Un mater sylfaenol i’w egluro yw beth yn union yw ystyr y gair ‘dadansoddi’. Ar lefel A/AS mae disgwyl i ni ddadansoddi damcaniaethau moesegol – sy’n ymhlygu y gallwn ni esbonio sut y mae’r ddamcaniaeth yn symud o dybiaethau a byd-olwg i gasgliad ynghylch beth mae’n ei olygu pan ddywedir ‘mae X yn dda’ ac ‘mae gweithred Y yn ddrwg’.
Meddyliwch am gynifer o ferfenwau ag y gallwch a allai berthyn i’r gair ‘dadansoddi’ (os cewch chi anhawster meddwl am eiriau, rhowch gynnig ar y Thesawrws Cymraeg)
Dyfeisiwch gwestiynau yn seiliedig ar adran Iwtilitariaeth y maes llafur gan ddefnyddio un o’r berfau.
Enghreifftiau:
Esobniwch sut oedd ffurf Iwlitariaeth Mill yn wahanol i ffurf Bentham.
Archwiliwch y rhesymeg y tu ôl i iwtilitariaeth reol Mill.
Dewiswch un o’ch gosodiadau o’r gweithgaredd blaenorol ac ysgrifennwch baragraff agoriadol ateb posibl.
Awgrym: gall fod o gymorth llunio taflen grynodeb ar yr agwedd o foeseg iwtilitaraidd rydych chi am ganolbwyntio arni. Yn y daflen grynodeb dechreuwch gyda geirfa dechnegol, wedyn syniadau allweddol, wedyn cysylltiadau pwysig, ac wedyn y casgliad y daw’r ddamcaniaeth iddo. Cofiwch fod cwestiynau sylfaenol moeseg yn ddeublyg: 1. Sut mae’r ddamcaniaeth hon yn rhoi’r syniad o ddaioni? a 2. Sut mae’r ddamcaniaeth yn cymhwyso’r syniad o ddaioni a ddeilliodd ohoni?