Cynnwys
- Cyfnodoli a'r flwyddyn ymarfer
Mae'r flwyddyn ymarfer wedi'i rhannu'n dri chyfnod, sef cyn y tymor, yn ystod y tymor a'r tu allan i'r tymor, ac mae'r dulliau a'r mathau o ymarfer yn adlewyrchu'r gamp a'r adeg benodol o'r flwyddyn, e.e. llawer iawn o ymarfer dwysedd uchel yn ystod y cyfnod cyn i'r tymor ddechrau.
Mae cyfnodoli llinellol traddodiadol yn ddull a dderbynnir yn eang o strwythuro rhaglenni ymarfer er mwyn sicrhau'r perfformiad gorau posibl ar yr adeg gywir, a elwir yn 'cyrraedd y brig' hefyd. Defnyddir y math hwn o gyfnodoli yn helaeth gan athletwyr, nofwyr a beicwyr sy'n gwella eu ffitrwydd tuag at gystadleuaeth megis y Gemau Olympaidd.
Fel arfer, caiff rhaglen ymarfer ei chynllunio gyda thri chyfnod penodol – sef y cyfnod paratoi, y cyfnod cystadlu a'r cyfnod pontio. Nod cyfnodoli yw cyrraedd y lefel uchaf posibl o berfformiad ar gyfer cystadleuaeth benodol a datblygu elfen benodol o ffitrwydd. Wrth i'r macrogylchoedd fynd yn eu blaen, bydd yr unigolyn yn ymarfer llai a rhoddir mwy o bwyslais ar ddwysedd sy'n benodol i'r gystadleuaeth neu'r elfennau o ffitrwydd. Er enghraifft, cyflymder – a ddatblygwyd o ganlyniad i fesogylch o lawer o ymarfer i wella cryfder ynghyd â mesogylch o lai o ymarfer dwysedd uwch i fagu nerth. Mae'r mesogylch terfynol wedyn yn canolbwyntio'n benodol ar gynyddu cyflymder ar y cyflymder uchaf a redir yn ystod ras. Mae gan rai rhaglenni llinellol fodelau cyfnodoli deuol lle mae'r ymarfer yn canolbwyntio ar ddwy brif ornest neu gystadleuaeth. Mae trefn yr ymarfer yr un peth â model cyfnodoli arferol ond mae mewn blociau byrrach.
Fel yr awgryma'r teitl, mae hwn yn gyfnod o ymarfer sy'n gosod y sylfeini ar gyfer y prif gystadlaethau. Nodweddir y cyfnod hwn o ymarfer gan lefel yr ymarfer, sy'n rhoi'r lefelau sylfaenol angenrheidiol o sgiliau a ffitrwydd sydd eu hangen arnoch ar gyfer y cyfnod cystadlu. Er enghraifft, byddai gwibwyr yn ymgryfhau yn ystod y cyfnod paratoi fel y bydd yn gallu datblygu pŵer yn ystod y tymor cystadlu gan fynd ati i wella eu cyflymder yn benodol wrth gyrraedd ei frig ar gyfer cystadleuaeth.
Cyfnod pontio o sgiliau a ffitrwydd cyffredinol i symudiadau a gweithredoedd sy'n ymwneud yn fwy penodol â chwaraeon, yn ogystal â gwella a pherffeithio techneg a thactegau, e.e. gweithio ar eich ystwythder wrth chwarae pêl-rwyd yn ogystal ag arferion pasio o'r canol.
Y brif dasg yw atgyfnerthu'r holl ffactorau ymarfer, sy'n galluogi'r athletwr i gystadlu'n llwyddiannus yn y brif gystadleuaeth. Mae bron yr holl ymarfer yn gysylltiedig â symudiadau sy'n ymwneud yn benodol â chwaraeon, tra bod y gweddill yn canolbwyntio ar gyflyru cyffredinol a chynnal sgiliau a ffitrwydd.
Cyfnod a nodweddir gan weithgareddau nad ydynt yn rhai cystadleuol. Mae'r cyfnod hwn yn bwysig oherwydd, er bydd lludded cyhyrol yn diflannu ymhen rhyw wythnos yn achos y rhan fwyaf o athletwyr hyfforddedig, gall lludded y system nerfol ganolog niwral barhau am gyfnod llawer hwy. Mae'r cyfnod pontio yn cynnwys adfer, sy'n galluogi'r athletwr i wella os yw wedi cael unrhyw anafiadau ac ymlacio'n seicolegol.
Fel arfer caiff y cynllun ymarfer ei ddatblygu o wythnos ymarfer gyntaf y tymor newydd tan gystadleuaeth olaf y tymor. Ar ôl pennu'r dyddiad dechrau a'r dyddiad gorffen yn ystod y flwyddyn, rhennir y cyfnod o amser rhyngddynt yn ficrogylchoedd. Caiff y microgylchoedd eu grwpio mewn mesogylchoedd, a chaiff y mesogylchoedd eu grwpio mewn macrogylchoedd.
Wedyn caiff y rhain eu grwpio mewn cyfnodau er mwyn cwblhau'r cynllun ymarfer.
Mae hyd y cylchoedd yn dibynnu'n fawr iawn ar y gamp, a'r gystadleuaeth y mae'r athletwr yn ymarfer ar ei chyfer. Mae'r amserlenni canlynol yn adlewyrchu hyn.
Mae microgylch yn para rhwng 1 a 14 diwrnod fel arfer.
Mae mesogylch yn para rhwng pythefnos a chwe mis fel arfer.
Mae macrogylch yn para rhwng blwyddyn a phedair blynedd fel arfer.
Mae'r microgylch yn para wythnos.
Y ffordd hawsaf o baratoi cynllun y microgylch yw defnyddio microgylch sy'n para wythnos (saith diwrnod). Dylid cynllunio pob microgylch fel ei fod yn cynnwys cyfnodau ymadfer rhwng pob sesiwn ymarfer.
Isod ceir enghraifft o ficrogylch ar gyfer athletwr pŵer/cyflymder (neidio, taflu, gwibio a neidio clwydi) 17 oed sy'n ymarfer unwaith y dydd yn ystod y cyfnod paratoi:
Dydd Llun | Dydd Mawrth | Dydd Mercher | Dydd Iau | Dydd Gwener | Dydd Sadwrn | Dydd Sul |
Ymarfer codi pwysau | Sgìl, ymarfer a thechneg | Dygnwch cyflymder | Ymarfer codi pwysau | Gorffwys, hyblygrwydd | Sgìl, cyflymder, Dygnwch cyflymder | Ymarfer codi pwysau |
Y ffordd hawsaf o baratoi mesogylch yw grwpio rhwng dau a phedwar microgylch ynghyd mewn cyfnod penodol. Fel yn achos y microgylch, mae angen sicrhau bod ymadfer yn rhan o'r mesogylch. Fel arfer, mae'r microgylch olaf yn wythnos ymadfer pan fydd yr athletwr yn ymarfer llai.
Mae macrogylch yn grŵp o fesogylchoedd. Mae hefyd yn cynnwys yr holl ymarfer a wneir ar gyfer y cylch llawn hwnnw e.e. blwyddyn.
Gan ddefnyddio enghraifft o gynllun ymarfer blynyddol (macrogylch), mae'r cyfnodau a'r cylchoedd fel arfer wedi'u grwpio fel a ganlyn, gyda'r microgylchoedd yn y rhes waelod. Mewn gwirionedd, ar gyfer athletwr pŵer fel taflwr disgen sy'n paratoi ar gyfer gystadleuaeth benodol yn yr adran (tymor) cystadlu, gallai'r ymarfer ddilyn y patrwm hwn:
Mesogylchoedd paratoi – y broses gychwynnol o ddatblygu hypertroffedd cyhyrol yn barod ar gyfer ymarfer cryfder.
Mesogylchoedd paratoi arbennig – cynyddu cryfder yn barod ar gyfer ymarfer pŵer.
Mesogylchoedd cystadlu – cynyddu pŵer yn barod ar gyfer cyflymder (sy'n benodol i'r ddisgen).
Peaking for Competition – Focus purely on power and speed of movement
Cyrraedd y lefel uchaf bosibl o berfformiad – canolbwyntio'n llwyr ar bŵer a chyflymder symud.
Mae enghraifft o hyn i'w gweld yn y graff isod:
http://www.sarugby.co.za/boksmart/pdf/BokSmart%20%20Physical%20conditioning%20for%20rugby.pdf
Enghraifft o gynllun blwyddyn (macrogylch) sy'n cynnwys pob mesogylch a microgylch:
Cynlluniwyd cyfnodoli i ddechrau ar gyfer maes codi pwysau Olympaidd, sy'n gamp sydd ond yn defnyddio dwy brif elfen o ffitrwydd, sef cryfder a phŵer. Mae hefyd wedi'i ddefnyddio'n helaeth ym meysydd athletau a nofio lle mai'r nod yw cyrraedd y lefel uchaf bosibl o berfformiad ar gyfer gornest neu gystadleuaeth benodol. Mae cyfnod paratoi cymharol fyr (cyn y tymor) ynghyd â chyfnod cystadlu hir, h.y. tymor sy'n para naw mis, yn broblem yn achos gemau tîm megis rygbi a phêl-rwyd. Gan fod y tymor mor hir, mae'n amhosibl cyrraedd y lefel uchaf bosibl o berfformiad ar gyfer pob wythnos neu gêm o'r tymor. Felly, yn ystod tymor neu'r cyfnod cystadlu mae'r ffocws ar gynnal ffitrwydd gyda'r posibilrwydd o fân welliannau. Mae problem arall wedyn yn codi o ran pryd y dylai tîm anelu at gyrraedd y lefel uchaf posibl o berfformiad yn ystod tymor. Byddai hyfforddwyr cenedlaethol am i'w timau gyrraedd y lefel uchaf posibl o berfformiad ar gyfer gemau rhyngwladol a chystadlaethau mawr, tra byddai hyfforddwyr clybiau am i'w timau cyrraedd y lefel uchaf posibl o berfformiad ar gyfer rowndiau terfynol cynghreiriau domestig neu gystadlaethau cwpan. Felly, mae gwrthdaro posibl yn yr achos penodol hwn.
Mae problemau eraill yn codi sy'n gysylltiedig ag union natur chwaraeon tîm. Er enghraifft, ym maes rygbi'r undeb, defnyddir llawer o elfennau gwahanol o ffitrwydd, sy'n cynnwys rhai corfforol a rhai sy'n gysylltiedig â sgiliau. Gall y rhain amrywio o gryfder a phŵer, ffitrwydd aerobig i ystwythder. Mae hyn yn broblem ynddo'i hun, am fod yn rhaid sicrhau cydbwysedd er mwyn datblygu pob un o'r elfennau. Ar ben yr ymarfer cryfder a chyflyru penodol, mae sgiliau sy'n benodol i gemau, e.e. sgiliau trafod a chyffwrdd, sy'n fwy hanfodol byth i chwaraewyr llwyddiannus.
Enghraifft o raglen ymarfer wedi'i chyfnodoli gyffredinol ar gyfer chwaraewr rygbi'r undeb:
Mis | Mai | Meh | Gor | Aws | Med | Hyd | Tach | Rhag | Ion | Chwe | Maw | Ebr | |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cyfnod | Allan o dymor | Pre-season | Mewn tymor neu gyfnod cystadleuaeth | ||||||||||
Gwaith aerobig | Datblygu | Cynnal | |||||||||||
Anaerobic work | Amhenodol | Datblygu | cynnal – cynnig i ddatblygu os oes cyfnodau o ddiffyg gweithgarwch yn bresennol | ||||||||||
Cryfder | Amhenodol | Dygnwch cryfder | Pŵer mwyaf | Cyfradd datblygiad grym | Pŵer mwyaf | Cryfder cyflymder | Cryfder mwyaf | Cyfradd datblygiad grym | Pŵer mwyaf | Cryfder cyflymder | Cynnal | ||
Cyflymder | Gwaith amhenodol | Pwyslais ar dechneg | Cyflymder pen uchaftd | Cyflymiad | Ystwythder | Gêm-benodoltd | |||||||
Cyfaint | Isel | Tuedd - cychwyn uchel gan ostwng tua'r tymor | Bydd y cyfaint yn is cyn y tymor ond gall gynyddu yn ystod cyfnodau segur/ anaf neu gemau nad ydynt yn rhan o gystadleuaeth. Rhaid i'r dwysedd aros yn uchel gan leihau os yw'r cyfaint yn cynyddu | ||||||||||
Dwysedd | Canolig | Tuedd - canolig yn cynyddu tua'r tymor |
Llun | Mawrth | Mercher | Iau | Gwener | Sadwrn | Sul | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
AM | Cyflymder a chyflymiad | Cyfnodau anaerobig bychan | Cryfder corff cyfan | Diwrnod adfer | Cyfnodau anaerobig hir | Sgiliau | Diwrnod adfer |
PM | Cryfder corff cyfan | Hyfforddi aerobig | Cryfder rhan uchaf y corff | Gemau anaerobig |
http://www.mwsu.edu/student-life/organizations/rugby/pdf/Fitness-for-Rugby.pdf
Llun | Mawrth | Mercher | Iau | Gwener | Sadwrn | Sul | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
AM | Cyflymder a sgiliau | Sgiliau | Cynnal cryfder | Pŵer | Rhedeg mewn tîm | Gêm | Diwrnod adfer |
PM | Cryfder a chynnal | Anaerobig | Sgiliau | Adfer yn y pwll | Adfer yn y pwll |
http://www.mwsu.edu/student-life/organizations/rugby/pdf/Fitness-for-Rugby.pdf
Mae'n rhaid i berfformwyr wella eu ffitrwydd ffisegol a'u lefelau sgìl ar gyfer cystadlu.
(a) Esboniwch sut y gall athletwr ddefnyddio cyfnodoli i fireinio ei berfformiad. Rhowch enghreifftiau er mwyn cefnogi eich ateb. [8]
Cynnwys dangosol
Uchafswm o 5 marc am esbonio cyfnodoli.
3 marc am gymhwyso a defnyddio enghreifftiau yn ymarferol.