Gofynion sylfaenol
Dyma'r gofynion sylfaenol y bydd arholwr yn disgwyl eu gweld yn eich dyluniad set.
Mae'r rhain yn berthnasol i:
Dylunio set (gan gynnwys propiau) - Rhaid i ddysgwyr gynhyrchu dyluniad set gan gynnwys cynlluniau llawr perthnasol wedi'u llunio yn ôl graddfa, gan ddangos o uchod gynllun cyffredinol pob set, a/neu ddyluniad 3D o fodel digidol wrth raddfa, gan gynnwys:
- lleoli'r dodrefn a phropiau mwy o faint
- brasfodel perthnasol o'r set ar gyfer y perfformiad gan gynnwys cynrychioliadau priodol o lefelau, dodrefn, propiau cymhleth
- propiau gweithredol ar gyfer y perfformiad
- defnyddio elfennau set e.e. lefelau, darnau fflat o'r set, safle'r gynulleidfa, dyluniad y gofod cyfan, defnyddio gwead, lliw, siâp.
Mae'r rhain yn berthnasol i:
- set wedi'i chreu ar gyfer perfformiad gan un grŵp
- set wedi'i haddurno'n briodol
- propiau ar gyfer perfformiad y grŵp a ddewiswyd