Dylunydd Gwisgoedd

Dylunio'r Gwisgoedd Manwl

Yn dibynnu ar eu harddull a'u cymhlethdod, gellir gwneud gwisgoedd, eu prynu, eu hailwampio o stoc bresennol neu eu rhentu.

Mae'r siapiau, y lliwiau a'r gweadau y bydd dylunydd gwisgoedd yn eu dewis yn creu argraff weledol uniongyrchol a phwerus ar y gynulleidfa. Mae cydweithio creadigol rhwng y dylunydd gwisgoedd, y cyfarwyddwr, dylunydd y set a'r dylunydd goleuo yn sicrhau bod y gwisgoedd yn dod yn rhan o'r cynhyrchiad cyfan.

Gall gwisgoedd llwyfan roi gwybodaeth i'r gynulleidfa am alwedigaeth cymeriad, ei statws cymdeithasol, rhyw, oedran, steil a thueddiadau tuag at gydymffurfiaeth neu unigoliaeth.

Gall gwisgoedd hefyd:

  • atgyfnerthu naws ac arddull y cynhyrchiad
  • gwahaniaethu rhwng prif gymeriadau a chymeriadau â rhannau bach
  • awgrymu cydberthnasau rhwng cymeriadau
  • newid ymddangosiad actor
  • awgrymu newidiadau yn natblygiad ac oedran cymeriad
  • bod yn eitemau hardd yn eu rhinwedd eu hunain.

Bydd angen i ddyluniadau gwisgoedd hefyd gynnwys ategolion fel ffyn, hetiau, menig, esgidiau, gemwaith neu fygydau. Mae'r propiau gwisgoedd hyn yn ychwanegu llawer o ddiddordeb gweledol at ddyluniad cyffredinol y gwisgoedd. Yn aml, dyma'r eitemau sydd wir yn gwahaniaethu un cymeriad oddi wrth y llall.

Gwaith y dylunydd

Bydd dylunwyr gwisgoedd yn dechrau eu gwaith drwy ddarllen y sgript. Os yw'r cynhyrchiad wedi ei osod mewn cyfnod hanesyddol penodol, bydd angen ymchwilio i ffasiwn y cyfnod hwn. Er mwyn ysgogi syniadau yn y cyfarfod cyntaf â'r cyfarwyddwr a'r tîm dylunio (dylunwyr set, gwisgoedd, goleuo a sain), efallai y bydd y dylunydd gwisgoedd am gyflwyno rhai brasluniau o wisgoedd. Mae hon yn adeg briodol hefyd i gadarnhau gyda'r cyfarwyddwr yn union faint o gymeriadau sydd angen gwisgoedd, oherwydd efallai na fydd cymeriadau nad ydynt yn siarad, y mae'r cyfarwyddwr yn bwriadu eu cynnwys, wedi eu rhestru yn y sgript.

Mae'r plot gwisgoedd yn rhestr neu'n siart sy'n dangos pa gymeriadau sy'n ymddangos ym mhob golygfa, beth maent yn ei wisgo a'u symudiad cyffredinol drwy gydol y ddrama. Mae hyn yn helpu i dracio anghenion penodol pob cymeriad o ran gwisgoedd. Gall hefyd nodi unrhyw heriau posibl o ran gwisgoedd, megis gorfod newid yn gyflym rhwng golygfeydd.

Pan fydd y cyfarwyddwr a'r tîm cynhyrchu wedi cymeradwyo brasluniau rhagarweiniol y dylunydd gwisgoedd, gall ef neu hi greu'r dyluniadau gwisgoedd terfynol. Gwneir y dyluniadau terfynol mewn lliw llawn. Maent yn dangos arddull, silwét, gweadau, ategolion a nodweddion unigryw pob gwisg.

Pan fydd y sioe yn agor, bydd gwaith y dylunydd yn y bôn wedi dod i ben. Fel arfer, gwaith cynorthwyydd gwisgoedd yw sicrhau bod pob agwedd ar y cynhyrchiad yn mynd rhagddi yn ôl bwriad y dylunydd, dro ar ôl tro, nes bod y cynhyrchiad yn cau.

Awgrym Defnyddiol:

Peidiwch ag anghofio y bydd ymarferydd/ cwmni theatr neu arddull benodol yn dylanwadu ar eich dyluniad. Felly wrth ddarllen ac ymchwilio i'r sgript, meddyliwch sut y gellir cymhwyso confensiynau penodol eich dewis ymarferydd /cwmni theatr neu arddull yn effeithiol.

Ar gyfer darnau a ddyfeisir neu a ail-ddehonglir sicrhewch eich bod yn gwneud y confensiynau a'r technegau hyn yn rhan ganolog o'ch gwaith.

COFIWCH AM HYN O DDECHRAU EICH PROSES DDYLUNIO.