Yn llythrennol mae’r gair Torah yn golygu ‘cyfarwyddyd’ neu ‘ddysgu’ ac yn cyfeirio at y pum llyfr cyntaf yn yr Ysgrythurau Hebraeg: Genesis, Exodus, Lefiticus, Numeri, a Deuteronomium. Fodd bynnag, gall hefyd olygu’r addysgu Iddewig cyflawn. Dyma’r ddogfen ganolog a’r ddogfen fwyaf pwysig yng nghrefydd Iddewiaeth ac mae wedi’i ddefnyddio fel sail i’r ffydd Iddewig drwy gydol ei hanes. Mae’r rhan fwyaf o Iddewon yn credu fod Duw wedi gorchymyn y Torah i Moses yn ystod y deugain diwrnod a dreuliodd ar Fynydd Sinai. Felly, pum llyfr Moses sydd bwysicaf i Iddewon gan eu bod yn cynnwys y mitzvot (gorchmynion) y mae’n rhaid iddynt eu dilyn fel pobl a ddewiswyd gan Dduw. Mae pum llyfr Moses yn cynnwys 613 gorchymyn i gyd, sy’n dangos sut mae Duw am i Iddewon fyw. Maent hefyd yn nodi delfrydau moesegol pobl Iddewig. Mae’r ffydd Iddewig yn seiliedig ar y Torah sy’n gweithredu fel prif fodd Duw o gyfathrebu gyda bodau dynol. Mae’r Torah yn cynnwys yr holl mitzvot angenrheidiol i arfer y grefydd; ac yn gweithredu fel modd i’r Iddewon gynnal eu rhan o’r berthynas gyfamod a wnaed gyda Duw yn Sinai. Mae syniad cynfodolaeth y Torah wedi bod yn sail i ddadl athronyddol rabineg drwy gydol y canrifoedd. Mae traddodiad Iddewig yn dweud wrthym fod Moses wedi derbyn y Torah gan Dduw ym Mynydd Sinai. Fodd bynnag, yn ôl traddodiad rabineg, mae’r Torah yn un o’r saith peth a grëwyd cyn i’r byd fodoli, a’i fod yn bresennol yn y nefoedd cyn i Dduw ei ddatgelu i Moses. Mae Iddewon uniongred yn credu, yn ogystal â derbyn y Torah ysgrifenedig ar Fynydd Sinai, fod Moses hefyd wedi derbyn y gyfraith lafar i’w throsglwyddo lawr, i ddechrau yn llafar gan bobl, o un genhedlaeth i un arall nes iddi gael ei hysgrifennu ar ffurf y Mishnah, y Talmud a’r Midrash yn y diwedd. Mae’r rhain yn parhau i fod yn sail i drafodaeth a dehongliad pellach gan rabiniaid a myfyrwyr yeshiva. Y Sefer Torah yw’r gwrthrych mwyaf sanctaidd yn y synagog, ac mae’r ffordd mae’n cael ei wisgo a’i drin yn pwysleisio’r ffaith hon. Fe’i cedwir yn yr Arch Sanctaidd, cwpwrdd sydd fel arfer yn cael ei adeiladu i wal Ddwyreiniol y synagogau yn y Deyrnas Unedig, gan mai dyma gyfeiriad Jerwsalem. Mae’r Arch yn cynrychioli’r blwch aur oedd yn cynnwys y Deg Gorchymyn yn y Deml wreiddiol yn y ddinas honno. (433 gair)