Defnyddiwch yr offer golygu rhyngweithiol i ‘olygu’ y diffiniad hwn a chreu cofnod geiriadur sy’n cynnwys 180 o eiriau +/-5 cyn argraffu

Tawhid: y ddysgeidiaeth Islamaidd am undod Duw. Gellir cyfieithu ‘tawhid’ fel ‘undod’ ac weithiau fel ‘unoliaeth’. Mae’r ddysgeidiaeth yn datgan mai un yw Duw, nad oes ganddo bartneriaid ac nad oes neb yn gyfartal ag ef. Dim ond Duw yw Duw. Dyma sail y ffydd Fwslimaidd, a’r gwrthwyneb i tawhid yw ‘shirk’ (cysylltu partneriaid neu rai sy’n gyfartal â Duw) sef yr unig bechod anfaddeuol. Mae tawhid yn “undduwiaeth ddigyfaddawd” (Turner) a dyma’r “athrawiaeth sy’n diffinio Islam” (Esposito). Mae wedi’i chynnwys ym mhiler cyntaf Islam (y shahadah) ‘y datganiad o ffydd’ a dyma beth sy’n gwneud Mwslim (un sy’n ymostwng) yn Fwslim. Rhaid defnyddio iaith i fynegi priodoleddau Duw ond dim ond symbolau a throsiadau ydynt ac ni allant wneud cyfiawnder â hanfod Duw. Yn y pen draw, mae Duw y tu hwnt i eiriau a disgrifiadau. Mae’r disgrifiad gorau o nodweddion Allah wrth fynd drwy’r Qur’an i’w weld yn Sura 112: “Dywed, ‘Ef yw Duw, yr unig Un: Duw y Tragwyddol, Diamod. Ni chenhedla Efe ac ni chenhedlwyd Ef; ac nid oes neb tebyg Iddo.” Dyma, yn ei hanfod, yw tawhid. Mae unrhyw beth sy’n taflu amheuon ynglŷn â Tawhid yn cael ei ystyried yn ‘shirk’. Er bod ‘shirk’ fel arfer yn cael ei ystyried fel yr unig bechod anfaddeuol, mae cydnabyddiaeth mewn Islam o’r gwahaniaeth rhwng shirk llai a shirk mwy. Mae’r ail yn wrthodiad bwriadol, pendant a chlir o undod Allah. Gall y cyntaf fod yn ‘addoli’ unigolyn yn anfwriadol fel arwr neu ‘addoli’ materoliaeth. Yn fyr, mae unrhyw beth sy’n cael ei osod ar yr un lefel ag Allah, boed drwy esgeulustod neu ddiffyg persbectif, yn cael ei ystyried yn shirk. Mae tawhid yn offeryn ymarferol ar gyfer idbadah (addoli) drwy gydol oes yng ngweithredoedd bob dydd Mwslim a thrwy ei weithredoedd. (300 gair)

Defnyddiwch yr offer golygu rhyngweithiol i ‘olygu’ y diffiniad hwn a chreu cofnod geiriadur sy’n cynnwys 180 o eiriau +/-5 cyn argraffu