Gellir dadlau bod ein cyd-destun a’n cefndir yn dylanwadu ar bob un ohonom; nid oedd Muhammad yn eithriad.Y pwynt yw bod graddau’r dylanwad ar bob un ohonom yn amrywio. Felly, yng nghyswllt Muhammad mae angen i ni ddarganfod pa agweddau ar ei gefndir gafodd y dylanwad mwyaf arno a hefyd i ba raddau y gwnaethant ddylanwadu arno; yn ogystal, gallwn geisio canfod pa agweddau ar ei gefndir a wrthodwyd a beth oedd y rhesymau amlwg dros hyn.
Roedd neges Muhammad yn cyfeirio at undduwiaeth absoliwt; er nad oedd y neges yn gwbl newydd, oherwydd ei gysylltiad ag Iddewiaeth a’i ymwybyddiaeth o Gristnogaeth, gellir gweld ei bod yn sicr yn newydd i’r llwythau Arabaidd ac i’r bobl amldduwiol ym Makkah. Ymddengys, felly, bod hwn yn ffactor dylanwadol iawn ond hefyd yn rhywbeth newydd i bobl Makkah gan ei fod yn gwrthod y cyd-destun crefyddol uniongyrchol yn llwyr.
Mae hefyd yn amlwg o fodolaeth rhwydwaith clos o lwythi a oedd yn seiliedig ar godau ymddygiad penodol, nad oedd Muhammad yn derbyn popeth roedd yn ei weld. Gwrthodwyd anfoesoldeb yn gyfan gwbl, ynghyd ag esgeuluso merched a’r tlodion. Roedd hyn yn sicr yn gam dewr oddi wrth ei gefndir cymdeithasol ei hun; fodd bynnag, roedd hefyd yn cydnabod bod rhai gwerthoedd mewn cymdeithas lwythol a oedd yn werthfawr megis ‘anrhydedd’ a’r syniad o gymuned glos a oedd yn cefnogi ei gilydd. Mae’r syniadau hyn i’w gweld yn glir yn natblygiad yr Ummah yn ddiweddarach.
Yn gyffredinol, nid oes amheuaeth bod Muhammad wedi cael ei ddylanwadu; fodd bynnag, o edrych yn fanylach gallwn ddadlau na chafodd ei reoli gan y dylanwad hwn, a dyma’r gwahaniaeth hollbwysig. Fe wnaeth hyn ei alluogi i ddefnyddio ei gyd-destun uniongyrchol a dod i’w ddeall er mwyn datblygu ei syniadau newydd ei hun a chyflwyno’r neges a ddatguddiwyd iddo i’r gymdeithas.