Wrth gynllunio eich barn a’ch dadleuon gwnewch yn siŵr bob amser eich bod wedi egluro’r dystiolaeth yn llawn a’ch bod wedi dweud beth yw goblygiadau’r ddadl o ran y gwerthusiad. Defnyddiwch y gweithgaredd hwn ar y cyd â’r adnoddau y gellir eu hargraffu a llenwch y tabl gan ychwanegu tystiolaeth a goblygiadau ar gyfer pob dadl cyn defnyddio’r adnodd hwn i weld syniadau sy’n cael eu hawgrymu ar gyfer tystiolaeth a goblygiad a’u cymharu â’ch rhai chi.

Dadl Tystiolaeth Goblygiad
Nid oedd gan Muhammad lawer o hyder.
Credai fod rhywbeth yn bod arno.
Byddai Muhammad wedi gallu gwrthod a bod â gormod o ofn i gludo’r neges.
Anogwyd ef gan ei wraig a’i deulu a’i ffrindiau agos.
Mae hyn yn awgrymu bod ganddo’r gefnogaeth iddo lwyddo.
Roedd yn cael ei gefnogi gan Dduw ac roedd yn ymddiried yn Nuw.
Duw oedd yn rheoli’r sefyllfa ac nid oedd popeth wedi’i adael i Muhammad.
Nid oedd datguddiad y Qur’an yn gyflawn.
Roedd datguddiadau Muhammad yn mynd rhagddynt a byddent wedi digwydd p’un bynnag.
Nid oedd unrhyw awgrym o fethiant o ran datguddiadau.
Roedd y datguddiadau ym Makkah yn berthnasol i bobl Makkah.
Roedd Makkah yn y diwedd dan reolaeth Muhammad felly nid oedd awgrym o fethiant hirdymor.
Dim ond rhybudd gafodd pobl Makkah ac ni ddywedwyd wrthynt sut i ymarfer Islam.
Roedd perygl na fyddai arferion Islam yn cael eu sefydlu.
Roedd gormod o wrthwynebiad i neges Muhammad
Cafwyd ymatebion negyddol i neges Muhammad gan bobl bwerus iawn oherwydd goblygiadau economaidd gwrthod eilunod.
Roedd posibilrwydd na fyddai Islam byth wedi ennill ei thir ac y byddai wedi dod i ben oherwydd y gwrthwynebiad cryf.
Cafodd Muhammad a’i ddilynwyr eu herlid a bu bron iddynt gael eu lladd.
Cafodd Muhammad a’i ddilynwyr eu cam-drin yn eiriol ac yn gorfforol ac yn y pen draw roedd bywyd Muhammad mewn perygl.
Unwaith eto, oherwydd yr elyniaeth a’r bygythiad i’r proffwyd, gallai Islam fod wedi cael ei dileu.