Dydodiad chwaraeon modern: amaturiaeth ac Olympiaeth

Cyflwyniad

Mae ethos amaturaidd y Gemau Olympaidd, yn sgil pwysau mewnol ac allanol, yn raddol wedi’i erydu dros gyfnod o amser. Gyda datblygiad masnacheiddio, mae wedi bod yn her i wir gofleidio’r ethos amatur.

Cynnwys

  • Gwreiddiau’r Gemau Olympaidd modern
  • Materion o ‘ffug amaturiaeth’
  • Proffesiynoldeb a moeseg ‘Lombardaidd’

Gwreiddiau’r Gemau Olympaidd modern

Pierre de Coubertin ydy sylfaenydd Pwyllgor Rhyngwladol y Gemau Olympaidd. Daeth i loegr o Ffrainc i ymweld â gemau olympaidd Much Wenlock a gemau’r Cotswolds ar ddiwedd y 19eg ganrif. Ymwelodd hefyd ag ysgolion bonedd yn Lloegr gan ei fod wedi’i gyfareddu gan ddisgyblaeth y gweithgareddau chwaraeon a’u gwerthoedd chwarae teg. Wedi’u seilio ar yr hen gemau hyn a’u gwerthoedd, cynhaliwyd y Gemau Olympaidd modern cyntaf yn Athen (cartref y Gemau Olympaidd gwreiddiol) yn 1894.

Egwyddorion ac athroniaeth y gemau:

  • Citius, Altius, Fortius – Cyflymach, Uwch, Cryfach
  • Chware teg
  • Amaturiaeth
  • Cyfeillgarwch/Undod
  • Addysg

"Nid ennill ond cymryd rhan ydy’r peth pwysicaf yn y Gemau Olympaidd; y peth hanfodol mewn bywyd ydy nid goresgyn ond ymladd yn dda."
Coubertin

Un rheol bendant a oedd yn tra arglwyddiaethu yn y Gemau Olympaidd oedd hawl athletwyr amatur i gymryd rhan. Nid oedd hawl i athletwyr proffesiynol.

Dyna wnaeth y Gemau Olympaidd yn Gemau Olympaidd.

Yn 1912, collodd Jim Thorpe, UDA ei fedalau aur a dilysrwydd ei gyflawniadau gan ei fod unwaith wedi derbyn arian am chwarae pêl-fas lled-broffesiynol yn ystod yr haf pan oedd yn y coleg. Dilyswyd y medalau yn 1983 – 30 mlynedd yn dilyn ei farwolaeth.

Efallai ei bod yn anodd dychmygu, ond tan yn lled ddiweddar, ystyriwyd yr holl nawdd, hysbysebu a’r marchnata sy’n rhan annatod o’r Gemau Olympaidd cyfoes yn sen ar ysbryd y gemau. Roedd y Gemau Olympaidd i fod ynghylch cariad am chwaraeon ac nid cariad am arian. Roedd y côd amatur yn un na ellid ei newid ac roedd yn ymladd yn erbyn sylw ar y teledu.

Ffug Amaturiaeth

Erbyn dechrau’r 1970au, roedd dymuniad i weld perfformwyr gorau’r Byd ac roedd y perfformwyr hyn angen hyfforddi’n llawn amser. Cyflwynodd UDA system ysgoloriaeth mewn prifysgolion a oedd yn goresgyn y pwysau hyn a darparodd Yr Undeb Sofietaidd a Rwsia, gwledydd y bloc comiwnyddol gynt, ariannu gwladwriaethol i chwaraeon (Ffug amaturiaeth). Felly, yn dilyn Gemau Olympaidd Moscow yn 1980, cynyddodd y momentwm i gyfeiriad proffesiynoldeb.

Erbyn 1992, yn Barcelona, caniatawyd tîm pêl-fasged America i gystadlu gan ennill pob gêm gyda chyfataledd o 44 pwynt bob tro. Roedd effaith hyn yn sylweddol; arddangos y NBA a hefyd yn dwyn sylw gwledydd eraill, noddwyr a’r rhai â diddordeb masnachol i botensial marchnata chwaraeon byd-eang.

Proffesiynoldeb a ‘moeseg Lombardaidd’

Mae ardderchogrwydd mewn chwaraeon wedi dod yn elfen fasnachol yn ei hun. America ydy’r ceffyl blaen yn y maes hwn ac mae wedi arwain at y defnydd o’r term Americaneiddio (masnacheiddio).

Honnir bod y System Colegau Americanaidd gyda’i ysgoloriaethau chwaraeon yn ffurf gynnar o broffesiynoldeb. Roedd poblogaeth chwaraeon enfawr UDA trwy gyfrwng rhwydwaith deledu eang yn golygu bod chwaraeon proffesiynol wedi’u geni i amgylchfyd ddelfrydol.

Datblygodd hyn agwedd anghyffredin at ennill. Priodolir yr agwedd amhobloagidd hon i Vince Lombardi, hyfforddwr Pêl droed Americanaidd yn y 1950au. Ond fe dyfodd, a thrwy gyfrwng cysylltiadau modern, y mae wedi datblygu ar hyd a lled y Byd, yn cynnwys Ewrop.

Roedd agwedd Vince Lombardi at ennill yn ddidostur ac, ar y pryd, yn ddadleuol.

Cyfeirir at yr agwedd ‘ennill doed a ddêl’ yn aml fel y pwynt pryd yr oedd dirywiad mewn chwarae teg. Roedd hyn yn groes i’r ethig amatur blaenorol o ‘nid ennill ond y cymryd rhan’.

Gwiriad cyflym

  • Datblygwyd y Gemau Olympaidd o ethos yr ysgolion bonedd o gystadlu teg a oedd yn hollol amatur.
  • Y system golegol Americanaidd a’r rhaglen a ariannwyd gan wladwriaeth Rwsia a greodd y stâd o ‘ffug amaturiaeth’
  • Daeth dyfodiad masnacheiddio a sylw ar y teledu (globaleiddio) â newid a phroffesiynoldeb.
  • cyfnewidiwyd yr ethig Olympaidd o ‘nid yr ennill ond y cymryd rhan’ gan yr un Lombardaidd o ‘ennill doed a ddêl’.