wjec eduqas

Canfod ateb mewn arddull gwerthusol

Darllenwch y ddau ymateb i’r cwestiwn ‘A yw’r syniad o gyfamod mewn Iddewiaeth yn gyffredinol?’

Trafodwch pam nad yw ymateb A yn ateb gwerthusol tra bod ymateb B yn ateb gwerthusol.

Ymateb A

Mae rhai yn dadlau bod y cyfamod mewn Iddewiaeth yn ystyr cyffredinol y gall unrhyw un fod yn rhan ohono.

Yn Genesis gwnaeth Duw gyfamod rhwng Adda ac Efa pan gawsant eu creu ond ni wnaethant yr hyn a ddywedodd wrthynt. Hefyd achubwyd Noa gyda’i deulu o’r llifogydd.

Mae eraill yn dweud nad yw’r cyfamod mewn Iddewiaeth yn rhywbeth cyffredinol. Galwodd Duw ar Abraham ac fe wnaeth Duw addo llawer o ddisgynyddion iddo. Rhoddwyd arwydd yr enwaediad iddynt fel symbol o gytundeb y cyfamod hwn. Hefyd roedd Abraham mor agos at Dduw nes bod Duw wedi gofyn iddo aberthu ei fab.

I gloi rwy’n meddwl bod y cyfamod ar gyfer Iddewiaeth yn unig am nad oes neb arall mewn gwirionedd yn ymarfer y pethau sy’n gysylltiedig ag ef heddiw. Mae hefyd yn grefyddol iawn ac nid yw’n berthnasol i’r rhai nad ydynt yn grefyddol.

Ymateb B

Gellir dadlau fod y syniad o gyfamod mewn Iddewiaeth yn gyffredinol oherwydd mae dwy fersiwn gynnar o berthynas cyfamod sy’n dangos hyn, sef, y rhai a wnaed rhwng Duw ac Adda, a rhwng Duw a Noa. Er y gallai rhai awgrymu, yn y ddau achos, eu bod wedi methu oherwydd bod pobl y byd wedi troi oddi wrth Dduw ac wedi pechu, y pwynt yw eu bod yn dangos y cyfle i bawb gymryd rhan. Felly, gellid awgrymu mai bwriad cyfamod yn ei ffurfiau gwreiddiol oedd bod yn gyffredinol; yn ogystal â hynny, gallwn ddadlau y gall y rhain gael eu gweld fel y ‘delfryd’ ar gyfer cyfamod.

Er gwaethaf hyn, mae’r cyfamod ag Abraham yn unigryw, oherwydd am y tro cyntaf, roedd cyfamod i fod gyda grŵp arbennig o bobl; er ei bod yn bosibl dadlau fod hyn yn barhad o’r thema cyfamod gan rai, mae’n bosibl awgrymu y gall telerau’r cyfamod gael ei ddehongli yn y fath fodd fel nad oedd y cyfamod gydag Abraham yn gyffredinol, ond wedi ei greu ar gyfer cenedl Israel yn unig.

Mae’n glir fod Duw wedi addo i Abraham y byddai’n dad i genedl fawr, gan gynnig bendith i’w ddisgynyddion. Mae hefyd yn amlwg o arwydd allanol y cyfamod hwn ar ffurf enwaediad, mai dyma’r gorchymyn cyntaf sy’n benodol i’r bobl Iddewig. Mae’n ymddangos, felly, fod hyn yn awgrymu ei fod yn eithaf penodol i’r bobl Iddewig, ac nid yw’n awgrymu bod hyn yn arfer sydd yn gyffredinol. Dyma’n sicr yw’r arwydd cryfaf eto bod y cyfamod yn unigryw i Iddewiaeth ac nid yn gyffredinol.

Ar y cyfan, er y gellid dadlau fod y cyfamod yn gyffredinol yn ei agwedd wrth ystyried cytundebau a wnaed rhwng Adda a Noa, mae hyn yn amheus yng ngoleuni’r cyfamod rhwng Duw ac Abraham. Fodd bynnag, o edrych yn agosach gallwn ddadlau nad yw’n cael ei benderfynu yn syml drwy’r un ddealltwriaeth hon o’r cytundeb cyfamod ar ei ben ei hun ac mae hyn yn agwedd hanfodol o’r ddadl. Mae ffyrdd eraill o weld y cyfamod rhwng Duw ac Abraham; yn wir, ni allwn ddehongli’r cyfeiriad at addewid Abraham gan Dduw i ‘holl bobloedd y ddaear’, fel cyfeirio at ddynoliaeth yn gyffredinol yn hytrach na dim ond cyfeirio at y gymuned Iddewig?

Ancient Hebrew writings; asafta / Getty images