Dulliau cyfarwyddo, ymarfer ac adborth

Cyflwyniad

O fewn unrhyw sesiwn hyfforddi, bydd yr athro/hyfforddwr yn hwyluso dysgu drwy roi cyfarwyddyd priodol, yr ymarferion cywir ac adborth defnyddiol i'r cyfaranogwr. Bydd yr union ddulliau cyfarwyddo, ymarferion ac adborth yn amrywio gan ddibynnu ar gamau dysgu'r cyfranogwyr neu'r mathau o sgiliau a gweithgareddau sy'n cael eu dysgu. Er enghraifft, caiff rhywun ar y cam dysgu gwybyddol gyfarwyddyd, ymarferion ac adborth gwahanol o'i gymharu â rhywun ar y cam ymreolaethol.

Cynnwys

  • Dulliau cyfarwyddo
  • Mathau o ymarfer
  • Mathau o adborth

Dulliau cyfarwyddo

Pwyntiau allweddol

  • Gwybodaeth am ddulliau cyfarwyddo gwahanol
  • Dealltwriaeth o sut a phryd y dylid eu defnyddio

Mae cyfarwyddyd yn cyfeirio at unrhyw wybodaeth a roddwn i ddysgwyr er mwyn eu helpu i ddatblygu eu sgiliau. Mae sawl ffactor yn effeithio ar y math o gyfarwyddyd a ddefnyddir:

  • Cam dysgu'r unigolyn – gwybyddol, cysylltiadol neu ymreolaethol.
  • Natur y gweithgaredd – cymhlethdod y sgìl, diogelwch ac ati.
  • Dymuniadau'r unigolyn - mae gan y rhan fwyaf o bobl eu hoff ddulliau dysgu, e.e. mae'r rhan fwyaf o bobl yn hoffi gweld y sgìl y maent yn ei ddysgu yn cael ei gyflawni.

Mae 3 math sylfaenol o gyfarwydd y gall athro/hyfforddwr eu defnyddio i gyflwyno gwybodaeth:

  1. Gweledol - fe'i defnyddir ym mhob cam dysgu ond mae'n arbennig o werthfawr yn ystod y cam gwybyddol. Mae enghreifftiau yn cynnwys arddangos - mae hyn yn cynnwys arddangos corfforol gan yr athro/hyfforddwr neu berfformiwr cymwys arall, cymhorthion gweledol, e.e. siartiau sy'n dangos camau sgìl, fideo o berfformiad ‘delfrydol’ ac addasu'r arddangosiad, e.e. rhoi marcwyr ar y llawr wrth ddysgu ergyd osod o’r bwrdd er mwyn sicrhau bod y traed yn cael eu rhoi yn y lleoedd iawn. Y pwynt pwysig yma yw bod yn rhaid i’r arddangosiad fod yn gywir fel y bydd y dysgwr yn ffurfio'r darlun cywir.
  2. Geiriol – fe’i defnyddir gryn dipyn gan athrawon/hyfforddwyr i egluro’r dasg a disgrifio’r gweithredoedd. Fe’i defnyddir yn effeithiol hefyd i amlygu arwyddion pwysig perfformiad e.e. cyfrif y curiadau allan yn uchel mewn dawns. Fe’i defnyddir gan amlaf ar y cyd â chyfarwyddyd gweledol.
  3. Llaw/Mecanyddol – Mae'r math hwn o gyfarwyddyd yn cynnwys cyswllt/cynnal corfforol. Fe’i defnyddir yn aml pan fydd elfen o berygl e.e. defnyddio harnais diogelwch wrth drampolinio.

Manteision/Anfanteision

Math o Gyfarwyddyd Manteision Anfanteision
Gweledol Gall y dysgwr weld perfformiad cywir. Gellir rhoi arddangosiadau eto. Gyda fideo mae ‘arafu lluniau’ yn gallu helpu unigolyn i ddysgu sgìl yn fanwl gywir. Mae’n ddefnyddiol ar bob cam dysgu. Mae’n helpu i greu delwedd feddyliol o berfformiad cywir. Bydd problemau os nad oes delwedd gywir ar gael.
Geiriol Gall holi effeithiol gan hyfforddwyr/athrawon wella dysgu a dealltwriaeth. Fe’i cyfunir yn effeithiol â chyfarwyddyd gweledol i roi darlun manylach gywir i’r dysgwr. Mae’n digwydd yn y fan a'r lle. Mae rhai cyfarwyddiadau geiriol yn rhy hir a chymhleth – yn aml mae gan ddysgwyr gyfnodau canolbwyntio byr (gallu cyfyngedig i brosesu gwybodaeth). Ni all rhai symudiadau gael eu hegluro’n fanwl gywir. .
Llaw/Mecanyddol Mewn gweithgareddau a allai fod yn beryglus gellir ei ddefnyddio i atal y dysgwr rhag gwneud symudiadau anghywir. Mewn sefyllfaoedd peryglus gall helpu perfformiwr i ddelio ag ofn drwy ddarparu amgylchedd diogel. Mae’n helpu unigolyn i ddatblygu ymwybyddiaeth ginesthetig (y teimlad) o’r symudiad. Mae'n ddefnyddiol yn gynnar yn ystod y dysgu pan fydd athro/hyfforddwr yn gallu gosod aelodau/rhannau o gorff y dysgwr yn y lle cywir e.e. y ffordd gywir o ddal y bêl wrth saethu yn ystod gêm bêl-rwyd. Ni ddylid ei orddefnyddio gan y gall perfformwyr fynd yn ddibynnol ar gymorth. Gall roi ‘teimlad’ afrealistig o’r symudiad i’r dysgwyr e.e. nid yw'n dal pwysau llawn eu cyrff ac felly gallant fethu pan na roddir cyfarwyddyd llaw/mecanyddol iddynt.

Cymhwysiad ymarferol/Esboniad
Sut a phryd y defnyddir mathau gwahanol o gyfarwyddyd:

Math o gyfarwyddyd Sut a phryd y caiff ei ddefnyddio
Gweledol Mae'n effeithiol iawn ar y cam dysgu gwybyddol ond mae'n ddefnyddiol ar bob cam. Wrth ddefnyddio fideo ar y camau cysylltiadol ac ymreolaethol, gellir arafu arddangosiadau er mwyn tynnu sylw at fanylion e.e. edrych ar gamau gwahanol llofnaid gymnasteg.
Geiriol Dylai esboniadau fod yn fyr a phwrpasol, yn enwedig ar y cam dysgu gwybyddol oherwydd y gallu cyfyngedig i brosesu gwybodaeth. Mae’n fwy defnyddiol ar gamau dysgu diweddarach pan fydd y gallu i roi sylw yn fwy.
Llaw/Mecanyddol Mae'n ddefnyddiol iawn ar y cam dysgu gwybyddol, er mwyn helpu’r dysgwr i brofi ‘teimlad’ y symudiad. Mae gymnasteg yn defnyddio llawer o gyfarwyddyd llaw wrth ddysgu symudiadau mwy anodd e.e. cynnal gymnastwr sy’n dysgu perfformio fflic-fflac. Mewn rhai gweithgareddau defnyddir cyfarwyddyd llaw/mecanyddol gan berfformwyr mwy profiadol oherwydd materion diogelwch e.e. dringo creigiau.

Cwestiynau arddull arholiad

1. Sut y gallai'r dulliau cyfarwyddo a roddir gan athro neu hyfforddwr amrywio pan fydd unigolyn:

  1. ar y cam dysgu gwybyddol?
  2. ar y cam dysgu ymreolaethol? [6]

Mathau o arferion

Pwyntiau allweddol

  • Cyflwyno sgiliau
  • Mathau o ymarfer

Fel y nodwyd yn flaenorol, bydd y mathau o ymarfer a ddefnyddir mewn sesiwn ymarfer yn gysylltiedig â cham dysgu'r perfformiwr. At hynny, byddai'r math o ymarfer a ddarperir hefyd yn gysylltiedig â'r math o sgìl sy'n cael sylw o fewn y sesiwn. Er mwyn defnyddio'r math mwyaf effeithiol o ymarfer mae'n rhaid ystyried y dosbarthiadau o sgiliau hefyd. Er enghraifft, ar gyfer gêm bêl-rwyd, mae'n rhaid defnyddio ymarferion amrywiol i efelychu natur agored y gêm. Ni fydd gwneud driliau neu ymarferion ailadroddus caeedig yn unig yn paratoi'r cyfranogwyr ar gyfer y gêm.

Cyflwyno sgiliau

Er mwyn sicrhau bod y cyfranogwyr yn dysgu cymaint â phosibl, mae'n rhaid i athrawon a hyfforddwyr greu'r amodau ymarfer gorau posibl. Dylid ystyried y ffactorau canlynol:

  • Faint o wybodaeth y mae'n rhaid i'r dysgwr ei phrosesu.
  • Profiad blaenorol y perfformiwr, mae hyn yn cynnwys y lefel o allu.
  • Personoliaeth a lefelau cymhelliant y perfformiwr.
  • Natur y sgiliau sy'n cael eu dysgu, h.y. agored/caeedig, syml/cymhleth ac ati.
  • Faint o wybodaeth dechnegol sydd ei hangen.
  • Faint o wybodaeth y mae'n rhaid i'r perfformiwr ei phrosesu.
  • Y cyfleusterau a'r amser sydd ar gael.
  • Maint a strwythur y grŵp.

Mathau o ymarfer

Ymarfer sefydlog ac amrywiol

Mae'r penderfyniad ynghylch p'un a ddylid defnyddio ymarfer sefydlog neu amrywiol yn dibynnu ar natur y gweithgaredd sy'n cael ei ymarfer. Pan fydd y gweithgaredd yn cynnwys llawer o sgiliau agored a rhyngweithio rhwng perfformwyr, dylid amrywio'r ymarfer fel y gall perfformwyr ddod i gysylltiad ag amrywiaeth o brofiadau gwahanol sy'n ymwneud yn uniongyrchol â pherfformiad yn ystod y gweithgaredd llawn. Y rheswm dros hyn yw bod profiadau perthnasol yn cael eu storio yn y cof hirdymor ac y gellir manteisio ar y rhaglenni echddygol mewn sefyllfaoedd yn y dyfodol. Mae'r dysgwr yn dysgu'r un dasg mewn nifer o ffyrdd gwahanol. Yn achos sgiliau caeedig mae'n bwysig bod amodau ymarfer yn debyg iawn i'r sefyllfa berfformio wirioneddol. Mae sgiliau caeedig yn cael eu dysgu ymlaen llaw gan amlaf. Felly, mae'n well defnyddio ymarfer sefydlog. Gellir defnyddio ymarfer sefydlog i wella sgiliau agored hefyd.

Cyfunedig a gwasgaredig

Mae strwythur sesiwn ymarfer yn bwysig wrth ystyried y ffordd fwyaf effeithiol o addysgu sgiliau. Mewn ymarfer cyfunedig mae’r sgìl sydd i'w feistroli yn cael ei ymarfer dro ar ôl tro dros gyfnod hir, e.e. dau chwaraewr rygbi yn cicio'r bêl yn ôl ac ymlaen yn barhaus am 30 munud. Mewn ymarfer gwasgaredig mae’r sgìl sydd i'w feistroli yn cael ei gymysgu gydag ymarfer arall neu orffwys. Gallai’r ysbeidiau ‘gorffwys’ gynnwys gweithgareddau nad ydynt yn gysylltiedig â’r prif weithgaredd ymarfer neu gallent gynnwys defnyddio ymarfer meddyliol.

Ymarfer y cyfan ac ymarfer rhannau

Yn achos y dull ymarfer y cyfan addysgir sgìl heb ei rannu'n is-reolweithiau. Fel rheol, mae’n well dysgu sgìl gan ddefnyddio’r dull hwn gan fod y dysgwr yn profi gwir ‘deimlad’ y symudiad. Defnyddir y dull ymarfer rhannau yn aml pan fo trefniadaeth isel i’r sgìl a gellir ei rannu’n is-reolweithiau. Caiff pob rhan ei hymarfer ar wahân ac yna cysylltir y rhannau â’i gilydd. Mae hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer dysgu sgiliau cymhleth gan ei fod yn galluogi'r dysgwr i gael llwyddiant cychwynnol cyn symud ymlaen i’r symudiadau mwy cymhleth. Mae llawer o gyfuniadau o ddysgu’r cyfan a dysgu rhannau:

Cyfan - rhan - cyfan – lle y rhoddir cynnig ar y sgìl cyfan yn gyntaf, wedyn os oes camgymeriadau, caiff y rhannau hynny o’r sgìl sy’n cynnwys camgymeriadau eu hymarfer ar wahân cyn rhoi cynnig ar y sgìl cyfan eto. Gallai athro nofio ofyn i fyfyriwr arddangos y strôc gyfan, gallai nodi gwendidau yng ngweithrediad y breichiau, a fyddai'n cael eu hymarfer ar wahân, wedyn byddai'n rhoi'r cyfan yn ôl at ei gilydd yn y strôc gyfan.

Dull ymarfer rhannau cynyddol – lle yr adeiladir yn gynyddol ar y rhannau nes i’r sgìl cyfan gael ei berfformio h.y. dysgu rhan 1, dysgu rhan 2, perfformio rhannau 1 a 2 gyda’i gilydd, dysgu rhan 3, yna perfformio rhannau 1, 2 a 3 gyda’i gilydd ac ati. Defnyddir y dull hwn yn aml wrth ddysgu dawnsdrefn.

Ymarfer Meddyliol (cyfeirir ato hefyd fel delweddu)

Yn achos ymarfer meddyliol mae’r mabolgampwr yn delweddu ei hun yn perfformio sgìl. Nid oes unrhyw symud corfforol go iawn. Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod ymarfer meddyliol yn gallu gwella perfformiad; yn anffodus ni all gymryd lle ymarfer corfforol! Credir yn gyffredinol fod cyfuniad o ymarfer meddyliol ac ymarfer corfforol yn ddefnyddiol iawn i berfformwyr ym myd chwaraeon, ond mai ymarfer corfforol sydd bwysicaf. Mae llawer o esboniadau ynghylch sut mae’n gweithio:

  • Esboniad gwybyddol – gall meddwl am strategaethau a thactegau helpu’r dysgwr i wneud y penderfyniad cywir.
  • Esboniad niwro-gyhyrol – wrth wneud ymarfer meddyliol mae’r niwronau cyhyrol yn tanio fel pe bai’r cyhyr yn weithredol. Mae’r cyfangiadau hyn yn fach iawn.
  • Esboniad hyder – gall ymarfer meddyliol wella hyder perfformwyr, gan fod y perfformiwr, wrth wneud ymarfer meddyliol, yn canolbwyntio ar berfformiad llwyddiannus a chywir.
Math o ymarfer Pryd i'w ddefnyddio Manteision/Anfanteision
Sefydlog Wrth ddysgu sgiliau agored, h.y. pan fydd y perfformiad cystadleuol yn cynnwys llawer o ryngweithio a phenderfynu. Mae'n galluogi dysgwyr i ymarfer mewn sefyllfaoedd sy'n debycach i'w gweithgaredd chwaraeon. + Mae'n galluogi dysgwyr i ymarfer mewn sefyllfaoedd sy'n debycach i'w gweithgaredd chwaraeon.
- Gall fod yn anodd efelychu sefyllfaoedd cystadleuol priodol.
Amrywiol When learning open skills, i.e. when there is a lot of interaction and decision making involved in the competitive performance. Allow learners to practise in situations more realistic to their sporting activity. + Allows learners to practice in situations more realistic to their sporting activity.
- Can be difficult to simulate appropriate competitive situations.
Cyfunedig Wrth ddysgu sgiliau syml. Pan fydd angen ymarfer i efelychu perfformio mewn sefyllfa ‘luddedig’ a fyddai i’w chael mewn cystadleuaeth. Pan nad oes llawer o amser ar gael i ymarfer. Pan fydd perfformwyr yn brofiadol, yn ffit ac â llawer o gymhelliant. + Mae'n ddefnyddiol i ‘rigoli’ sgiliau.
+ Mae'r ddefnyddiol i ddysgu sgiliau arwahanol nad ydynt yn para’n hir.
- Gall arwain at ludded a diflastod.
Gwasgaredig Wrth ddysgu sgìl newydd neu gymhleth. Pan fydd perygl o anaf os yw’r perfformiwr yn flinedig. Pan fydd perfformwyr ond yn gallu canolbwyntio am gyfnodau byr, e.e. ar y cam dysgu cynnar. Pan fydd cymhelliant perfformwyr yn isel. + Mae'n ddefnyddiol i ddysgu'r rhan fwyaf o sgiliau.
+ Mae'n rhoi amser i'r perfformiwr ymadfer yn gorfforol ac yn feddyliol.
+ Mae'n ddefnyddiol mewn sefyllfaoedd a allai fod yn beryglus.
Ymarfer y Cyfan Pan fydd y sgìl yn un barhaus ac na ellir ei rannu'n is-reolweithiau. Pan fydd trefniadaeth isel i'r sgìl. Wrth ddysgu sgiliau cyfresol a chymhleth. + Mae’r perfformiwr yn dod i adnabod ‘teimlad’ ac amseriad y symudiad cyfan.
+ Gall y dysgu fod yn gyflymach.
- Anaddas ar gyfer sgiliau cymhleth.
Ymarfer Rhannau Pan fydd trefniadaeth isel i'r sgìl. Wrth ddysgu sgiliau cyfresol a chymhleth. + Mae'n sicrhau llwyddiant cynnar.
+ Mae'n ddiogelach.
+ Mae'n galluogi'r athro/hyfforddwr i ganolbwyntio ar rannau penodol o'r sgìl.
rhai perfformwyr yn ei chael hi'n anodd rhoi rhannau yn ôl at ei gilydd.
- Collir parhad y sgìl.
- Mae’n lleihau ymwybyddiaeth ginesthetig.
Meddyliol Gellir ei ddefnyddio mewn sefyllfaoedd a allai fod yn beryglus fel ffordd ddiogel o ymarfer. Er mwyn gwella hyder perfformwyr. Gellir ei ddefnyddio yn ystod sesiwn gynhesu er mwyn helpu'r perfformiwr i ganolbwyntio a gwneud iddo deimlo'n llai gofidus. + Mae'n gwella hyder y perfformiwr.
- Nid yw'n effeithiol fel ymarfer corfforol pan gaiff ei ddefnyddio ar ei ben ei hun.

Awgrymiadau:

Cofiwch wneud y cysylltiad rhwng y mathau gwahanol o ymarfer a’r math o sgìl sy’n cael ei ddatblygu e.e. y ffordd orau o ddatblygu sgiliau caeedig yw defnyddio ymarfer sefydlog.

Cwestiynau arddull arholiad

Newidynnau Tasg

Syml Cymhleth
Trefn Isel Trefn Uchel
  1. Gan ddefnyddio enghreifftiau o fyd chwaraeon, eglurwch sut y gall gwybodaeth am y newidynnau tasgau a ddangosir yn y diagram uchod ddylanwadu ar y math o ymarfer sy’n cael ei ddewis gan hyfforddwr(aig)/athro/athrawes. [6]

Mathau o adborth

Adborth – mae hyn yn cynnwys defnyddio'r wybodaeth sydd ar gael i'r perfformiwr naill ai wrth iddo berfformio sgìl neu ar ôl iddo ei berfformio er mwyn newid perfformiad yn y dyfodol. Mae adborth yn hanfodol er mwyn i'r perfformiwr ddysgu. Gall adborth fod ar sawl ffurf, ond y ffordd symlaf o'i gategoreiddio yw fel cynhenid neu anghynhenid.

Daw adborth cynhenid o'ch synhwyrau yn ystod y symudiad, e.e. golwg, clyw ac fe'i canfyddir gan y perfformiwr, e.e. rydych yn clywed pan fyddwch yn taro pêl dennis â ffrâm eich raced. Gall hefyd ddod o adborth cinesthetig, h.y. teimlad y symudiad.

Daw adborth anghynhenid o ffynonellau allanol ac mae'n rhan bwysig o hyfforddi. Mae dau fath o adborth anghynhenid – gwybodaeth am berfformiad a gwybodaeth am ganlyniadau. Mae gwybodaeth am berfformiad yn cynnwys adborth am y perfformiad, e.e. pa mor dda y cyflawnwyd y symudiad, yn hytrach na'r canlyniad terfynol. Mae gwybodaeth am ganlyniadau yn fath o adborth terfynol (ar ôl cwblhau symudiad) sy'n rhoi gwybodaeth i'r perfformiwr am y canlyniad terfynol. O ran y manteision i'r perfformiwr, mae gwybodaeth am berfformiad yn fwy buddiol na dim ond gweld y canlyniad. Gyda hyfforddwr neu athro yn rhoi gwybodaeth wirioneddol am berfformiad, gall perfformiwr newid ei dechneg, ei batrwm symud neu hyd yn oed ei dactegau o fewn sesiwn hyfforddi neu gêm.

Swyddogaeth adborth

  • Mae'n cymell
  • Mae'n atgyfnerthu
  • Mae'n hysbysu

Mae'n cymell am fod gwybodaeth am lwyddiant neu fethiant yn gallu bod yn gymhelliadol. Mae'n atgyfnerthu am fod atgyfnerthu cadarnhaol yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd y perfformiwr yn ailadrodd y perfformiad. Mae'n hysbysu am fod adborth yn gallu rhoi gwybodaeth am gamgymeriadau ac, felly, gall helpu i unioni camgymeriadau.

Mathau eraill o adborth

Yn ystod gemau neu sesiynau hyfforddi rhoddir gwahanol fathau o adborth gan hyfforddwyr neu athrawon ar berfformiad unigolyn, tîm neu uned. Y prif fathau yw:

  • adborth cadarnhaol
  • adborth negyddol
  • adborth terfynol
  • adborth cydamserol

Adborth cadarnhaol

Bydd hyfforddwr yn aml yn rhoi adborth cadarnhaol pan gaiff sgìl ei berfformio yn gywir a phan fydd canlyniad llwyddiannus.Mae'r hyfforddwr yn tynnu sylw at yr agweddau cywir ar y sgìl ac yn eu hatgyfnerthu, wedyn bydd y chwaraewr yn gwybod beth i'w ailadrodd y tro nesaf y bydd yn cyflawni'r weithred benodol honno. Gall adborth cadarnhaol o'r fath yn aml gymell y perfformiwr gan ei annog i wneud cynnydd pellach. Mae'r math hwn o adborth yn arbennig o fuddiol i ddechreuwyr ar y cam dysgu gwybyddol. Enghraifft bosibl o hyn yw hyfforddwyr mabolgampau yn atgyfnerthu'r ongl gywir i ollwng y waywffon ar gyfer taflwr gwaywffon.

Adborth negyddol

Cysylltir adborth negyddol yn aml â chosbi, nad yw'n wir, e.e. hyfforddwr sy'n beirniadu perfformiad ac yn dweud wrth berfformiwr am wneud 'press ups' ar ôl iddo wneud camgymeriad. Mae adborth negyddol yn fath pwysig iawn o adborth ac, er ei fod yn ymwneud â nodi gwendidau ym mherfformiad chwaraewr, dylai hefyd gynnwys yr hyn y dylai'r chwaraewr ei wneud i unioni'r gwendidau. Mae'n rhaid defnyddio'r adborth hwn yn ofalus am ei fod yn gallu peri i'r chwaraewr golli cymhelliant, yn enwedig os mai adborth negyddol yw'r unig fath o adborth a roddir. Fodd bynnag, ar gyfer chwaraewr sydd ar y cam dysgu ymreolaethol ar gyfer ei gamp, mae'r math hwn o adborth yn hanfodol i fireinio ei berfformiad, e.e. hyfforddwr tennis yn dweud wrth y chwaraewr nad yw'n taflu'r bêl i fyny yn ddigon uchel pan fydd yn serfio.

Adborth terfynol

Defnyddir y math hwn o adborth yn aml iawn gan hyfforddwyr ac athrawon a dyma'r adborth a roddir ar ôl perfformiad y chwaraewr. Er enghraifft, hyfforddwr golff yn dadansoddi'r ffordd y mae'r chwaraewr yn pytio'r bêl golff ac yn rhoi adborth ar hynny.

Adborth cydamserol

Rhoddir y math hwn o adborth wrth i'r sgìl gael ei berfformio. Gall fod yn adborth cynhenid neu anghynhenid gan ddibynnu ar gam dysgu'r perfformiwr. Nodweddir adborth anghynhenid yn aml gan hyfforddwr yn gweiddi gwybodaeth i berfformiwr yn ystod gêm neu sesiwn hyfforddi, tra yn achos adborth cynhenid mae'r perfformiwr yn teimlo'r symudiad e.e. mae chwaraewr rygbi sy'n cicio goliau yn aml yn gwybod yn syth bin os bydd y gig yn llwyddiannus oherwydd y ffordd y mae wedi taro'r bêl.

Adolygu cyflym

  • Bydd y dulliau cyfarwyddo, ymarfer a rhoi adborth yn amrywio, gan ddibynnu ar gam dysgu'r cyfranogwr.
  • Mae cyfarwyddyd yn gyfarwyddyd gweledol, geiriol neu fecanyddol.
  • Bydd y math o ymarfer yn amrywio, gan ddibynnu ar ddosbarth y sgìl. Mae mathau o ymarfer yn cynnwys:
    • sefydlog (caeedig) ac amrywiol (agored)
    • cyfunol (parhaus) a gwasgaredig (ar wahân)
    • ymarfer y cyfan (trefniadaeth uchel a syml) ac ymarfer rhannau (trefniadaeth isel, sgiliau cyfresol a chymhleth)
  • Defnyddir adborth i wneud y canlynol:
    • cymell y perfformiwr
    • atgyfnerthu arferion da
    • hysbysu'r athletwr am unrhyw gamgymeriadau.
  • Gall adborth fod ar sawl ffurf. Y prif fathau yw:
    • adborth anghynhenid
    • adborth cynhenid
    • gwybodaeth am berfformiad
    • gwybodaeth am ganlyniadau
    • adborth cadarnhaol
    • adborth negyddol
    • adborth terfynol
    • adborth cydamserol.

Cwestiwn arddull arholiad

Esboniwch sut mae'r adborth a gawsoch gan athrawon a hyfforddwyr wedi helpu i wella eich perfformiad ym myd chwaraeon. Rhowch enghreifftiau i ategu eich ateb. (5)