamoid.
  • Cyhyrau ysgerbydol yw'r rhai sy'n cydio yn yr asgwrn a'u prif swyddogaeth yw cyfangu er mwyn achosi symudiad. Weithiau maent hefyd yn cael eu galw'n gyhyrau rhesog oherwydd eu golwg neu'n gyhyrau gwirfoddol am nad oes gennym reolaeth uniongyrchol dros pryd y byddant y cyfangu.
  • Wrth i un cyhyr gyfangu i achosi'r symudiad, mae cyhyr arall yn ymlacio er mwyn i'r symudiad allu digwydd. Y cyhyr sy'n uniongyrchol gyfrifol am y symudiad yw'r gweithydd a'r cyhyr sy'n ymlacion yw'r gwrthweithydd.
  • Mae'r corff yn cynnwys cyfuniad o ffibrau cyhyrau 'plycio araf' a 'phlycio cyflym'.
  • Gellir dosbarthu cyfangiadau cyhyrau yn rhai isotonig neu isometrig. Gellir isrannu cyfangiadau isotonig yn gyfangiadau cydganol ac allganol.