Cynnwys
- Dulliau hyfforddi
- Cynllunio rhaglen ymarfer
- Ymarfer amgylcheddol – ar uchder
- Cynhesu ac oeri
Mae'n bwysig bod athletwr yn ymarfer mor benodol â phosibl er mwyn paratoi ar gyfer cystadleuaeth. Mae hyn yn golygu dewis y dulliau mwyaf priodol o ymarfer i gyd-fynd â'r elfennau o ffitrwydd sy'n cael eu defnyddio yn y gamp.
Mae'n anochel y caiff sgiliau penodol sy'n berthnasol i'r gamp eu datblygu hefyd yn ystod sesiynau ymarfer, ond mae'r dulliau ymarfer canlynol yn datblygu elfennau ffisegol ffitrwydd.
Mae Fartlek yn air Swedeg sy'n golygu ‘chwarae cyflym’. Mae Fartlek yn cynnwys ymarfer ar wahanol ddwyseddau, dros wahanol bellterau, yn aml ar wahanol raddiannau. Defnyddir y dull ymarfer hwn i ddatblygu'r holl systemau egni. Defnyddir Fartlek yn aml gan chwaraewyr gemau i atgynhyrchu'r gwahanol ddwyseddau a geir yn ystod gemau.
Cyngor yr arholwr – mae'n bwysig nodi'r dwyseddau a'r pellterau y rhoddwyd sylw iddynt wrth esbonio'r math o sesiwn fartlek sy'n benodol i'r gamp. Gall sesiynau Fartlek amrywio'n fawr, e.e. byddai chwaraewr pêl-rwyd yn cael hyrddiau byrrach o ymarfer rhedeg dwysedd uchel (ymdrech o 90-100%) dros 10-15 munud yn ei sesiwn na chwaraewr pêl-droed canol y maes a fyddai'n rhedeg pellterau hwy o ymarfer dwys (85-95%) dros bellterau o 60-80 m.
Mae'r dull ymarfer hwn yn datblygu'r system aerobig yn bennaf drwy weithio'n barhaus ar yr un dwysedd. Athletwyr dygnwch megis rhedwyr marathon, beicwyr ffordd a thriathletwyr yn bennaf sy'n defnyddio'r dull ymarfer parhaus.
Cyngor yr arholwr – Wrth ddefnyddio ymarfer parhaus fel enghraifft, dylech bob amser gyfeirio at ddwysedd a hyd penodol y sesiwn, e.e. beiciwr sy'n gweithio rhwng 65-75% o gyfradd curiad uchaf y galon am 3 awr.
Defnyddir y dull hwn i gynyddu pŵer a chyflymder. Mae'n aml yn cael ei gyflawni gan ddefnyddio clwydi o wahanol uchder, a blychau. Mae'n weithgaredd dwysedd uchaf dros gyfnod cymharol fyr o amser, ac fel arfer nid yw'n cymryd mwy na 10 eiliad gyda chyfnod gorffwys, sy'n galluogi'r athletwr i ymadfer bron yn llwyr rhwng ailadroddiadau a setiau. Canolbwyntir ar gyfangiadau cyhyrol adlamu a chyfangiadau cyhyrol ecsentrig.
performbetter.com
Wrth ymarfer codi pwysau, y tair elfen o ffitrwydd a ddatblygir yw cryfder, pŵer a dygnwch cyhyrol. Rhaid nodi hefyd y bydd unrhyw welliant o ran cryfder coesau a phŵer coesau yn aml yn arwain at welliannau o ran cyflymder ac ystwythder. Y rheswm dros hyn yw bod pob un o'r tair elfen hyn o ffitrwydd yn defnyddio ffibrau 'plycio cyflym' math iib . Felly, gall unrhyw welliannau o ran un elfen hefyd ddylanwadu ar yr elfennau eraill.
Er mwyn ymarfer i gynyddu cryfder, pŵer a dygnwch cyhyrol, mae'n rhaid cymhwyso setiau, ailadroddiadau, ymarfer codi pwysau a'r cyfnod ymadfer oll yn wahanol. Mae hefyd yn hanfodol bod yr athletwr yn ymwybodol o'i uchafswm un ailadroddiad ('1 rep max') ar gyfer unrhyw ymarfer codi pwysau a gyflawnir.
Gan fod cryfder yn weithgaredd macsimaidd, mae'n rhaid i'r ymarfer codi pwysau hefyd gael ei gyflawni yn agos at y macsimwm er mwyn ysgogi'r ffibrau plycio cyflym cryfaf (math iib). Byddai codi pwysau o'r ysgwyddau ('shoulder press') yn ymarfer nodweddiadol i gryfhau'r ysgwyddau.
Ymarfer | Setiau | Ailadroddiadau | Pwysau (% o uchafswm 1 ailadroddiad) | Amser ymadfer rhwng setiau |
---|---|---|---|---|
Codi pwysau o'r ysgwyddau | 3 | 3 | 95% | 3-4 munud |
Mae'r pwysau yn agos at uchafswm 1 ailadroddiad; felly mae nifer yr ailadroddiadau yn fach. Hefyd mae 4 munud o ymadfer yn galluogi'r system creatin ffosffad (CP) i ymadfer bron yn llwyr.
Fel gyda chryfder, fel arfer mae ymarfer ar gyfer pŵer yn cynnwys gweithio'n agos at yr ymdrech fwyaf posibl. Fodd bynnag, am ei fod yn gyfuniad o gyflymder a chryfder, mae'r union bwysau a godir ychydig yn llai na'r pwysau a ddefnyddir yn aml wrth ymarfer ar gyfer cryfder. Mae'r gostyngiad hwn yn y pwysau yn ei gwneud yn bosibl i'r symudiad/ymarfer gael ei gyflawni yn gyflymach, gan roi mwy o bwyslais ar gynyddu pŵer. Mae ymarfer pŵer hefyd yn ceisio datblygu'r ffibrau plycio cyflym Math iib.
Mae'r 'power clean', sy'n ymarfer sy'n defnyddio'r corff cyfan ac a ddefnyddir yn helaeth mewn campau athletaidd megis gwibio, y naid hir a thaflu'r maen yn enghraifft ardderchog.
Ymarfer | Setiau | Ailadroddiadau | Pwysau (% o uchafswm 1 ailadroddiad) | Amser ymadfer rhwng setiau |
---|---|---|---|---|
Power clean | 3 | 6 | 80% | 3-4 munud |
Mae gweithio ar 80% o uchafswm 1 ailadroddiad yr athletwr yn ei gwneud yn bosibl i'r symudiad gael ei gyflawni mewn ffordd dra ffrwydrol, sy'n golygu bod cymaint o bŵer â phosibl yn cael ei ddatblygu. Fel gyda chryfder, yr amser ymadfer yw 3-4 munud fel y gellir ailgyflenwi'r system CP yn llawn.
Defnyddir ymarferion dygnwch cyhyrol yn aml i wella ffyrfder y cyhyrau neu pan fo ailadroddiad, drwy ddefnyddio grwpiau tebyg o gyhyrau dros gyfnod o amser e.e. yn ystod gornest jwdo. Wrth ymarfer ar gyfer dygnwch cyhyrol ysgogir ffibrau plycio cyflym a ffibrau plycio araf ac, felly, y prif systemau egni a ddefnyddir yw'r system glycolysis anaerobig a'r system aerobig. Gan fod dygnwch cyhyrol yn cynnwys gweithio cyhyr neu grŵp o gyhyrau dros gyfnod hir, mae'r enghraifft ganlynol yn nodweddiadol o ymarfer y gellid ei ddefnyddio:
Ymarfer | Setiau | Ailadroddiadau | Pwysau (% o uchafswm 1 ailadroddiad) | Amser ymadfer rhwng setiau |
---|---|---|---|---|
Codi pwysau o'r ysgwyddau | 4 | 16 | 50-60% | 1 munud |
Mae nifer y setiau a'r ailadroddiadau yn uwch na'r nifer a ddefnyddid wrth ymarfer ar gyfer cryfder, ond codid llawer llai o bwysau er mwyn cwblhau'r nifer uchel o ailadroddiadau. Hefyd, gan fod yr ymarferion yn ymarferion dygnwch, mae'r amser ymadfer rhwng setiau yn fyrrach er mwyn rhoi pwysau cyson ar y cyhyrau sy'n gweithio. Cysylltir y math hwn o ymarfer yn aml â ‘phwmpio'r cyhyrau’ ac asid lactig yn crynhoi. Mae asid lactig yn crynhoi am fod yr athletwr yn defnyddio ATP o'r system glycolysis anaerobig.
Mae ymarfer ysbeidiol yn cyfeirio at unrhyw fath o ymarfer lle mae amser ymadfer penodol wedi'i gynnwys yn y sesiwn. Felly, mae ymarfer codi pwysau, ymarfer cylchol a phlyometreg yn fathau o ymarfer ysbeidiol. Serch hynny, mae'r rhan fwyaf o hyfforddwyr yn cysylltu ymarfer ysbeidiol â chyfnodau o redeg, nofio, rhwyfo ac ati ynghyd â chyfnodau o orffwys rhwng ymarferion. O ganlyniad, gall ymarfer ysbeidiol ddatblygu unrhyw system egni, gan ddibynnu ar ddwysedd a hyd yr ymarfer neu hyd y cyfnod ymadfer rhwng ysbeidiau o ymarfer.
Rhedwyr pellter canol, rhwyfwyr a beicwyr sy'n defnyddio'r math hwn o ymarfer ysbeidiol gan amlaf. Gan mai datblygu'r system aerobig yw prif nod y math hwn o sesiwn ysbeidiol, mae gweithio ar ddwysedd sy'n agos at y trothwy aerobig yn hanfodol. Gellid cymhwyso'r enghraifft ganlynol:
Sesiwn nodweddiadol ar gyfer rhedwr pellter canol
Ymarfer | Setiau | Ailadroddiadau | (% o uchafswm cyfradd curiad uchaf y galon) | Amser ymadfer rhwng ailadroddiadau |
---|---|---|---|---|
Bylchau o 800m | 1 | 6 | 80-85% | 2 funud |
Byddai sesiwn o'r fath yn golygu bod yr athletwr yn gweithio'n agos iawn at ei drothwy anaerobig drwy'r amser neu ychydig y tu hwnt iddo hyd yn oed ar ddiwedd yr ailadroddiad. Fodd bynnag, y brif system egni y rhoddir pwysau arni drwy gydol y sesiwn redeg yw'r system aerobig.
Mae cyflymder yn weithgaredd dwysedd uchaf ac, felly, wrth ymarfer, mae'n bwysig ymarfer mor agos â phosibl at yr ymdrech fwyaf posibl. Ymhlith yr enghreifftiau o fabolgampwyr a fyddai'n defnyddio dull o'r fath mae gwibwyr, nofwyr 50m a beicwyr trac gwibio yn ogystal ag asgellwyr mewn llawer o gemau tîm. Fel y nodwyd, mae'n hanfodol, wrth ymarfer i gynyddu cyflymder, fod yr athletwr yn rhoi ei holl ymdrech i mewn i'r ymarfer, felly mae'n bwysig y rhoddir digon o amser iddo ymadfer fel y gellir ailgyflenwi'r CP i gyd. Isod nodir sesiwn nodweddiadol i wibiwr 100m:
Ymarfer | Setiau | Ailadroddiadau | (% o uchafswm cyfradd curiad uchaf y galon) | Amser ymadfer rhwng ailadroddiadau |
---|---|---|---|---|
Bylchau o 40m o'r blociau cychwyn | 1 | 5 | 100% | 4 munud |
Mae'r math hwn o sesiwn yn cynyddu'r cyflymder ffrwydrol allan o'r blociau cychwyn dros y 40 metr gyntaf. Mae'n rhaid i'r athletwr roi ei holl ymdrech er mwyn atgynhyrchu'r hyn sy'n digwydd mewn ras gydag amserau ymadfer hir er mwyn ailgyflenwi’r CP bron yn llwyr.
Byddai unigolyn ar gylch ffitrwydd cyffredinol, sy'n gweithio ar ddygnwch cyhyrol, yn gweithio'r gwahanol grwpiau o gyhyrau am gyfnod estynedig o amser (hyd at funud). Byddai'r amser ymadfer rhwng safleoedd yn gymharol fyr (30 eiliad) er mwyn rhoi pwysau cyson ar y system glycolysis anaerobig a'r system aerobig.
An individual on a general fitness circuit, working on muscular endurance would work the various muscle groups for an extended period of time (up to a minute). The recovery time between stations would be relatively short (30 seconds) to continually stress the anaerobic glycolysis and aerobic systems.
Byddai unigolyn sy'n gweithio ar gyflymder ac ystwythder yn cyflawni'r gweithgareddau wrth y safleoedd gan roi bron ei holl ymdrech i mewn iddynt. Mae hyn yn golygu y byddai'r amser a dreulid wrth bob safle yn llawer byrrach oherwydd y storau creatin ffosffad cyfyngedig. Ni ddylai pob hyrddiad parhaus o ymarfer wrth bob safle bara am fwy na 10 eiliad. Er mwyn goresgyn hyn, gall unigolyn gynnwys amser ymadfer byr o fewn yr amser a dreulir wrth bob safle. Er enghraifft, wrth ddefnyddio ysgolion ystwythder ar safle penodol, bydd y perfformiwr yn cerdded yn ôl yn araf cyn ailadroddiad arall fel y gellir ailgyflenwi'r storau CP. Hefyd, efallai y bydd angen amser ymadfer hwy rhwng safleoedd er mwyn ailgyflenwi'r storau CP cyn yr hyrddiad nesaf o ymarfer macsimaidd.
Mae dulliau ymarfer yn cynnwys y canlynol: -
Gellir cynllunio rhaglenni ymarfer at ddibenion ffitrwydd cyffredinol, megis pan fydd unigolion yn mynd i switiau ffitrwydd a lles. Gall rhaglenni ymarfer fod yn arbenigol iawn hefyd ac yn benodol i'r gamp a'r mabolgampwr unigol. Serch hynny, ar y cyfan, yr un yw'r prosesau ar gyfer cynllunio'r rhaglenni ymarfer.
Dylid dilyn y pwyntiau canlynol er mwyn cyflawni rhaglen ymarfer lwyddiannus a diogel.
Mae cynnal archwiliad iechyd cyn ymgymryd ag unrhyw fath o raglen ymarfer yn hanfodol er mwyn diogelu'r unigolyn sy'n cyflawni'r rhaglen. Er nad yw'n arfer cyffredin yn y rhan fwyaf o chwaraeon, yn enwedig islaw lefelau elît, mae archwiliad iechyd bob amser yn ofyniad ar gyfer unrhyw unigolyn sy'n ymuno â swît iechyd, ffitrwydd a lles. Serch hynny, o fewn rhai chwaraeon, mae'r archwiliad iechyd a gynhelir yn aml yn cynnwys rhai profion sylfaenol iawn a'r gwiriadau canlynol:
Ym myd chwaraeon lle y caiff miliynau o bunnau eu gwario ar chwaraewyr, megis pêl-droed, gall archwiliad meddygol cyn i chwaraewr drosglwyddo i glwb newydd gynnwys sganiad MRI o'r corff llawn er mwyn chwilio am unrhyw anafiadau neu gyflyrau meddygol a allai amharu ar ei berfformiad yn y dyfodol.
Bydd y math o brofion a gynhelir yn dibynnu ar b'un a yw'r ymarfer arfaethedig at ddibenion iechyd cyffredinol neu at ddibenion sy'n benodol i gamp. Mae'r profion sy'n benodol i gamp yn fwy tebygol o fod yn rhai macsimaidd a chynrychioli'r elfennau o ffitrwydd sy'n benodol i gamp yr unigolyn, er enghraifft, sbrint dros 30m i asgellwr yn rygbi'r undeb. Os yw'r mabolgampwr ar lefel elît, defnyddir profion labordy yn aml am eu bod yn rhoi canlyniadau profion llawer mwy manwl gywir, dibynadwy a dilys. Un o anfanteision profion labordy o'r fath yw'r offer tra arbenigol a'r gost gysylltiedig, e.e. prawf ergomedr beic Wingate ar gyfer beiciwr trac sbrintio. At ddibenion ffitrwydd cyffredinol, defnyddir profion is-facsimaidd yn aml, yn enwedig os na fydd yr unigolyn wedi gwneud unrhyw ymarfer corff ers amser maith. Mae'n anochel bod hwn yn ddull ymarfer mwy diogel am ei fod yn lleihau'r risgiau posibl i iechyd a allai fod yn gysylltiedig â phrawf macsimaidd. Mae'r PWC 170 yn enghraifft o brawf o'r fath (gweler Profi ffitrwydd).
Mae pennu nodau yn bwysig mewn unrhyw raglen ymarfer oherwydd y cymhelliant a'r ymdeimlad o gyflawni a all gael eu hennyn pan fydd unigolyn yn cyflawni nod neu pan all weld ei fod wedi gwneud cynnydd tuag at gyflawni nod. Wrth bennu nodau, er mwyn sicrhau y caiff y nod ei gymhwyso'n gywir, rydym yn cymhwyso egwyddor CAMPUS. Ystyr CAMPUS yw Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Synhwyrol pan gaiff ei gymhwyso at raglen ymarfer (gweler yr adran sy'n ymdrin â Phennu nodau). hyperddolen i bennu nodau
Bydd y ffordd y caiff y rhaglen ymarfer ei chyflawni yn dibynnu ar y nodau a bennir gan yr unigolyn. Bydd hyn yn pennu'r dulliau ymarfer a ddefnyddir a sut y caiff egwyddorion ymarfer eu cymhwyso. Er enghraifft, byddai unigolyn sy'n cyflawni rhaglen ymarfer am resymau sy'n gysylltiedig ag iechyd yn fwy tebygol o ddefnyddio swît ffitrwydd a gweithio ar ymarferion cardiofasgwlar gydag ymarferion codi pwysau i wella ffyrfder y cyhyrau. Tra bydd unigolyn sy'n ymarfer er mwyn cyflawni nodau sy'n benodol i gamp yn aml yn defnyddio dulliau ymarfer mwy penodol sy'n ymwneud â'r gamp, e.e. plyometreg i gynyddu pŵer y coesau. O ran cymhwyso egwyddorion ymarfer, mae'n anochel bod dilyniant a gorlwytho yn bwysig er mwyn sicrhau gwelliannau mewn rhaglen ymarfer sy'n gysylltiedig ag iechyd. Fodd bynnag, yn aml ni fyddai cyflymder dilyniant na lefel y gorlwytho a ddefnyddid mor uchel â'r hyn a geid mewn rhaglen ymarfer sy'n benodol i gamp.
Dim ond amlinelliad o'r ffordd y dylid cymhwyso dulliau ac egwyddorion ymarfer yw hwn. Gweler gweddill y wybodaeth am ymarfer er mwyn gweld yr holl ffyrdd y gellir cymhwyso dulliau ac egwyddorion ymarfer. (Hyperddolen i'r adran sy'n ymdrin â hyfforddiant)
Ar ôl cyfnod o ymarfer dylid ailbrofi'r elfennau o ffitrwydd. Mae'r prosesau ar gyfer ailbrofi yn union yr un peth â'r prosesau a ddefnyddiwyd ar ddechrau'r rhaglen ymarfer. Gellir cymharu'r canlyniadau â'r canlyniadau blaenorol er mwyn monitro unrhyw gynnydd a wnaed. O ganlyniad i'r sgorau ailbrofi, gellir addasu a datblygu'r rhaglen ymarfer er mwyn darparu ar gyfer sicrhau gwelliannau pellach. Hefyd, gall unigolyn weld a yw'r nodau a bennwyd yn flaenorol wedi'u cyflawni ac wedyn gellir pennu nodau pellach.
Dylid cyflawni'r gweithdrefnau canlynol wrth ddatblygu rhaglen ymarfer am resymau sy'n ymwneud ag iechyd neu sy'n benodol i'r gamp.
Mae ymarfer ar uchder cyn cystadleuaeth wedi'i ddefnyddio ers cryn amser fel strategaeth ymarfer er mwyn gwella perfformiad athletwyr dygnwch. Mae'r ddamcaniaeth dros ddefnyddio ymarfer ar uchder yn seiliedig ar y dybiaeth, oherwydd lefelau is O2 ar uchder, y bydd y corff yn addasu i amodau o'r fath mewn nifer o ffyrdd. Mae gwaith ymchwil wedi awgrymu y gall perfformiad aerobig gael ei wella drwy gynyddu nifer y celloedd coch yn y gwaed (RBC) neu erythrosytau, lefelau serwm erythropoietin (EPO) a chrynodiad haemoglobin (Hb). Mae'r rhain yn cynyddu capasiti cludo ocsigen a VO2 macsimwm (sef y defnydd macsimwm o ocsigen) athletwr sy'n ymarfer ar uchder, gan ei alluogi i ymarfer a pherfformio'n well ar ôl dychwelyd i lefel y môr neu i uchder is.
Dyma'r dull mwyaf traddodiadol o blith yr holl ddulliau a ddefnyddir, er bod canfyddiadau gwaith ymchwil yn amrywio o ran pa mor fuddiol ydyw i bob athletwr.
Yn lle gwneud yr holl ymarfer ar dir isel, mae athletwyr yn byw ar uchder, yn gwneud gwaith hawdd i gymedrol ar uchder ac yn dod i lawr ar gyfer sesiynau ymarfer caled yn unig (rhwng unwaith a theirgwaith yr wythnos).
Ymhlith y manteision roedd:
Mae'r problemau sy'n gysylltiedig ag ymarfer ar uchder yn unig fel a ganlyn:
Mae'r rhain yn cynnwys unigolion neu grwpiau yn treulio amser yn y canlynol:
Amlygiad hypocsig ysbeidiol (IHE) ac ymarfer hypocsig ysbeidiol (IHT) – diffinnir IHE neu amlygiad cyfnodol i hypocsia fel amlygiad i hypocsia sy'n para rhwng ychydig eiliadau ac 8 awr, a ailadroddir dros gyfnod o amser sy'n para rhwng sawl diwrnod a sawl wythnos. Rhwng yr episodau hyn o amlygiad hypocsig ysbeidiol mae'r athletwr yn dychwelyd i amodau ocisgen arferol. Gellir cyfuno IHE â sesiynau ymarfer hypocsig er mwyn llunio ymarfer hypocsig ysbeidiol (IHT). Mae mwy o ddefnydd yn cael ei wneud o IHT o fewn chwaraeon gwahanol er mwyn sicrhau manteisio ymarfer ar uchder.
Mae uchder yn achosi hypocsia (cyflenwad annigonol o ocsigen i feinweoedd y corff). Ar uchder, mae gwasgedd rhannol ocsigen (PO2) yn is nag ydyw ar lefel y môr. Golyga hyn fod llai o ocsigen fel cyfaint o aer. Diffinnir ymledu fel nwy yn symud o ardal o grynodiad uchel i ardal o grynodiad isel. Mae pa mor gyflym y mae ocsigen yn tryledu i'r gwaed yn dibynnu ar y gwahaniaeth rhwng pwysedd O2 y tu mewn i'r ysgyfaint (alfeoli) a phwysedd O2 y tu mewn i'r capilarïau. Er enghraifft, ar gopa Mynydd Everest – mae pob llond ysgyfaint o aer ond yn cynnwys tua thraean o'r ocsigen o gymharu â lefel y môr. Felly, bydd O2 yn tryledu'n araf iawn i'r gwaed o gymharu â chyflymder tryledu O2 ar lefel y môr. Dyna pam y mae'n rhaid defnyddio cyfarpar anadlu ac y gall pobl ddioddef salwch uchder. Oherwydd y lefelau is o ocsigen ar uchder, mae'r corff yn addasu i hyn a gwelir y newidiadau canlynol yn aml:
www.amgenrenaladvances.ca/patient/whatIsAnemia/causes.htm
Mae astudiaethau wedi nodi nad yw pob athletwr yn ymateb i ymarfer ar uchder yn yr un ffordd ac, mewn gwirionedd, prin iawn yw'r manteision yn achos rhai athletwyr. At hynny, mae rhai agweddau negyddol yn gysylltiedig ag ymarfer ar uchder, sef:
Fel arfer defnyddir sesiwn gynhesu gan athletwyr a hyfforddwyr cyn gweithgaredd er mwyn paratoi'r corff a'r meddwl ar gyfer ymarfer corff a lleihau'r risg o anaf. Gellir dosbarthu sesiwn gynhesu'n ddau gategori, sef:
Dylai sesiwn oeri gynnwys rhwng 5 a 10 munud o loncian neu ymarfer corff dwysedd isel er mwyn cael gwaredu ag unrhyw gynhyrchion gwastraff megis asid lactig o'r cyhyrau sy'n gweithio sydd wedi cronni yn ystod gweithgarwch corfforol. Mae sesiwn oeri hefyd yn lleihau tymheredd y corff yn raddol ac yn atal unrhyw waed rhag cronni yn y coesau. Defnyddir ymestyn sefydlog, goddefol a PNF hefyd yn aml er mwyn cynyddu amrediad y symud mewn cymalau a chyhyrau.
Mae lefelau asid lactig yn gostwng yn gyflymach yn ystod ymarfer ymadfer gweithredol yn hytrach na dim ond ymarfer stopio. Y rheswm dros hyn yw mai'r ocsigen sy'n gyfrifol am ddadelfennu'r asid lactig, felly po fwyaf o ocisgen sydd ar gael, y mwyaf o asid lactig y gellir ei ddadelfennu. Hefyd, gellir newid yr asid lactig yn ôl yn ATP yn gyflymach, gan helpu'r broses ymadfer hefyd.
Gall y mathau o weithgareddau a all fod yn rhan o sesiwn oeri fod yn weithgareddau a ddefnyddir yn ystod sesiwn gynhesu, ond o chwith. Er enghraifft, gweithgareddau sy'n benodol i gamp a ddilynir gan ymarferion ymestyn neu hyblygrwydd. Yn ystod yr amser hwn efallai y bydd athletwyr/perfformwyr yn sylwi ar gynnydd yn amrediad y symud (ROM) mewn cymal penodol ac yn agos ato, o gymharu â'r ROM yn ystod y sesiwn gynhesu.
Disgrifiwch ddull ymarfer priodol i gynyddu pŵer ac esboniwch sut y gallech gymhwyso un o egwyddorion ymarfer er mwyn cynyddu pŵer o'r fath. (3)
Nid yw'r ymateb yn cynnwys y manylion angenrheidiol:
Mae plyometreg yn ddull ymarfer i gynyddu pŵer a gallwch gynyddu'r dwysedd a'r hyd er mwyn cynyddu eich pŵer.
Beth sy'n bod ar yr ateb?
Mae plyometreg (nid yw hwn yn ddisgrifiad o ddull ymarfer) yn ddull ymarfer i gynyddu pŵer a gallwch gynyddu'r dwysedd a'r hyd er mwyn cynyddu eich pŵer. (Nid yw nodi'r dwysedd a'r hyd yn unig yn ddigon i gael marciau ar lefel UG).
Enghraifft o'r hyn sydd ei angen:
Er mwyn cynyddu ei bŵer, dylai athletwr gynyddu dwysedd y sesiwn blyometreg drwy wneud y clwydi 5cm yn uwch neu gynyddu nifer y clwydi mewn set, e.e. drwy gynyddu nifer y clwydi o bump i chwech.
Fel y gellir gweld o'r enghraifft, mae darparu gwybodaeth benodol ac enghraifft yn dangos gwybodaeth a dealltwriaeth dda o'r dull ymafer a'r modd y cymhwysir egwyddorion ymarfer. Mae'n aml yn arfer da rhoi enghreifftiau i ategu eich ateb hyd yn oed os nad yw'r cwestiwn yn gofyn yn benodol amdano.