Cynnwys
- Cydberthynas diwylliant, cymdeithas, a sefydliad cymdeithasol
- Rôl chwaraeon mewn cymdeithas
- Gwleidyddiaeth a chwaraeon
Mae’n amlwg bod chwaraeon yn effeithio ar hamdden, busnes ac adloniant. Mae gan chwaraeon y byd modern ran amlwg yn niwylliant Prydeinig cyfoes gan roi hwb i dwristiaeth, datblygu gwerthoedd craidd a chreu ymdeimlad o falchder cenedlaethol.
Gellir ystyried chwaraeon fel dangosydd ansawdd ein cymdeithas, ein hunaniaeth o fewn y gymdeithas honno neu, o bosibl, yn ddihangfa o gymdeithas a bywyd. Mae chwaraeon yn cynnig hunaniaeth genedlaethol, mae’n uno gwledydd ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol a gellir eu defnyddio’n sail i werthoedd a moesoldeb mewn cymdeithas. Mae chwaraeon hefyd yn gallu chwalu ffiniau cymdeithasol, stereoteipiau a rhagfarnau. Mae chwaraeon a gweithgareddau corfforol hefyd yn:
Cymdeithasoliad ydy’r ffordd y mae bodau dynol yn addasu i’w diwylliant (gwerthoedd, credoau, treftadaeth), y broses sy’n eu galluogi i fod yn aelodau gweithredol o gymdeithas. Mae chwaraeon ac addysg gorfforol mewn ysgolion yn gyfrwng pwysig i drosglwyddo gwerthoedd y gymdeithas ehangach.
Gydag addysg grefyddol yn rhan o’r cwricwlwm cenedlaethol ac yn ofyniad statudol, gall cymdeithas feithrin gwerthoedd addysg gorfforol a chwaraeon:
Mae chwaraeon yn gallu creu symudedd cymdeithasol a chodi sêr y byd chwaraeon i’r ‘Hollywood A list’. Mae masnacheiddio chwaraeon yn caniatáu y rhai sy’n cymryd rhan i gael eu prynu a’u gwerthu fel nwyddau, gyda ffigyrau o dros £100 miliwn y chwaraewr.
Ar lefel wleidyddol, mae chwaraeon wedi cael eu defnyddio i hyrwyddo ideolegau gwleidyddol; i hyrwyddo iechyd, pwrpasau economaidd – Y Gemau Olympaidd ac integreiddio cymdeithasol.
Caiff chwaraeon hefyd eu hystyried yn arf propoganda. Mewn rhai gwledydd, defnyddir chwaraeon i reoli cymdeithas, gan roi o’r neilltu’r gwir broblemau. Creu dinasyddiaeth, perthnasu gwleidyddiaeth y wlad i lwyddiant ar y maes chwarae. Tra bod llwyddiant mewn chwaraeon yn gallu cynnig cysylltiadau cyhoeddus da a chyfle tynnu lluniau gwerthfawr i wleidyddion, mae yna, yn aml, sgil effeithiau difrifol pan mae’r byd chwaraeon yn mynd ben ben â gwleidyddiaeth.
Tra bo’r athletwr yn tueddu i gystadlu am y gwobrau hanfodol sy’n ymwneud â chwaraeon, mae’n amlwg bod athletwyr a’r byd chwaraeon wedi bod yn rhan o sawl digwyddiad o broffil uchel lle mae gwleidyddiaeth wedi bod yn rhan amlwg ohonyn nhw.
Yng Ngemau Olympaidd 1936, bwriad Hitler oedd dangos i’r byd mai’r hil Aryan oedd y gorau; Profodd Jesse Owens e yn anghywir a sicrhaodd ei le yn oriel anfarwolion hanes y gemau Olympaidd trwy fod yr athletwr mwyaf llwyddiannus yng ngemau 1936. Owens hefyd oedd yr Americawr cyntaf i ennill pedair medal aur trac a maes mewn un Gemau Olympaidd (100m, 200m, râs gyfnewid 4x100m a’r naid hir). Gwrthododd Hitler gyflwyno’r medalau.
Yn ystod y cyfnod apartheid, gwrthododd llawer o athletwyr gystadlu yn Ne Affrica, lle roedd y dewis o athletwyr yn seiliedig ar eu ethnigrwydd ac nid eu gallu. Yna, yn rownd derfynol Cwpan Rygbi’r Byd yn 1995, ymaddangosodd Nelsomn Mandela mewn crys Sprinbok, y weithred honno’n helpu i uno cenedl.
Mentrodd Tommie Smith a John Carlos eu gyrfa fel athletwyr oherwydd eu ‘black power salute’yng Ngemau Olympaidd 1968 gan dynnu sylw’r byd i amser cythryblus dinasyddion duon UDA.
Mentrodd Muhammad Ali ei yrfa am iddo wrthod ymladd yn Vietnam ar sail ei gred gristionogol a chafodd ei wahardd o’r cylch bocsio am dair blynedd a hanner.
Mae llywodraethau’n hollol ymwybodol o gyfraniad economaidd chwaraeon, o gyflogaeth, cynhyrchu nwyddau, isadeiledd, datblygu cyfleusterau, twristiaeth i adloniant, y cyfryngau, masnacheiddio a nawdd, dyma ddiwydiant sy’n werth biliynau.
Nid yn unig y mae pwysau ffisiolegol a seicolegol ar sêr y byd chwaraeon, ond hefyd yn gymdeithasegol gyda phwysau o gyfeiriad llywodraethau a chymdeithas. Fel y mae cymdeithas yn esblygu ac yn dod yn llai treisiol, caiff hyn ei adlewyrchu yn ein diffyg goddefgarwch i drais. Mae gemau fel pêl-droed a rygbi wedi dod yn fwy technegol ac yn llai corfforol.
Mae chwaraeon yn cynnig cyfle i wrthdaro mewn modd di-drais ond pan mae tensiynau gwleidyddol mae ‘na berygl i ddigwyddiadau yn y stadiwm adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd yn yr arena wleidyddol.