Darllenwch y ddau ymateb i’r cwestiwn ‘I ba raddau y dylanwadodd cefndir Muhammad arno?’ Trafodwch pam y mae ymateb A yn ateb anwerthusol ac ymateb B yn ateb gwerthusol.

Ymateb A

1Mae rhai’n dadlau bod cyd-destun a chefndir Muhammad wedi dylanwadu arno, a’i fod wedi derbyn rhai pethau.

2Er enghraifft, daeth i gysylltiad â’r syniad o undduwiaeth absoliwt drwy ei gyswllt ag Iddewiaeth a’i ymwybyddiaeth o Gristnogaeth. Yn ychwanegol at hyn, daeth y codau moesol a’r gwerthoedd cymdeithasol llwythol cadarnhaol a oedd yn bodoli’n barod yn fodel ar gyfer yr Ummah. Gellir dweud hyn hefyd am y syniad o gefnogi’r gwan mewn cymdeithas.

3Mae eraill yn dadlau bod Muhammad hefyd wedi gwrthod rhywfaint o’i gyd-destun a’i gefndir. Er enghraifft, gwrthododd unrhyw beth ar wahân i undduwiaeth absoliwt. Roedd hefyd yn feirniadol o ymddygiad anfoesol y cyfnod ac, yn fwyaf arbennig, roedd yn amddiffyn merched. Yn olaf, gwrthododd hefyd esgeulustod a chreulondeb tuag at y gwan mewn cymdeithas.

4I gloi credaf fod cefndir Muhammad wedi dylanwadu arno oherwydd mae rhywun bob amser yn derbyn ac yn cymryd pethau’n ganiataol o ganlyniad i’w fagwraeth.

Ymateb B

5Gellir dadlau bod ein cyd-destun a’n cefndir yn dylanwadu ar bob un ohonom; nid oedd Muhammad yn eithriad. Y pwynt yw bod graddau’r dylanwad ar bob un ohonom yn amrywio. Felly, yng nghyswllt Muhammad mae angen i ni ddarganfod pa agweddau ar ei gefndir gafodd y dylanwad mwyaf arno a hefyd i ba raddau y gwnaethant ddylanwadu arno; yn ogystal, gallwn geisio canfod pa agweddau ar ei gefndir a wrthodwyd a beth oedd y rhesymau amlwg dros hyn.

6Roedd neges Muhammad yn cyfeirio at undduwiaeth absoliwt; er nad oedd y neges yn gwbl newydd, oherwydd ei gysylltiad ag Iddewiaeth a’i ymwybyddiaeth o Gristnogaeth, gellir gweld ei bod yn sicr yn newydd i’r llwythau Arabaidd ac i’r bobl amldduwiol ym Makkah. Ymddengys, felly, bod hwn yn ffactor dylanwadol iawn ond hefyd yn rhywbeth newydd i bobl Makkah gan ei fod yn gwrthod y cyd-destun crefyddol uniongyrchol yn llwyr.

7Mae hefyd yn amlwg o fodolaeth rhwydwaith clos o lwythi a oedd yn seiliedig ar godau ymddygiad penodol, nad oedd Muhammad yn derbyn popeth roedd yn ei weld. Gwrthodwyd anfoesoldeb yn gyfan gwbl, ynghyd ag esgeuluso merched a’r tlodion. Roedd hyn yn sicr yn gam dewr oddi wrth ei gefndir cymdeithasol ei hun; fodd bynnag, roedd hefyd yn cydnabod bod rhai gwerthoedd mewn cymdeithas lwythol a oedd yn werthfawr megis ‘anrhydedd’ a’r syniad o gymuned glos a oedd yn cefnogi ei gilydd. Mae’r syniadau hyn i’w gweld yn glir yn natblygiad yr Ummah yn ddiweddarach.

8Yn gyffredinol, nid oes amheuaeth bod cefndir Muhammad wedi dylanwadu arno; fodd bynnag, o edrych yn fanylach gallwn ddadlau na chafodd ei reoli gan y dylanwad hwn, a dyma’r gwahaniaeth hollbwysig. Fe wnaeth hyn ei alluogi i ddefnyddio ei gyd-destun uniongyrchol a dod i’w ddeall er mwyn datblygu ei syniadau newydd ei hun a chyflwyno’r neges a ddatguddiwyd iddo i’r gymdeithas.