Cynnwys
- Rôl ysgolion bonedd
- O amaturiaeth i broffesiynoldeb
Mae chwaraeon yr oes fodern wedi’u dylanwadu gan y gorffennol. Wrth edrych yn ôl ar hanes, mae gwreiddiau ein hoff chwaraeon a’n gweithgareddau hamdden yn amlwg.
Roedd gweithgareddau hamdden cyn cyfnod y chwyldro diwydiannol wedi’u rhannu rhwng y werin bobl a’r uchelwyr. Roedd y werin yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden mewn gwyliau blynyddol, ffeiriau a gwyliau eraill megis y Nadolig. Ar y pryd, roedd yr eglwys yn wrthwynebus i lawer o chwaraeon a digwyddiadau amser hamdden eraill. Roedd rhaid i’r gŵr bonheddig fod â diddordeb mewn chwaraeon a diwylliant yng nghylchoedd cymdeithasol yr uchelwyr. Roedd y chwaraeon yn cynnwys: hela, tenis go iawn a dawnsio.
Erbyn y 17eg ganrif, roedd gemau torfol a baetio wedi dod yn weithgareddau amser hamdden (cyn belled ag y bo pobl yn dal i fynychu’r eglwys). Yn ystod y 18fed ganrif, roedd yr eglwys yn darparu dyddiau gŵyl a chyfle i bobl ymgasglu. Roedd criced, rasio ceffylau ac ymladd heb fenig (rheolau Broughton yn 1743) yn boblogaidd ac yn denu torfeydd i'w gwylio gan arwain at gychwyn masnacheiddio chwaraeon.
Yn ystod y 19eg ganrif, newidiodd cymdeithas, addysg, chwaraeon a gemau mewn modd dramatig. Roedd cymdeithas yn seiliedig ar Gristionogaeth ac ethig gwaith Protestannaidd. Dechreuodd amodau ac oriau gwaith wella i’r dosbarth gweithiol a chyda dyfodiad y chwyldro diwydiannol, daeth gwelliant mewn cysylltiadau trafnidiaeth a datblygiad pellach ym maes chwaraeon. Hefyd, gyda chreu’r Ymerodraeth Brydeinig, datblygodd chwaraeon ar draws y byd.
Characteristics of popular recreation
Roedd 'Mob ball' yn gêm amser hamdden boblogaidd. Gem debyg oedd y Cnapan yng Nghymru lle'r oedd dynion yn cicio a thaflu pêl o un plwyf i’r llall. Yn y bôn ymladdfa oedd y gêm rhwng grwpiau o ddynion ifanc.
Nid oedd yr uchelwyr, y llywodraeth na llywodraeth leol yn hoff o hyn gan ei bod yn:
Dydd Mawrth Ynyd oedd y diwrnod traddodiadol i chwarae 'Mob ball' a oedd yn cael ei weld fel cyfle i gael hwyl cyn difrifoldeb y Grawys.
Rheolwyd yr ysgolion hyn gan grwpiau o ymddiriedolwyr ac nid oeddent dan berchenogaeth preifat. Prif nodweddion yr ysgolion hyn oedd: lletya, a oedd yn caniatáu mwy o amser i weithgareddau hamdden; roeddent yn denu bechgyn o amrywiaeth o ardaloedd a hwythau felly â phrofiad o gemau rhanbarthol; roedd y driniaeth a’r amodau byw garw yn paratoi’r bechgyn ar gyfer cystadlaethau caled.
Mae llawer yn ystyried mai Dr Thomas Arnold yw’r dyn a ddiwygiodd y system ysgolion bonedd. Nod Dr Arnold oedd pregethu ymddygiad moesol da. Roedd hyn yn rhan o’r Muscular Christianity Movement a oedd yn credu mewn meddwl, enaid a chorff iach.
Diwygiodd Arnold yr ysgolion bonedd trwy newid ymddygiad y bechgyn, datblygu rôl disgyblion y chweched dosbarth a chreu’r ymdeimlad o bwysigrwydd meddwl a chyrff iach. Sefydlodd y gemau a drefnwyd gan y chweched dosbarth reolaeth gymdeithasegol, creodd fodelau rôl a chyfleoedd arweinyddol.
Y system dai
Dyma ragflaenydd cynghreiriau a chodio gemau. Daeth system dai Arnold yn ffocws i fodolaeth personol, cymdeithasol, hamdden a chwaraeon y bechgyn. Caniataodd y system dai gystadleuaeth iach, y synnwyr o berthyn ac agweddau ymlynol.
Wrth i’r ysgolion bonedd ddod yn fwy poblogaidd, cynyddodd eu cefnogaeth ariannol a datblygwyd caeau chwarae gwych, dillad ysgol a rheolau. Daeth cystadlaethau rhwng yr ysgolion â symbolau o athletiaeth. Daeth athletiaeth yn hynod boblogaidd gydag ysgolion yn cynnal gemau gorfodol er mwyn datblygu cymeriad.
Athletiaeth – cyfuniad o ymdrech gorfforol a chywirdeb moesol (chwarae teg)
Aeth y myfyrwyr hyn ymlaen i’r brifysgol gan fynd â moeseg y gemau gyda nhw; y cymeriad cyfan, cwrteisi a nodweddion personol rhagorol. Wedi arwain tîm ar y cae chwarae, cymerwyd yn ganiataol y byddai’n gallu arwain catrawd ar faes y gad. Byddai’r myfyrwyr hyn hefyd yn dod â’r rheolau a’r confensiynau o amrywiol ysgolion i ddechrau ffurfioli rheolau cytunedig yn fwy canolig.
Roedd datblygiad athletiaeth yn llawer arafach mewn ysgolion bonedd merched oherwydd:
Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd Diwrnodau Chwaraeon yn achlysuron cymdeithasol o bwys ac yn symbol o’r oes fodern. Cynrychiolai’r diwrnodau chwaraeon gyfnod mwy technegol a diddordeb mewn medrusrwydd yn hytrach na bôn braich. Roedd y diwrnodau hyn wedi’u trefnu’n drylwyr gyda rhaglenni cynhwysfawr.
Daeth pêl-droed yn fwy cyfundrefnol ac yn rhan ganolig o nid yr ysgolion bonedd yn unig ond hefyd cymdeithas. Ymhlith y dosbarthiadau uwch, gwelwyd y gêm yn weithgaredd parchus a oedd yn arddangos dewrder a phenderfyniad.
Y Gymdeithas Bêl-droed
Mewn ffordd debyg y datblygodd criced. Yn yr 1870au, datblygodd y gêm hon o dimau o unarddeg a oedd yn teithio i atyniad torfol – tra bo cymunedau sirol angen ac yn parchu chwaraewyr proffesiynol, fe’u cadwyd yn eu lle yn gymdeithasol, e.e. Y Chwaraewyr v Gwŷr Bonheddig neu Pros v Amaturiaid. Roedd ganddyn nhw hyd yn oed drefniadau bwyta gwahanol ac nid oedden nhw’n teithio i’r gemau gyda’i gilydd nac ychwaith yn rhannu ystafelloedd newid.
Cefndir:
Roedd y fyddin yn gwrthod dros draean o recriwts ar sail gorfforol erbyn diwedd y 19eg ganrif. Ychydig o le na chyfleusterau mewn trefi diwydiannol na phwyslais yn ysgolion y wladwriaeth. Cyflwynwyd dril er mwyn gwella ffitrwydd ymhlith recriwts i’r fyddin, disgyblaeth ac ymdrech i roi i blant y dosbarth gweithiol beth oedd gemau yn eu rhoi i fechgyn yr ysgolion bonedd