Dylunydd Set

Archwiliad manwl

Dylunio Set: Archwiliad manwl o'r rôl

Dylai set theatr:

  • ddarparu'r lleoliad ar gyfer yr hyn sy'n digwydd
  • awgrymu arddull a chywair y cynhyrchiad cyfan
  • creu naws ac awyrgylch
  • rhoi cliwiau o ran yr adeg benodol y mae rhywbeth yn digwydd a ble mae'n digwydd
  • cynnig posibiliadau creadigol ar gyfer y ffordd y mae'r actorion yn symud ac yn dod at ei gilydd mewn grŵp

Gelwir popeth arall sy'n ymddangos ar y llwyfan heblaw am y set yn nodweddion llwyfan, neu bropiau. Propiau set fel dodrefn, llenni ac addurniadau yw'r math o bethau sy'n cwblhau'r set ac mae angen iddynt fod yn rhan o'r dyluniad set.

Bydd y dylunydd set fel arfer yn darllen y sgript sawl gwaith, er mwyn ymdeimlo â naws ac ysbryd y sgript ac er mwyn rhestru gofynion penodol ar gyfer y set, yr eitemau dodrefnu a'r propiau. Nodir yr adeg o'r dydd, y lleoliad, y tymor, y cyfnod hanesyddol ac unrhyw newidiadau i'r set y mae'r sgript yn galw amdanynt. Bydd y dylunydd set yn canolbwyntio ar ddadansoddi popeth y gall fod ei angen yn seiliedig ar y ddeialog yn y sgript. Bydd cyfarwyddiadau llwyfan yn eich helpu i ganolbwyntio ar syniadau ond gellir eu hanwybyddu ar y cam hwn yn y broses.

Adnoddau'r Dylunydd Set

Mae dylunwyr set yn defnyddio sawl adnodd i gyfleu eu syniadau i'r cyfarwyddwr a'r dylunwyr eraill. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • braslun cychwynnol o'r set
  • cynlluniau llawr wedi'u llunio yn ôl graddfa yn dangos o uchod gynllun cyffredinol pob set a lleoliad y dodrefn a'r propiau mawr
  • golygon blaen yn rhoi golygfa o elfennau'r set o'r blaen ac yn dangos manylion fel ffenestri neu lwyfannau
  • model tri dimensiwn wrth raddfa yn dangos sut y bydd pob set yn edrych pan fydd wedi'i gorffen.

Mae'r cymhorthion gweledol hyn yn helpu i sicrhau bod pawb sy'n gysylltiedig â'r cynhyrchiad yn deall ei gilydd.

Pan fydd y sioe yn agor, bydd gwaith y dylunydd yn y bôn wedi dod i ben.

Rhai cyfeiriadau ar-lein:

Scenic Design 101: How to Create a Scale Model

Working In The Theatre: Scenic Design

Awgrym Defnyddiol

Peidiwch ag anghofio y bydd ymarferydd/ cwmni theatr neu arddull benodol yn dylanwadu ar eich dyluniad. Felly wrth ddarllen ac ymchwilio i'r sgript, meddyliwch sut y gellir cymhwyso confensiynau penodol eich dewis ymarferydd/ cwmni theatr neu arddull yn effeithiol.

Ar gyfer darnau a ddyfeisir neu a ail-ddehonglir sicrhewch eich bod yn gwneud y confensiynau a'r technegau hyn yn rhan ganolog o'ch gwaith.

COFIWCH AM HYN O DDECHRAU EICH PROSES DDYLUNIO.

Awgrym Defnyddiol

Y raddfa a ddefnyddir fel arfer ar gyfer gwaith dylunio mewn theatrau yn y DU yw:

1:24 – sy'n golygu bod chwarter modfedd yn hafal i un droedfedd NEU

1:25 (metric) – which means that 25mm equals 1metre