Cynnwys
- Deall y cysylltiadau rhwng sgìl, gallu, dysgu a pherfformiad
- Cromliniau dysgu
- Dysgu wrth arsylwi
- Camau dysgu
- Trosglwyddo dysgu
Mae dysgu sgìl newydd a datblygu sgìl sydd eisoes yn ei le yn golygu bod gofyn i’r hyfforddwr a’r athletwr ddeall beth rydym yn gallu ei ddatblygu a’r ffordd orau o wneud hynny. Er mwyn gwella, mae angen adnabod sgiliau perfformiad a’r dulliau penodol i’w defnyddio.
Y cysylltiad rhwng sgìl a gallu yw po fwyaf ydy gallu’r unigolyn, yna hawsa’n byd iddo fo/iddi hi ddysgu sgiliau sy’n defnyddio’r gallu hwnnw, e.e. cymhwyso gallu ydy sgìl a chaiff sgiliau eu dysgu trwy ddefnyddio galluoedd sy’n bodoli eisoes.
Sgìl yw’r 'gallu a ddysgwyd i gyrraedd canlyniadau a gytunwyd ymlaen llaw gyda lefel uchel o bendantrwydd, yn aml gydag isafswm o draul ar amser neu egni neu’r ddau.' (Barbara Knapp 1977)
Mae gallu’n disgrifio priodoleddau corfforol sy’n effeithio ar ein potensial i ymgymryd a chwaraeon penodol. I raddau helaeth, mae galluoedd yn cael eu dylanwadu gan eneteg, h.y. maen nhw’n naturiol neu’n gynhenid. ‘ Mae sgiliau symud yn nodweddion cymharol barhaol , yn gyffredinol o ansawdd ac sy’n cynorthwyo person i gyflawni gweithred benodol’ (Fleishman)
Gallu symud corfforol | Sgiliau sy’n ddibynnol ar allu |
Cydsymud | Cicio pêl, olwyn dro. |
Amser ymateb | Dychwelyd serf mewn tenis, rhyng-gipiad mewn pêl-rwyd. |
Cydbwysedd | Sefyll ar y dwylo, glanio naid. |
Mae dysgu’n golygu’r newid parhaol mwy neu lai mewn ymddygiad a gaiff ei adlewyrchu mewn perfformiad (Knapp). Mae dysgu’n broses gydol oes – mae hyd yn oed perfformwyr chwaraeon elit yn honni eu bod yn dal i ddysgu am eu camp er mwyn gwella eu perfformiad. Bydd pob dysgwr yn teithio trwy’r camau dysgu gan gymryd eu bod yn cael y cyfle i ymarfer a derbyn adborth.
Perfformiad yw arddangosfa o ddatrys problem neu dasg yn ystod cyfnod o amser, h.y. ffenomen dros-dro ydyw. Rydym i gyd yn gallu meddwl am berfformwyr dawnus iawn sy’n meddu ar ddigonedd o allu sydd weithiau’n tangyflawni.
Y cyswllt rhwng dysgu a pherfformio – fel bo dysgu’n digwydd, rydym fel arfer yn gweld gwellhad graddol mewn perfformiad.
Cromliniau dysgu/perfformio – y graddau y gellir mesur dysgu mewn amrywiaeth o ffyrdd: Asesiadau gwrthrychol, e.e. profion
Gellir plotio’r gwelliannau hyn i gynhyrchu cromlin dysgu, fel ei bod yn bosibl, dros gyfnod o amser, i weld sut mae perfformiwr yn gwella. Mae yna amrywiaeth o siapiau i gromlinau dysgu gyda phob un yn rhoi gwybodaeth i ni am raddfa’r dysgu.
Mae graddfa’r gwella yn union gydnaws â nifer y sesiynau ymarfer – mae yma wella parhaus.
Mae’r siâp hwn yn dangos bod yr unigolyn wedi perfformio’n well yn y sesiynau cynnar nag a wnaeth yn y rhai mwyaf diweddar – mae’r raddfa gwella perfformiad yn arafu. Beth sydd i’w briodoli i hyn? Gall y perfformiwr fod wedi cyrraedd ei botensial, yn derbyn hyfforddiant gwael, syrffed ac ati.
Mae’r siâp yn dangos bod yr unigolyn wedi perfformio’n well yn y sesiynau hwyrach nag a wnaeth yn y rhai cynnar ac mae graddfa’r perfformiad yn cyflymu.
Mae hyn yn aml yn digwydd pan mae athletwr yn ceisio gwneud gormod ac yn gor-flino, gall fod yn brin ei gymhelliant, wedi cyrraedd ei botensial ac ati.
Gwnewch yn siwr y gallwch roi enghreifftiau ymarferol o alluoedd sy’n gysylltiedig â sgiliau – gweler y tabl uchod. Cofiwch bod sgìl, dysgu a pherfformiad yn cysylltu â chamau dysgu, adborth, math o ymarfer ac ati.
Yn ogystal â gallu dehongli cromlinau perfformio, rydych hefyd angen gallu awgrymu strategaethau i gynnal datblygiad perfformiad.
1. (a) Mae Ffigwr 1 yn gromlin perfformiad ar gyfer person sy’n dysgu sgìl newydd.
(i) Defnyddiwch Ffigwr 1 i’ch helpu i adnabod beth sy’n digwydd i berfformiad yr unigolyn yn A ac eglurwch y rhesymau posibl am y digwyddiad hwn. [3] (ii) Disgrifiwch strategaethau gwahanol y byddai hyfforddwr neu athro yn eu defnyddio i helpu perfformiwr oresgyn yr hyn sy’n digwydd yn A [3]
Dysgu arsylwadol ac arddangos – Mae damcaniaethwyr dysgu cymdeithasol yn credu ein bod yn dysgu wrth wylio pobl eraill. Caiff hyn ei adnabod fel dysgu arsylwadol. cyfeirir at y person a arsylwir fel ‘model’ a gelwir y broses yn fodelu. Mae athrawon a hyfforddwyr sy’n defnyddio’r theori hon yn defnyddio arddangos fel y prif arf dysgu. Arddangos yw rhoi modelu ar waith. Un broblem gyda dysgu arsylwadol yw nad ydy hyfforddwyr ac athrawon bob amser yn gallu rheoli’r hyn a arsylwir – mae bechgyn yn aml yn datblygu arferion drwg drwy fodelu eu hymddygiad ar bobl broffesiynol y byd chwaraeon, e.e. cwestiynu penderfyniadau dyfarnwyr oherwydd eu bod wedi gweld hyn yn digwydd ar y teledu. Mae Bandura (1977) yn awgrymu bod pedwar o brosesau mewn dysgu arsylwadol:
Prosesau talu sylw | Er mwyn gallu efelychu arddangosiad, rhaid i’r dysgwr dalu sylw iddo gan ddefnyddio talu sylw dewisol i adnabod y ciwiau perthnasol. Dylai’r athro/hyfforddwr dynnu sylw at y ciwiau perthnasol. |
Prosesau dwyn i gof | Dylai’r arsylwr gofio perfformiad y model. Dylai felly greu darlun yn y meddwl. Gellir gwella dwyn i gof drwy ailadrodd arddangosfeydd a pharatoi meddyliol. |
Ailadrodd y symudiad | Mae hyn yn cyfeirio at ymdrech y dysgwr i ailadrodd y sgil, h.y. copïo’r perfformiad. Dylai arddangosfeydd cydweddu â gallu’r dysgwr. Gellir gwella perfformiad y dysgwr trwy ymarfer a thrwy adborth cynhenid ac allanol. |
Prosesau cymelliannol | Mae dysgwyr yn tueddu dynwared yr hyn y mae ganddynt ddiddordeb ynddo, felly mae hyn yn perthnasu i pam y byddai dysgwr yn copïo perfformiad y model. Gall statws y model effeithio ar y dynwared (dyna pam y caiff ymddygiad pêl-droedwyr amlwg eu dynwared cymaint!) Bydd cadarnhad allanol o’r model yn cynyddu’r cymhelliant i’w ddynwared. |
Camau dysgu – Mae Fitts and Posner (1967) yn disgrifio 3 cyfnod o ddysgu
Mae hyn yn cyfeirio at yr effaith y mae dysgu un dasg yn ei gael ar un arall. Mae’n bwysig nodi nad ydy pob trosglwyddiad o’r fath yn cyfoethogi dysgu. Mae trosglwyddiad yn gysyniad cymhleth ac yn digwydd ar sawl ffurf:
Trosglwyddo cadarnhaol – mae hyn yn digwydd pan mae dysgu blaenorol yn hyrwyddo dysgu’r presennol, e.e. efallai bod trosglwyddiad cadarnhaol o daflu pêl i weithredu cliriad drosben mewn badminton.
Trosglwyddo negyddol – mae hyn yn digwydd pan mae dysgu blaenorol yn cael effaith lesteiriol ar ddysgu tasg newydd, e.e. gall trosglwyddo negyddol ddigwydd i chwaraewr pêl-fasged profiadol wrth iddo ddechrau chwarae pêl rwyd gan y byddai posibilrwydd i’r chwaraewr daflu’r bêl yn rhy bell oherwydd y gwahaniaeth yn ei phwysau.
Trosglwyddo sero – yn yr achos hwn, nid oes gan ddysgu blaenorol unrhyw effaith ar y dysgu presennol, e.e. ni fyddai sgiliau a ddysgwyd mewn pêl-droed yn cael unrhyw effaith wrth i rhywun ddysgu nofio.
Trosglwyddo dwyochrol – dyma’r trosglwyddo rhwng aelodau’r corff – coesau a breichiau.
Trosglwyddo rhagweithiol – yr effaith a gaiff un sgìl ar un sydd eto heb ei dysgu – gall hyn fod yn gadarnhaol, negyddol neu’n sero.
Trosglwyddo ôl-weithredol – yr effaith a gaiff dysgu un sgìl ar un a ddysgwyd yn flaenorol, yma eto gall yr effaith fod yn gadarnhaol, negyddol neu’n sero.
Mae cyswllt agos rhwng camau dysgu a phrosesu gwybodaeth – daw prosesu’n llawer mwy effeithlon wrth i chi symud trwy’r cyfnodau dysgu.
1. Gan ddefnyddio enghreifftiau, eglurwch sut y mae trosglwyddo dysgu wedi effeithio ar eich performiad mewn chwaraeon. (3)