Dadl | Tystiolaeth | Goblygiad |
---|---|---|
Mae’n bosibl cadw hunaniaeth Iddewig heb fyw yn ôl y mitzvot. | Nid yw Iddewon Diwygiedig yn ystyried eu bod yn torri unrhyw gyfreithiau pan fyddant yn penderfynu peidio â dilyn yr holl mitzvot. | Er bod y cyfamod wedi ei sefydlu yn yr hen amser, mae’r deddfau dal yn berthnasol ac yn cael eu trafod yn gyson a’u hail-ddehongli er mwyn sicrhau eu bod yn berthnasol ar gyfer bywyd modern. |
Mewn gwirionedd, dim ond pan oedd cenedl Israel yn cael ei sefydlu yn yr anialwch yr oedd gan y cyfamod werth cyfreithiol | Roedd yn bwysig ar y pryd bod strwythur moesegol a moesol gadarn ble byddai modd sefydlu cymuned newydd
|
Ni all yr heddlu eich arestio a'ch cyhuddo o dor-cyfraith Duw yn ein cymdeithas o ganlyniad nid ydynt o werth cyfreithiol.
|
Mae’r cyfamod a wnaed gyda Moses yn gyfamod tragwyddol, ac felly dal â gwerth cyfreithiol gan fod gan y ddau barti gyfrifoldeb i gadw telerau’r cytundeb. |
Y rheolau crefyddol yn unig yw'r rhai sy'n cael ei gweld ar ôl y roes ond mae rhain yn nodweddiadol ac yn symbolaidd o'r cyfamod. Mae cadw at y rheolau yn arwydd o ddisgyblaeth ac yn golygu y gall droi gweithredoedd pob dydd o fywyd dyddiol yn gyfleoedd ar gyfer addoli Duw.
|
Nid yw cytundeb y cyfamod yn newid ac i ddiystyru agweddau ohono gan nad ydynt yn gweddu i un plaid sydd mewn ffordd yn torri'r cytundeb.
|
Mae perygl y gall canolbwyntio ar ddilyn y rheolau olygu colli cyfleoedd ar gyfer datblygiad ysbrydol. |
Gall arwain at gael eich ynysu oddi wrth cymdeithas a chreu agwedd blwyfol at fywyd a pherthnasau gydag eraill.
|
Gall credoau ac ymarferion crefyddol lonyddu, colli ystyr a methu ac ymdopi a bywyd modern. Gall yna wrthdaro fod rhwng rheolau crefyddol a chyfraith seciwlar.
|