Nid yw syniadau am nefoedd ac uffern, atgyfodiad y corff ac anfarwoldeb yr ysbryd wedi bod mewn gwirionedd yn ganolbwynt ar gyfer ystyriaeth ddifrifol mewn Iddewiaeth ac mae amrywiaeth o safbwyntiau. | Gall y cysyniad o farn a’r byd ôl-fywyd gael ei ddarganfod yn yr Ysgrythurau Hebraeg.
|
Mae hyn yn golygu nad oes cytundeb derbyniol ymysg gwahanol grwpiau o fewn Iddewiaeth, ac felly mae amrywiaeth eang o safbwyntiau ymysg Iddewon heddiw am yr hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd ar ôl marwolaeth. | Yn Eseia 26 ac Eseciel 37 mae atgyfodiad yn rhan o’r gobaith ar gyfer y genedl gyfan; bydd yn digwydd i holl bobl Dduw ar yr un pryd.
|
Yn gyffredinol, mae Iddewon yn credu ei bod yn llawer pwysicach i ganolbwyntio ar yr hyn sy’n digwydd yn ystod eich bywyd yn hytrach na bod yn bryderus am yr hyn a allai ddigwydd yn y bywyd wedi marwolaeth. Mae’r rhan fwyaf o Iddewon yn fodlon i adael manylion ôl-bywyd i Dduw. |
Gall Daniel 12 gael ei ddehongli yn nhermau atgyfodiad ysbrydol. Mae llyfr Daniel yn rhagweld Dydd y Farn pan fydd y meirw’n atgyfodi, a bydd Duw yn barnu pob enaid a phenderfynu ble bydd pob un yn treulio tragwyddoldeb.
|
Ychydig iawn sydd i’w weld yn y Torah yn ymwneud â beth mae Iddewon mewn gwirionedd yn ei gredu sy’n digwydd ar ôl i berson farw. |
Efallai mai Hosea 6 yw’r datganiad cynharaf o gred mewn atgyfodiad corfforol.
|
Yn gyffredinol, roedd Israeliaid hynafol yn credu mewn atgyfodiad corfforol, ond nid oeddent yn cytuno p’un a fyddai’r corff sy’n atgyfodi fel yr hen gorff neu’n wahanol mewn rhyw ffordd. |
Mae’r Torah yn cyflwyno Iddewon gyda’r syniad o Dduw sy’n cosbi’r drwg ac yn gwobrwyo’r da yn ôl y ffordd mae pob un wedi ymateb i’r gorchmynion a roddwyd i Moses. Mae gan hyn oblygiadau yn y bywyd hwn i gred yn y byd ôl-fywyd.
|
Mae cred Iddewig yn amrywio o Sadwceaid, sy’n gwadu’r atgyfodiad, at y Phariseaid, sy’n mynnu arno, i gred Platonig Phil o Alexandria yn anfarwoldeb anghorfforol yr enaid. |
Mae rhai o’r rhai oedd yn credu yn y byd ôl-fywyd hefyd yn cysylltu hyn i ddyfodiad y Meseia, a fyddai’n trechu gelynion Duw ac yn sefydlu llywodraeth Duw.
|