Cynnwys
- Adlewyrchiad o gymdeithas ydy chwaraeon
- Rhwystrau rhag cymryd rhan
- Ffactorau cymdeithasol-ddiwylliannol ac economaidd
Gwahaniaethu cymdeithasol yw’r ffordd y mae grwpiau’n gwahanu – trwy ymddangosiad neu ymddygiad. Mae’r cyfleoedd i ymgymryd â chwaraeon yn haenedig yn unol â nodweddion cymdeithasol a diwylliannol fel hil, rhyw a dosbarth.
e.e. golff i bobl wyn, maestrefol dosbarth canol tra bod bocsio yn denu dynion dosbarth gweithiol, trefol ac amlddiwylliannol.
Ym aml, caiff chwraeon eu disgrifio fel microcosm o gymdeithas, yn adlewyrchu ffeithiau mân cymdeithas a hynny yng ngŵydd cynulleidfaoedd byd-eang. .
Mae grwpiau cryfaf cymdeithas yn gallu rheoli grwpiau lleiafrifol, mae gwahaniaethu’n digwydd pan nad yw cyfleoedd ar gael i bawb. Gall hyn fod yn aelodaeth o glwb gyda gormod o gyfyngiadau arno neu yn seiliedig ar gred ddofn,
e.e. hiliaeth yn Ne Affrica yn ystod cyfnod Apartheid.
Gellir rhannu rhain i ddwy agwedd:
Ffactorau cymdeithasol-ddiwylliannol ac economaidd sy’n cael effaith ar gyfleoedd, cymryd rhan, darpariaeth a gwerthoedd:
Mae astudiaethau’n dangos mai’r ddau ffactor mwyaf pwysig wrth ddod yn athletwr elit yw: ymwneud y teulu mewn chwaraeon a datblygiad cyfeillgarwch trwy chwaraeon.
Rhyw – rolau diwylliannol y mae dynion a merched yn eu cymryd mewn cymdeithas benodol. Caiff llwybr merched at lefel elit ei effeithio gan faterion yn ymwneud â rhagfarn rywiaethol – fel arfer canfyddiadau sy'n stereoteip o gryfderau ac ansawdd merched mewn chwaraeon. Mae syniadau am fod yn wraig tŷ, yn fam, gwendid corfforol neu gwestiwn ynglŷn â rhywioldeb yn parhau’r agweddau hyn ar gyfer athletwyr elit.
Mae hil yn cyfeirio at nodweddion corfforol unigolyn, tra bo ethnigrwydd yn cyfeirio at dreftadaeth ddiwylliannol – iaith, crefydd (mae’r cyfryngau’n defnyddio’r termau hyn fel pe bydden nhw’n golygu’r un peth).
Set o gredoau yw hiliaeth yn seiliedig ar y dybiaeth bod nodweddion diwylliannol gwahanol i hiliau a bod rhai ohonyn nhw’n well na’i gilydd yn y bôn.
Stereoteip – cred, wedi ei or-gyffredinoli am grŵp neu ddosbarth arbennig o bobl (Cardwell 1996).
Mewn chwaraeon, lle mae cyflawniad yn seiliedig ar fesur yn wrthrychol, e.e. athletau, mae gwahaniaethu’n anoddach.
Mewn gemau tîm, mae yna broblemau o hyd gyda chanolrwydd (yn agos at y lleoliad canolig lle mae rhyngweithio’n digwydd yn aml). Y peth mwyaf pwysig am ganolrwydd ydy arweinyddiaeth ac elfen o gyfrifoldeb. Mae’r safleoedd hyn yn parhau i gael eu cymryd ban bobl wyn, gyda chwaraewyr duon fel arfer mewn safleoedd nad ydynt yn ganolog – cyfeirir at hyn fel Stacio Hiliol.
Rheol Rooney – yn sgil diffyg cyfleoedd ym meysydd hyfforddi a rheolaeth i hyfforddwyr duon. Mae’r rheol hwn mewn pêl-droed Americanaidd yn caniatáu cyfleoedd ar gyfer cyfweliadau yn y gamp i hyfforddwyr o grwpiau lleiafrifol.
Gwelir chwaraeon fel llwybr sy'n arwain at symudedd cymdeithasol (rags to riches). Mae llwyddiant yn arwain at greu mwy o fodelau rôl ac yn dymchwel rhwystrau.
Anabledd – rhywun â rhyw fath o nam sy’n effeithio ar ei allu/gallu i ymgymryd â rhai gweithgaredd. Mae gwahaniaeth sylweddol yn niferoedd y rhai sydd ag anabledd (9%) a rhai heb anabledd (23%) sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon. Mae’r rhwystrau i gymryd rhan yn cynnwys: stereoteipio, diffyg arbenigwyr, diffyg sylw yn y wasg a modelau rôl.