Dylunydd Set

Llyfr Nodiadau ar y broses a Viva

Bydd angen i bob ymgeisydd gadw cofnod o'r broses. Bydd y cynnwys yn benodol o ran sgiliau.

Awgrymir y dylid cadw manylion y broses mewn ffolder cyflawn y gellir dewis deunydd ohoni wedyn ar gyfer cyflwyniadau mwy penodol fel:

  • Cofnodion Creadigol
  • Gwerthusiadau

Gall y cynnwys fod:

Yn gyffredin i BOB ymgeisydd dylunio ac actio:

  • ymchwil ar ffurf nodiadau
  • diagramau
  • ffotograffau
  • brasluniau
  • siartiau
  • delweddau gweledol
  • cyfryngau digidol, gan gynnwys recordiadau byr o adrannau o ymarfer neu ddeunydd sy'n briodol i'r maes sgiliau, e.e. clipiau sain. Ni ddylai'r rhain fod yn hwy na munud.

Yn benodol i DDYLUNIO SET:

  • tystiolaeth o ymchwilio i lefelau gwahanol
  • dodrefn
  • propiau - rhai mawr ar y set a phropiau ymarferol llai
  • lluniau o ddatblygiad model set
  • deunyddiau gwahanol a ddefnyddir e.e. pren, metel, ffabrigau
  • samplau o liwiau e.e. paent
  • gwybodaeth adeiladu

Viva

Dylai ymgeiswyr ddylunio, paratoi a gallu siarad am y canlynol:

Ymateb ar gyfer dewis o ysgogiadau gan gynnwys:

  • Ymatebion cychwynnol
  • Ysbrydoliaethau
  • Sut y gwnaeth yr ysgogiadau neu'r ARDDULL/ YMARFERYDD neu GWMNI THEATR a ddewiswyd sbarduno'r broses ddylunio

Trafod y TESTUN a'r dewis o ARDDULL/ YMARFERYDD neu GWMNI THEATR gan gynnwys:

  • Elfennau allweddol yr arddull a ddewiswyd
  • Cymhwyso at sgil dylunio e.e. sut y gellir cymhwyso'r arddull at y set, y goleuo, y sain neu'r gwisgoedd
  • Gwaith grŵp a chyfraniadau'r dylunydd
  • Datblygiad yn ystod ymarferion

Trafod yr hyn a DDYFEISIWYD a'r ARDDULL/ YMARFERYDD neu GWMNI THEATR a ddewiswyd gan gynnwys:

  • Elfennau allweddol yr arddull/ ymarferydd/ cwmni a ddewiswyd
  • Cymhwyso at sgil dylunio e.e. sut y gellir cymhwyso'r arddull/ ymarferydd/ cwmni at y set neu'r goleuo neu'r sain neu'r gwisgoedd
  • Gwaith grŵp a chyfraniadau'r dylunydd
  • Datblygiad yn ystod ymarferion

Elfennau dylunio penodol gan gynnwys, er enghraifft:

SET

  • Anghenion y ddau ddarn
  • Defnydd o ofod a chyfluniad y llwyfan
  • Deunyddiau a ddefnyddir, y dewis o liw ac ati
  • Dodrefn ac elfennau'r set e.e. darnau fflat o'r set, lefelau
  • Propiau
  • Dylanwadau ar arddull, ymarferydd/cwmni

Y broses ddylunio gan gynnwys:

  • Addasu syniadau
  • Sut y gwnaeth y dyluniadau dyfu/ datblygu drwy'r broses ymarfer

Cysylltiadau clir rhwng
DYLUNIO
ac ARDDULL neu YMARFERYDD/ CWMNI
a SBARDUNAU

Asesir ansawdd y sgil dylunio yn ystod y perfformiad. Yn y viva, gallwch hefyd ddangos:

SET

  • Model o set;
  • Sylw manwl gywir i raddfa;
  • Pob elfen yn bresennol yn y model gan gynnwys dodrefn - ni all ymgeiswyr gyflwyno bocs du yn unig;
  • Ymwybyddiaeth o safle'r gynulleidfa;
  • Ymwybyddiaeth o'r gydberthynas â'r gynulleidfa;
  • Ffolder o'r dyluniad/gwaith cysyniadol - gallai hyn fod ar ffurf papur NEU electronig h.y. dyluniadau a gyflawnir drwy becyn dylunio e.e. CAD;
  • Tystiolaeth o'r broses e.e. samplau, samplau lliw, ymchwil;
  • Tystiolaeth o gydweithio â'r actorion e.e. nodiadau ymarfer, nodiadau cyfarfod cynhyrchu.

POB UN yn berthnasol i'r dewis ymarferydd/ cwmni neu arddull ar gyfer pob darn.