Cynnwys
- Cyfansoddion deiet cytbwys
- Maeth i ddatblygu perfformiad ym myd chwaraeon
- Hydradu cyn, wrth ac ar ôl ymarfer.
Mae maeth ar gyfer chwaraeon yn seiliedig ar ddealltwriaeth o'r ffordd y mae maetholion megis carbohydrad, braster a phrotein yn cyfrannu at y cyflenwad o danwydd sydd ei angen ar y corff i ymarfer.
Mae'n rhaid i athletwyr gael carbohydrad, protein, braster, fitaminau, mwynau a ffibr yn y cyfrannau cywir o fewn eu deiet (gweler y tablau isod). Os na fydd digon o brotein, ni fyddwch yn gallu tyfu'n iawn ac ni fyddwch yn gallu atgyweirio eich hun, h.y. atgyweirio cyhyrau ar ôl ymarfer dwys. Os na fyddwch yn cael digon o fwydydd sy'n cynnwys egni (carbohydradau a brasterau), byddwch yn teimlo'n flinedig a swrth iawn a bydd eich perfformiad mewn unrhyw gamp neu weithgaredd sy'n gysylltiedig ag ymarfer yn dirywio'n sylweddol. Fodd bynnag, os cewch ormod o fwydydd sy'n cynnwys egni byddwch yn mynd dros bwysau a allai arwain at ordewdra. Y lwfansau beunyddiol argymelledig yw:
Mae'n rhaid i faeth sydd wedi'i gynllunio'n ofalus sicrhau cydbwysedd egni a chydbwysedd rhwng maetholion.
Y maetholion yw:
Mae'n bwysig bod gan unigolyn gydbwysedd egni niwtral. Mae hyn yn golygu bod nifer y calorïau a gaiff eu bwyta yn cyfateb i nifer y calorïau a gaiff eu llosgi yn ystod y dydd. Os bydd unigolyn yn bwyta mwy o galorïau nag a losgir ganddo, bydd ganddo gydbwysedd egni positif, a fydd yn peri iddo fagu pwysau. Ar y llaw arall, os bydd unigolyn yn llosgi mwy o galorïau nag a fwyteir ganddo bydd ganddo gydbwysedd egni negyddol a bydd yn colli pwysau.
Fel gyda maeth ac iechyd, mae'n hanfodol bod mabolgampwr yn cael deiet cytbwys digonol i ddiwallu anghenion ei gamp, ei ornest neu ei weithgaredd. Er enghraifft, byddai gan redwr marathonau ddeiet gwahanol i un gwibiwr oherwydd y gofynion egni gwahanol. Er hynny, deuai'r brif ffynhonnell egni ar gyfer ei hyfforddiant a'i gyfundrefnau cystadlu o garbohydrad. Fel y nodwyd uchod, mae'n cymryd tua 15% yn llai o ocsigen i ddadelfennu moleciwl carbohydrad (glwcos) nag y mae'n ei gymryd i ddadelfennu moleciwl braster. Felly, yn ogystal â'r ffaith bod proteinau yn elfen hanfodol o'r broses ymadfer ar ôl ymarfer, mae gwybod pa fath o garbohydrad y dylid ei fwyta a phryd i'w fwyta yn hanfodol i unrhyw fabolgampwr.
Mae maeth ar gyfer chwaraeon yn seiliedig ar ddealltwriaeth o'r ffordd y mae maetholion megis carbohydrad, braster a phrotein yn cyfrannu at y cyflenwad o danwydd sydd ei angen ar y corff i ymarfer. Caiff y maetholion hyn eu troi'n egni ar ffurf adenosin triffosffad (ATP). Yr egni a ryddheir drwy ddadelfennu ATP sy'n ei gwneud yn bosibl i gyhyrau gyfangu.
Caiff carbohydradau a brasterau eu trawsnewid yn ATP yn seiliedig ar ddwysedd a hyd y gweithgaredd, neu lefel ffitrwydd aerobig/anaerobig y perfformwr. Ar y cyfan, carbohydradau yw'r brif ffynhonnell egni sy'n rhoi tanwydd ar gyfer ymarfer dwysedd canolig i uchel, gyda braster yn darparu egni wrth ymarfer sy'n digwydd ar lefel dwysedd is. Mae braster yn danwydd da ar gyfer gweithgareddau dygnwch uchel megis heicio, ond nid yw'n ddigonol ar gyfer ymarfer dwysedd uchel fel gwibio neu ymarfer yn agos at y trothwy anaerobig am fod angen i tua 15% yn fwy o ocsigen na charbohydrad gael ei fetaboleiddio er mwyn gwneud hynny. Os byddwch yn ymarfer ar lefel dwysedd isel (neu'n is na 50 y cant o gyfradd curiad uchaf y galon), bydd gennych ddigon o danwydd wedi'i storio i ddarparu tanwydd ar gyfer gweithgarwch corfforol am oriau neu hyd yn oed ddyddiau, ar yr amod bod digon o ocsigen er mwyn i fraster allu cael ei fetaboleiddio.
Wrth i ddwysedd ymarfer gynyddu, bydd y corff yn dechrau metaboleiddio carbohydradau yn lle braster. Mae hyn yn fwy effeithlon na metaboleiddio braster, ond ychydig iawn o storau egni sydd ganddo. Gall y carbohydrad wedi'i storio (glycogen) roi tanwydd ar gyfer tua dwy awr o ymarfer o lefel ganolig i uchel yn dibynnu ar lefel ffitrwydd yr unigolyn. Ar ôl hynny, mae darwagio glycogen yn digwydd (carbohydradau wedi’u storio yn cael eu defnyddio i gyd) ac os na fydd y tanwydd hwnnw yn cael ei ailgyflenwi gall athletwyr fwrw’r wal. Gall athletwr barhau i ymarfer ar lefel dwysedd canolig i uchel am gyfnod hirach drwy ailgyflenwi storau carbohydrad wrth iddo ymarfer (bwydydd GI uchel, diodydd/geliau isotonig ac ati). Dyna pam mae’n hollbwysig bwyta carbohydradau sy’n gallu cael eu treulio’n hawdd wrth ymarfer ar lefel dwysedd canolig sy’n para mwy nag ychydig oriau. Os na chaiff ddigon o garbohydradau eu bwyta yn ystod y cyfnod hwn, bydd y perfformiwr yn gorfod lleihau dwysedd yr ymarfer a dechrau metaboleiddio braster er mwyn darparu tanwydd ar gyfer y gweithgaredd.
Wrth i ddwysedd ymarfer gynyddu, ni all y system aerobig ddarparu digon o egni (ATP) gan ddefnyddio carbohydrad a bydd metabolaeth anaerobig yn cymryd drosodd, yna bydd y corff yn defnyddio’r systemau egni glycolysis anaerobig a chreatin ffosffad i gynhyrchu ATP. Y rheswm dros hyn yw na all eich corff gymryd ocsigen i mewn a’i ddosbarthu’n ddigon cyflym i ddefnyddio metabolaeth braster na metabolaeth carbohydrad. Er y gall carbohydradau gynhyrchu bron 20 gwaith yn fwy o egni (ATP) y gram pan gânt eu metaboleiddio ym mhresenoldeb ocsigen na phan gânt eu cynhyrchu’n anaerobig, ni ellir cynhyrchu egni o’r fath yn ddigon cyflym i ymdopi â gofynion egni gormodol ymarfer dwysedd uchel.
Gydag ymarfer priodol, mae’r systemau egni hyn yn addasu ac yn dod yn fwy effeithlon ac yn galluogi'r unigolyn i ymarfer yn hirach ar lefel dwysedd uwch. Er enghraifft, wrth i unigolyn ddod yn fwy aerobig ffit, gan gynyddu ei VO2 macsimwm ac wedyn gynyddu ei ddefnydd o ocsigen, gall fetaboleiddio brasterau am gyfnod hirach na rhywun sy’n llai aerobig ffit. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl i lefelau glycogen gael eu cynnal, sy’n fuddiol pan gaiff dwysedd ymarfer ei gynyddu a phan mai carbohydrad/glycogen fydd y prif danwydd a ddefnyddir. Yn yr un modd, os bydd unigolyn yn anaerobig ffit, bydd ganddo fwy o storau glycogen a chreatin ffosffad, a fydd yn ei alluogi i ymarfer ar lefel dwysedd uchel am gyfnodau hirach.
Mae'r indecs glycemig (GI) yn dangos pa mor gyflym y mae carbohydrad yn rhyddhau egni (glwcos) i lif y gwaed. Mae carbohydradau yn amrywio'n fawr o ran pa mor gyflym y maent yn cynyddu lefelau siwgr yn y gwaed. Mae rhai mathau o garbohydrad yn rhyddhau egni yn gyflym ac yn cynyddu lefelau glwcos yn y gwaed yn gyflym iawn (bwydydd ‘GI uchel’), tra bod eraill yn rhyddhau glwcos yn arafach (bwydydd ‘GI isel’). I wneud hyn yn hawdd ei ddeall mae carbohydradau wedi cael eu graddio ar raddfa o 1 i 100. Mae gan glwcos radd o 100 ar y raddfa hon ac fe’i defnyddir fel cyfeirnod y caiff y bwydydd eraill eu gosod yn ei erbyn. Yn gyffredinol caiff bwydydd eu categoreiddio’n fwydydd GI isel, canolig ac uchel. Er enghraifft:
Mae’n bwysig deall nad yw’r bwydydd GI uchel i gyd yn wael, e.e. ystyrir bod tatws trwy’u crwyn yn y categori uchel ond maen nhw’n iachus, hefyd ystyrir bod siocled llaeth yn y categori GI canolig i isel ond gan fod llaeth yn cynnwys llawer o fraster mae'n cynnwys llawer iawn o galorïau. Mae’n bwysig sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng y bwydydd GI yn eich deiet i ddarparu egni ar unwaith a dros yr hirdymor. Bydd bwyta gormod o unrhyw fwyd yn arwain at gydbwysedd egni positif ac o ganlyniad at ennill pwysau os na fyddwch yn ymarfer digon. Ni fydd magu pwysau yn y fath fodd anghynhyrchiol yn fuddiol i fabolgampwyr.
Yn gyffredinol dylid osgoi carbohydrad GI uchel wrth geisio colli pwysau am ei fod yn rhyddhau egni/glwcos yn gyflym i mewn i lif y gwaed. Os na ddefnyddir yr egni hwn caiff ei storio fel braster mewn meinwe bloneg. Gall unigolyn gael diabetes drwy barhau i fwyta bwydydd GI uchel; pan gaiff bwydydd GI uchel eu bwyta maen nhw’n achosi i’r pancreas secretu inswlin, a elwir hefyd yn chwistrelliad inswlin, er mwyn rheoli lefelau siwgr yn y gwaed. Po fwyaf o fwyd GI uchel a gaiff ei fwyta, y mwyaf o inswlin a gaiff ei secretu. Os bydd deiet o’r fath yn parhau dros gyfnod gall y corff ddod yn fwyfwy goddefgar o’r inswlin. Y goddefiad hwn o’r inswlin yw diabetes. Bwydydd GI isel yw’r gwrthwyneb i GI uchel am eu bod yn rhyddhau egni yn llawer arafach ac yn fwy graddol, sy’n ei gwneud hi’n haws i’r corff ddefnyddio/llosgi’r egni. Hefyd mae carbohydradau GI isel yn gwneud i'r unigolyn deimlo bod llai o chwant bwyd arno ar ôl cyfnod gan leihau'r tebygolrwydd y bydd yn bwyta mwy o fwyd. Hefyd, nid ydynt yn achosi’r un chwistrelliad/secretiad o inswlin â bwydydd GI uchel.
Y strategaeth orau ar gyfer athletwyr yw bwyta carbohydradau GI isel mewn pryd o fwyd cyn ymarfer er mwyn darparu ar gyfer egni parhaol (3-4 awr cyn ymarfer er mwyn i'r bwyd gal ei dreulio'n llawn).
Dylid bwyta bwydydd GI isel ac uchel o fewn 30 munud ar ôl ymarfer er mwyn hwyluso'r broses ymadfer, gyda glwcos/glycogen yn cael ei dderbyn yn gyflymach i'r cyhyrau o fwydydd GI uchel ac egni'n cael ei ryddhau'n barhaus o'r bwydydd GI isel. Fodd bynnag, dylid osgoi bwyta bwydydd GI isel yn union cyn ac wrth ymarfer am na fydd y broses araf o dreulio’r bwydydd yn rhyddhau egni yn ddigon cyflym wrth ymarfer a bydd bwyd heb ei dreulio yn stumog yr athletwr a allai beri iddo deimlo’n sâl.
Mae bwydydd GI uchel yn bwysig yn ystod gornest er mwyn cynnal lefelau glwcos yn y gwaed a lefelau glycogen cyhyrol. Maent yn rhyddhau egni ar unwaith, sy'n hanfodol er mwyn i berfformiwr gynnal ei berfformiad. Mae bwydydd GI uchel yn aml yn cael eu bwyta drwy ddiodydd isotonig wrth ymarfer. Fodd bynnag, mae llawer o ffisiolegwyr yn awgrymu y dylid osgoi bwyta bwydydd GI yn syth cyn ymarfer oherwydd y chwistrelliad inswlin anochel a achosir. Gall y chwistrelliad hwn leihau faint o egni sydd ar gael ar gyfer ymarfer.
Ar ôl ymarfer dwys pan fydd storau glycogen y corff wedi'u darwagio, mae'n hanfodol y cânt eu hailgyflenwi cyn gynted â phosibl, yn ddelfrydol o fewn 30 munud. Mae bwyta bwydydd GI uchel ar ôl ymarfer yn ffordd dda o ddechrau ailgyflenwi glycogen.
Dylai athletwr sy’n cymryd rhan mewn gornest ddygnwch fwyta pryd bwyd GI isel rhwng 3-4 awr cyn ymarfer, sy'n cynnwys bwydydd fel bara brown, ffrwythau, llysiau, uwd (gweler eitemau eraill ar yr indecs isod). Yn ystod yr ornest mae bwydydd GI uchel fel diodydd a geliau isotonig, losin jeli a chacennau jaffa yn aml yn cael eu bwyta. Ar ôl ymarfer dylid bwyta cymysgedd o fwydydd GI uchel ac isel o fewn 30 munud i orffen ymarfer; dyma’r amser optimwm ar gyfer derbyn glycogen i’r cyhyrau. Yn aml caiff diodydd ymadfer penodol sy’n cynnwys cymysgedd o garbohydrad GI isel/canolig ac uchel a phrotein eu hyfed yn union ar ôl ymarfer. Ar ôl i’r athletwr gael cawod a newid, caiff storau glycogen a phrotein eu hailgyflenwi ymhellach gyda phryd bwyd cytbwys sy’n cynnwys cyfran uchel o garbohydrad GI isel a phrotein. Mae hyn yn helpu i barhau i ailgyflenwi storau glycogen gan fod y gyfradd metabolaeth yn aros yn uwch am hyd at 4 i 5 awr ar ôl i’r ymarfer orffen. Mae protein yn helpu i atgyweirio’r meinwe'r cyhyrau. Mae ailgyflenwi hylifau hefyd yn hanfodol i ailhydradu’r corff.
Ar ddiwedd y trydydd diwrnod o ymarfer, bydd y corff yn meddwl bod problem gyda’i storau glycogen ac y dylai storio mwy o glycogen na’r arfer. Yn ystod y tri diwrnod olaf o ymarfer, pan fydd yr athletwr yn bwyta carbohydrad, bydd y corff yn ailgyflenwi’r storau glycogen â glycogen ychwanegol nes eu bod yn llawn. Gelwir y broses hon yn 'gorgywiro'.
Mae llwytho carbohydradau yn ddull sy’n cael ei ddefnyddio i sicrhau bod storau glycogen athletwr mor llawn â phosibl cyn gornest ddygnwch. Mae sawl ffordd o ‘garbo-lwytho’ ond mae pob un ohonynt yn dilyn egwyddor debyg. Y ddau brif ddull yw techneg Astrand a thechneg Shearman, ond dull Shearman a ddefnyddir fwyaf. Mae techneg Shearman yn dilyn y camau canlynol:
Byddai wythnos carbo-lwytho nodweddiadol gyda'r gystadleuaeth ar y dydd Sadwrn fel a ganlyn:
Dydd/iau | Deiet | Ymarfer | Cam |
---|---|---|---|
Sunday | Deiet cytbwys | Ysgafn | Ymadfer |
Llun/Mawrth | Deiet cytbwys | Dwysedd uchel | Darwagio |
Mercher | Deiet cytbwys | Dwysedd canolig | Tapro |
Iau | Carbohydrad canolig/uchel (bwydydd GI isel/canolig) | Ysgafn | Tapro/Llwytho |
Gwener | Carbohydrad uchel 80% o'r deiet. (Bwydydd GI isel/canolig) | Ysgafn | Llwytho |
Sadwrn | Pryd bwyd GI isel/canolig 3-4 awr cyn cystadlu | Cystadleuaeth | Llwytho |
Dull cyflymach o lwytho carbohydradau yw darwagio storau glycogen un diwrnod cyn y gystadleuaeth gyda hyrddiad byr o weithgaredd dwysedd uchel am ddim mwy na 15 munud. Byddai'r cam llwytho yn dechrau yn union ar ôl ymarfer, gyda 80% o'r deiet a fwyteir yn cynnwys carbohydradau.
Hydradu yw cynnal y lefelau cywir o ddŵr y corff a thrwy hynny alluogi i’r corff weithredu’n normal. Os bydd lefelau’r dŵr yn gostwng dywedir bod y corff wedi dadhydradu, a all gael effaith negyddol sylweddol ar berfformiad ym myd chwaraeon.
Gallwn golli gormod o hylif o'r corff pan na chaiff dŵr sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithrediadau normal y corff, fel cynhyrchu egni, ei ailgyflenwi. Am bob moleciwl o ATP sy’n cael ei gynhyrchu, rhaid i adwaith cemegol ddigwydd sy’n rhyddhau gwres. Po fwyaf y byddwn yn ymarfer, y mwyaf fydd y gwres a gynhyrchir. Rheolir y gwres hwn gan y dŵr ym mhlasma’r gwaed drwy gael ei gludo i wyneb y croen. Wedyn caiff y gwres ei ryddhau trwy’r croen ac mae’n cyddwyso gan ffurfio chwys. Os na chaiff y dŵr hwn ym mhlasma’r gwaed ei ailgyflenwi drwy yfed dŵr neu hylifau eraill, bydd plasma’r gwaed yn dod yn fwy gludiog (mwy trwchus). Felly, ni all y gwaed gael ei gludo o gwmpas y corff mor gyflym. Mae hyn yn achosi’r canlynol:
Mae’r holl ffactorau hyn yn arwain at leihad yn yr ATP a gynhyrchir sydd yn ei dro yn arwain at leihad yn nwysedd ymarfer.
Syched yw’r arwydd mwyaf cyffredin o ddiffyg hylif, ynghyd â cheg a gwefusau sych. Mae hyn yn arwydd gwael i athletwyr, yn enwedig pan fyddant yn cymryd rhan mewn gornestau dygnwch, oherwydd unwaith y byddant yn y cyflwr hwn mae’n anodd iawn ailhydradu heb roi'r gorau i ymarfer. Mae monitro lliw troeth yr athletwr yn brawf llawer mwy manwl gywir o lefelau hydradu. Yn gyffredinol, lliw clir neu liw gwellt yw'r lliw delfrydol ar gyfer hydradiad llawn. Po fwyaf melyn yw lliw’r troeth yr uchaf yw'r lefelau o ddiffyg hylif.
Mae'n hanfodol hydradu cyn, wrth ac ar ôl ymarfer. Dylai unigolyn fod wedi'i hydradu bob amser, ac nid dim ond cyn cystadleuaeth. Po fwyaf yw'r unigolyn a pho fwyaf o ymarfer y mae'n ei wneud, y mwyaf o ddŵr y dylid ei yfed.
Fel rheol, dylid yfed rhwng 4 a 7 litr o ddŵr dros gyfnod o 24 awr. Ychydig cyn ymarfer, yn enwedig mewn gornestau neu gampau chwaraeon sy'n digwydd dros gyfnod estynedig, mae'n bwysig eich bod wedi'ch hydradu'n llawn cyn cystadlu. Yn dibynnu ar y tywydd, dylai unigolyn yfed hyd at 2 litr o ddŵr. Dylai'r unigolyn yfed y dŵr hwn dros 2 i 3 awr ac nid ar un cynnig er mwyn ei atal rhag chwyddo ac, o bosibl, deimlo'n sâl.
Unwaith eto, mae faint o ddŵr a gaiff ei yfed wrth ymarfer yn dibynnu ar y tywydd a maint yr unigolyn. Mae'n bwysig yfed ychydig bach o hylif yn rheolaidd. Fel canllaw i hydradu wrth ymarfer dylid yfed rhwng 150 a 250ml bob 10-15 munud neu rhwng ½ - 1 litr fesul awr o ymarfer. Os byddwch yn ymarfer am fwy na 90 munud, gall yfed diodydd egni hefyd fod yn fuddiol i ailgyflenwi storau carbohydradau/glycogen ac electrolytau a gollwyd, sydd oll yn hanfodol i gynhyrchu egni (AT).
Mae'n bwysig ailhydradu ar ôl ymarfer er mwyn helpu'r broses ymadfer. Dull a ddefnyddir yn aml gan athletwyr proffesiynol i reoli lefelau hydradu yw pwyso'r athletwr cyn ac ar ôl ymarfer neu gystadleuaeth hir. Wedyn ar gyfer pob 1 kg o bwysau'r corff a gollir, dylid yfed tua litr o ddŵr dros sawl awr, yn hytrach nag ar un cynnig.
Mae dwysedd ymarfer yn ffactor pwysig o ran faint o danwydd bwyd a defnyddir wrth ymarfer.
1. (a) Gan ddefnyddio gwybodaeth o’r diagram a’ch gwybodaeth eich hun, esboniwch yr amrywiad yn y defnydd a wneir o danwydd bwyd. (4)
(b) Mae maeth yn elfen allweddol mewn unrhyw weithgaredd dygnwch.
Esboniwch sut y gellir defnyddio maeth cyn, wrth ac ar ôl ymarfer er mwyn gwella perfformiad. (6)
Carbohydradau yw'r ffynhonnell bwysicaf o egni. Maent yn cynnwys yr elfennau carbon, hydrogen ac ocsigen. Mae rhan gyntaf yr enw, sef "carbo-", yn dynodi eu bod yn cynnwys carbon. Mae ail ran yr enw, sef "-hydr-", yn dynodi eu bod yn cynnwys hydrogen. Mae trydedd ran yr enw, sef "-ad-", yn dynodi eu bod yn cynnwys ocsigen.
Cawn y rhan fwyaf o’n carbohydrad ar ffurf carbohydradau cymhleth a elwir hefyd yn startsh neu bolysacaridau. Fe'i ceir mewn ffrwythau, llysiau, tatws, reis, pasta, bara a grawnfwydydd. Mae ein system dreulio yn troi’r holl garbohydrad hwn yn garbohydrad arall o’r enw glwcos. Mae glwcos yn cael ei gludo o amgylch y corff yn y gwaed ac fe'i defnyddir gan ein meinweoedd fel ffynhonnell egni. Hefyd mae glwcos yn cael ei storio yn y cyhyrau a’r afu/iau ar ffurf glycogen. Cawn rywfaint o’n carbohydrad ar ffurf carbohydradau syml a elwir hefyd yn siwgrau neu fonosacaridau (adeileddau un moleciwl); e.e. glwcos a ffrwctos; hefyd ceir deusacaridau (adeileddau dau foleciwl) fel swcros (1 moleciwl o ffrwctos ac 1 moleciwl o glwcos) a lactos. Pan fyddwn yn defnyddio glwcos i gynhyrchu egni mae angen ocsigen. Mae’n cymryd tua 15% yn llai o ocsigen i ddadelfennu moleciwl o glwcos nag y mae’n ei gymryd i ddadelfennu moleciwl o fraster. Felly dyma’r bwyd sydd orau gan fabolgampwyr a mabolgampwragedd. Caiff siwgrau eu hymddatod yn gyflymach na startsh, felly maent yn darparu egni bron ar unwaith (gweler indecs glycemig). Gall hyn fod yn broblem oherwydd os na fydd y corff yn defnyddio’r egni uniongyrchol hwn mae’n cael ei storio fel braster. Hefyd mae diabetes yn gysylltiedig â bwyta llawer o siwgr. Mae startsh yn cynnwys lefelau uwch o egni ac maent yn aml yn rhyddhau egni dros gyfnod hirach. Mae’r indecs glycemig o fwydydd yn dangos pa mor gyflym y mae bwydydd penodol yn rhyddhau egni i mewn i lif y gwaed.
Mae'r indecs glycemig (GI) yn dangos pa mor gyflym y mae carbohydrad yn rhyddhau egni (glwcos) i lif y gwaed. Mae carbohydradau yn amrywio'n fawr o ran pa mor gyflym y maent yn cynyddu lefelau siwgr yn y gwaed. Mae rhai mathau o garbohydrad yn rhyddau egni yn gyflym ac yn cynyddu lefelau glwcos yn y gwaed yn gyflym iawn (bwydydd ‘GI uchel’), tra bod eraill yn rhyddhau glwcos yn arafach (bwydydd ‘GI isel’). I wneud hyn yn hawdd ei ddeall mae carbohydradau wedi cael eu graddio ar raddfa o 1 i 100. Mae gan glwcos radd o 100 ar y raddfa hon ac fe’i defnyddir fel cyfeirnod y caiff y bwydydd eraill eu gosod yn ei erbyn. Yn gyffredinol caiff bwydydd eu categoreiddio’n fwydydd GI isel, canolig ac uchel, e.e.
Mae’n bwysig deall nad yw’r bwydydd GI uchel i gyd yn wael, e.e. ystyrir bod tatws trwy’u crwyn yn y categori uchel ond maen nhw’n iachus, hefyd ystyrir bod siocled llaeth yn y categori GI canolig i isel ond gan fod llaeth yn cynnwys llawer o fraster mae'n cynnwys llawer iawn o galorïau. Mae’n bwysig sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng y bwydydd GI yn eich deiet i ddarparu egni ar unwaith a dros yr hirdymor. Bydd bwyta gormod o unrhyw fwyd yn arwain at gydbwysedd egni positif ac o ganlyniad at ennill pwysau os na fyddwch yn ymarfer ddigon. Ni fydd ennill pwysau yn y fath fodd anghynhyrchiol yn fuddiol i fabolgampwyr
Yn gyffredinol dylid osgoi carbohydrad GI uchel wrth geisio colli pwysau am ei fod yn rhyddhau egni/ glwcos yn gyflym i mewn i lif y gwaed. Os na ddefnyddir yr egni hwn caiff ei storio fel braster mewn meinwe bloneg. Gall unigolyn gael diabetes drwy barhau i fwyta bwydydd GI uchel; pan gaiff bwydydd GI uchel eu bwyta maen nhw’n achosi i’r pancreas secretu inswlin, a elwir hefyd yn chwistrelliad inswlin, er mwyn rheoli lefelau siwgr yn y gwaed. Po fwyaf o fwyd GI uchel a gaiff ei fwyta, mwyaf i gyd o inswlin a gaiff ei secretu. Os bydd deiet o’r fath yn parhau dros gyfnod gall y corff ddod yn fwyfwy goddefgar o’r inswlin. Y goddefiad hwn o’r inswlin yw diabetes. Bwydydd GI isel yw’r gwrthwyneb i GI uchel am eu bod yn rhyddhau egni yn llawer arafach ac yn fwy graddol, sy’n ei gwneud hi’n haws i’r corff ddefnyddio/ llosgi’r egni. Hefyd mae carbohydradau GI isel yn gadael yr unigolyn â llai o chwant bwyd ar ôl cyfnod gan leihau'r tebygolrwydd y bydd yn bwyta mwy o fwyd. Hefyd, nid ydynt yn achosi’r un chwistrelliad/ secretiad o inswlin â bwydydd GI uchel.
Bwyd GI uchel | GI | Bwyd GI canolig | GI | Bwyd GI | isel |
---|---|---|---|---|---|
Bara Gwyn | 70 | Tatws wedi'u Berwi | 56 | Afalau | 38 |
Erfin | 72 | Mêl | 58 | Gellyg | 38 |
Cheerios | 74 | Resins | 64 | Nwdls | 40 |
Ffa Jeli | 80 | Cwscws | 65 | Sbageti | 41 |
Corn Flakes | 84 | Pîn-afal | 67 | Moron | 47 |
Taten drwy'i chroen | 85 | Shredded Wheat | 67 | Ffa Pob | 48 |
Puffed Wheat | 89 | Ryvita | 69 | Ffrwyth Ciwi | 52 |
Pannas | 97 | Weetabix | 69 | Banana | 55 |
Reis gwyn | 98 | Bara Gwenith Cyflawn | 69 | India-corn | 55 |
Fel carbohydradau, mae brasterau yn cynnwys yr elfennau carbon, hydrogen ac ocsigen. Defnyddir brasterau fel ffynhonnell egni a chânt eu storio hefyd dan y croen fel meinwe bloneg, gan helpu i ynysu’r corff rhag yr oerfel. Mae brasterau yn cynnwys llawer o egni ac os byddwch yn bwyta llawer iawn ohonynt bydd gennych gydbwysedd egni positif a byddwch yn magu pwysau. Yn yr un modd os byddwch hefyd yn bwyta gormod o garbohydrad ac na chaiff ei losgi, caiff ei drawsnewid a'i storio fel brasterau, a byddwch yn magu rhagor o bwysau. Rhaid i chi gydbwyso faint o fwydydd llawn egni rydych yn eu bwyta a faint o egni a ddefnyddir gennych pan fyddwch yn ymarfer. Fodd bynnag, mae’n bwysig cael braster yn eich deiet, nid yn unig am ei fod yn elfen hanfodol o'r broses o gynhyrchu egni ar gyfer ein bywydau bob dydd ond hefyd am ei fod yn cludo fitaminau braster-hydawdd A, D, E a K hanfodol o gwmpas y corff.
Mae braster yn ffynhonnell grynodedig o egni. Mae 1g yn unig yn darparu naw calori – sy'n fwy na dwbl y calorïau mewn 1g o brotein neu garbohydrad.
Mae hyn yn golygu ei bod yn llawer haws bwyta gormod o galorïau wrth fwyta bwydydd sy'n cynnwys llawer o fraster. Dylai pobl sy’n ceisio rheoli eu pwysau fwyta llai o fwydydd brasterog er mwyn helpu i leihau nifer y calorïau yn eu deiet. Mae angen rhywfaint o fraster yn ein deiet, ond meintiau bach yn unig o asidau brasterog hanfodol yw’r allwedd i iechyd da.
Gellir rhannu braster yn ddau brif grŵp – sef dirlawn ac annirlawn.
Ar y cyfan, mae braster dirlawn yn solet ar dymheredd ystafell ac fel arfer daw o ffynonellau anifail. Fe'i ceir mewn lard, menyn, margarin caled, caws, llaeth cyflawn ac unrhyw beth sy’n cynnwys y cynhwysion hyn, megis cacennau, siocled, bisgedi, pasteiod a theisennau crwst. Dyma hefyd y braster gwyn a welwch ar gig coch ac o dan groen dofednod.
Mae faint o fraster dirlawn rydych yn ei fwyta yn gysylltiedig â chrynodiadau uwch o golesterol yn y gwaed (Lipoproteinau Dwysedd Isel - LDLs) a risg uwch y byddwch yn cael clefyd y galon. Mae bwyta llai o fraster dirlawn yn helpu i leihau’r risgiau i iechyd y galon sy'n gysylltiedig ag ef.
Ceir y rhain mewn olewau llysiau ac maent yn ddewis amgen iachach yn lle braster dirlawn ac fe'u ceir mewn blodau'r haul, soia ac olew'r olewydd, margarin meddal (Flora) ac mewn bwydydd megis pysgod olewog, gan gynnwys macrell, sardinau, pennog Mair ac eog. Os oes modd, dylech sicrhau bod y braster a fwytewch yn annirlawn.
Fel arfer, mae braster annirlawn yn hylif ar dymheredd ystafell. Mae brasterau monoannirlawn ac amlannirlawn wedi'u cynnwys yn y grŵp hwn.
Mae’r rhain yn frasterau annirlawn gydag atomau hydrogen wedi’u hychwanegu atynt, sy’n golygu ei bod yn anos datod y bondiau rhwng y moleciwlau braster. Mae’r broses yn un artiffisial a gyflawnir gan gwmnïau bwyd er mwyn sicrhau oes silff y cynnyrch a thrwy hynny ymestyn y dyddiad ‘gwerthu erbyn’. Fe'u ceir yn aml mewn cynhyrchion bob dydd fel margarin, teisennau crwst, toesenni, myffins, bisgedi, cacennau, pasteiod, cracers, sglodion a’r rhan fwyaf o fwydydd cyflym. Nid yw traws-frasterau yn asidau brasterog hanfodol ac felly nid oes ganddynt unrhyw werth maethol; yn wir, mae bwyta traws-frasterau yn cynyddu’r risg o gael clefyd coronaidd y galon, drwy gynyddu lefelau colesterol LDL "drwg" a gostwng lefelau colesterol HDL "da". Mae awdurdodau iechyd ledled y byd yn argymell mai dim ond symiau bach bach iawn o draws-fraster y dylid eu bwyta. Mae traws-frasterau yn llawer mwy niweidiol na brasterau dirlawn sy’n digwydd yn naturiol.
Mae angen protein ar gyfer twf ac atgyweirio. Mae proteinau’n cynnwys carbon, hydrogen, ocsigen, nitrogen ac weithiau sylffwr. Mae proteinau’n foleciwlau mawr iawn, felly ni allant fynd yn uniongyrchol i mewn i’n gwaed; mae'n rhaid iddynt gael eu troi'n asidau amino gan y system dreulio. Defnyddir yr asidau amino hyn gan y cyhyr i atgyweirio unrhyw feinwe sydd wedi’i niweidio ar ôl ymarfer dwys, e.e. mae ffibrau cyhyrol wedi'u niweidio/rhwygo ychydig ar ôl ymarfer dwys ac mae’r asidau amino yn helpu i ailadeiladu’r ffibrau i greu adeileddau sy'n aml yn fwy o faint ac yn gryfach - a elwir yn hypertroffedd cyhyrol. Hefyd, gellir defnyddio proteinau fel ffynhonnell egni mewn achosion eithafol iawn pan fydd yr holl storau carbohydrad wedi'u darwagio. Os caiff gormod o brotein ei fwyta, caiff rhywfaint ohono ei storio fel brasterau ond caiff asidau amino eu gwaredu o’r corff trwy ein troeth.