Dylunydd Gwisgoedd

Llyfr Nodiadau ar y broses a Viva

Bydd angen i bob ymgeisydd gadw cofnod o'r broses. Bydd y cynnwys yn benodol o ran sgiliau.

Awgrymir y dylid cadw manylion y broses mewn ffolder cyflawn y gellir dewis deunydd ohono wedyn ar gyfer cyflwyniadau mwy penodol fel:

  • Cofnodion Creadigol
  • Gwerthusiadau

Gall y cynnwys gynnwys:

Yn gyffredin i BOB ymgeisydd dylunio ac actio:

  • ymchwil ar ffurf nodiadau
  • diagramau
  • ffotograffau
  • brasluniau
  • siartiau
  • delweddau gweledol
  • cyfryngau digidol, gan gynnwys recordiadau byr o adrannau o ymarfer neu ddeunydd sy'n briodol i'r maes sgiliau e.e. clipiau sain. Ni ddylai'r rhain fod yn hwy na munud.

Yn benodol i DDYLUNIO GWISGOEDD:

  • tystiolaeth o ymchwilio i gysyniadau dylunio gwahanol
  • ffabrig a deunyddiau eraill e.e. plastig, sbwng, weiren
  • samplau o ffabrig a deunyddiau eraill e.e. plu, secwinau, rhubanau
  • unrhyw driniaethau ar gyfer y wisg/gwisgoedd e.e. heneiddio neu dreulio gwisg
  • nodiadau creu/cyrchu
  • lluniau o ddatblygiad gwisg(oedd)
  • dyluniadau colur, lluniau, ymarferion ac ati
  • fideo o'r wisg/gwisgoedd yn y perfformiad, ymarfer

Viva

Dylai ymgeiswyr ddylunio, paratoi a gallu siarad am y canlynol:

Ymateb ar gyfer dewis o sbardunau a/neu ARDDULL/YMARFERYDD neu GWMNI THEATR gan gynnwys:

  • Ymatebion cychwynnol
  • Ysbrydoliaethau
  • Sut y gwnaeth yr ysgogiadau sbarduno'r broses ddylunio

Trafod y TESTUN a'r dewis o ARDDULL / YMARFERYDD neu GWMNI THEATR gan gynnwys:

  • Elfennau allweddol yr arddull/ ymarferydd/ cwmni a ddewiswyd
  • Cymhwyso at sgil dylunio e.e. sut y gellir cymhwyso'r arddull/ ymarferydd/ cwmni theatr at y set, y goleuo, y sain neu'r gwisgoedd
  • Gwaith grŵp a chyfraniadau'r dylunydd
  • Datblygiad yn ystod ymarferion

Trafod yr hyn a DDYFEISIWYD a'r ARDDULL/ YMARFERYDD neu GWMNI THEATR a ddewiswyd gan gynnwys:

  • Elfennau allweddol yr arddull/ ymarferydd/ cwmni a ddewiswyd
  • Cymhwyso at sgil dylunio e.e. sut y gellir cymhwyso technegau'r arddull/ymarferydd/cwmni at y set neu'r goleuo neu'r sain neu'r wisg
  • Gwaith grŵp a chyfraniadau'r dylunydd
  • Datblygiad yn ystod ymarferion

Elfennau dylunio penodol gan gynnwys, er enghraifft:

GWISGOEDD

  • Anghenion y ddau ddarn
  • Defnydd o ddeunyddiau, ffabrigau
  • Defnydd o liw, gwead
  • Dylunio gwallt a cholur
  • Dylanwadau ar arddull, ymarferydd/cwmni

Y broses ddylunio gan gynnwys:

  • Addasu syniadau
  • Sut y tyfodd/datblygodd y dyluniadau drwy gydol y broses ymarfer

Cysylltiadau clir rhwng
DYLUNIO
ac ARDDULL neu YMARFERYDD/CWMNI
a SBARDUNAU

Asesir ansawdd y sgil dylunio yn ystod y perfformiad. Yn y viva, gall dysgwyr hefyd ddangos:

Gwisgoedd

  • Y wisg orffenedig - o bosibl ar yr actor?
  • Ffolder o'r dyluniad/gwaith cysyniadol - gallai hyn fod ar ffurf papur NEU electronig h.y. dyluniadau a gyflawnir drwy becyn dylunio;
  • Awgrymiadau dylunio ar gyfer POB cymeriad yn yr olygfa;
  • Cysyniadau dylunoi ar bapur gan gynnwys e.e.
    • tystiolaeth ffotograffig;
    • rhestr o gymeriadau
    • disgrifiadau o gymeriadau ac ati
  • Sgript wedi'i hanodi;
  • Tystiolaeth o'r broses e.e. samplau o ffabrig, brasfodelau, patrymau a ddefnyddiwyd, ffotograffau o'r camau creu gwahanol;
  • Tystiolaeth o gydweithio â'r actorion e.e. nodiadau ymarfer, nodiadau cyfarfod cynhyrchu;
  • Cyflwyniad effeithiol o samplau o wisgoedd/colur gan gynnwys, os yw'n bosibl, arddangos sut y cânt eu cymhwyso?

POB UN yn berthnasol i'r dewis ymarferydd/ cwmni neu arddull ar gyfer pob darn.